'Dymuno gwellhad llawn a buan' i ddau gefnogwr
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Caernarfon wedi dymuno "gwellhad llawn a buan" i ddau o'u cefnogwyr a gafodd eu hanafu yn dilyn anhrefn ymhlith y dorf yn eu g锚m Uwchgynghrair Cymru oddi cartref yn erbyn Y Fflint nos Sadwrn.
Fe gafodd un o'r unigolion anaf difrifol, yn 么l datganiad Heddlu'r Gogledd nos Sadwrn.
Bu'n rhaid dod 芒'r g锚m yn Stadiwm Essity i stop wedi llai na 20 munud o chwarae gyda'r t卯m cartref ddwy g么l i ddim ar y blaen - g锚m allweddol i ddau d卯m sy'n brwydro i aros ym mhrif adran p锚l-droed Cymru.
Mae CPD Y Fflint wedi dweud eu bod "yn condemnio'n llwyr ymddygiad gwarthus gan leiafrif o unigolion".
Mewn datganiad yn hwyr nos Sadwrn, dywedodd CPD Caernarfon: "Hoffwn ni ddiolch i'r parafeddygon, gweithwyr Ambiwlans San Ioan a ffisiotherapyddion y ddau glwb a ruthrodd i roi cymorth i ddau o'n cefnogwyr oedd wedi cael anaf yng ng锚m heno yn Y Fflint.
"Mae ein meddyliau ar hyn o bryd gyda'r ddau gefnogwr ac rydym yn dymuno gwellhad llawn a buan iddyn nhw."
'Diwrnod trist i b锚l-droed Cymru'
Roedd y g锚m yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C, ac fe dywedodd cadeirydd CPD Y Fflint, Darryl Williams ar raglen Sgorio eu bod wedi galw'r heddlu a bod y golygfeydd, yn dilyn "trais a ddaeth o nunlle".
Dywedodd un o gyflwynwyr y rhaglen, Sioned Dafydd ar Twitter ei bod "ddim eisiau gwneud sylw ar y golygfeydd ofnadwy a welson ni yng ng锚m Y Fflint a Chaernarfon ddoe".
Ond fe roedd eisiau datgan "pa mor ddiolchgar ydw i am gydweithwyr arbennig a wnaeth yn si诺r bod ni oll yn saff ac yn iawn mewn sefyllfa oedd yn frawychus i bawb yn y stadiwm".
Ychwanegodd: "Diwrnod trist i b锚l-droed Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r stadiwm am 17:40, gan anfon dau gerbyd ymateb cyflym ac ambiwlans argyfwng.
Ychwanegodd: "Cafodd un claf ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Aintree am driniaeth bellach."
Dywed Cynghrair JD bod y g锚m wedi ei hatal yn y 16eg munud ac fe adawodd y chwaraewyr y cae "yn dilyn sgyrsiau gyda rhanddeiliaid a chyngor gan yr heddlu".
Bydd yna fwy o fanylion maes o law ynghylch penderfyniad o ran dyddiad newydd posib ar gyfer y g锚m.
Roedd swyddogion Heddlu'r Gogledd a Heddlu Trafnidiaeth Cymru ar ddyletswydd yng ngorsaf reilffordd Y Fflint i "atal anhrefn pellach" wedi'r g锚m.
Fe gyhoeddodd yr heddlu orchymyn 24 awr i wasgaru pobl yn Y Fflint sydd mewn grym tan 18:30 nos Sul.
Mae'n rhoi'r hawl i swyddogion atal grwpiau rhag ymgynnull neu i ddychwelyd, ac i arestio unrhyw un nad sy'n cydymffurfio.
Mae'r llu hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn dyst i'r ymladd yn y stadiwm.