大象传媒

Arestio dyn, 38, yn dilyn marwolaeth dyn, 61, yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Cafodd yr heddlu eu galw i'r cyfeiriad ymaFfynhonnell y llun, Google

Mae dyn 38 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 61 oed yn Abertawe.

Cafodd yr heddlu eu galw i adeilad yn Orchard Court, New Orchard Street yng nghanol y ddinas am 12:45 ddydd Sul.

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio ac mae'r dyn 38 oed yn parhau yn y ddalfa.

Mae teulu'r dyn 61 oed yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol, er mae proses adnabod ffurfiol eto i ddigwydd, medd yr heddlu.

Dywedodd DCI Matt Powell o'r T卯m Ymchwilio i Droseddau Mawr: "Tra bod dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth rydym yng nghyfnod cynnar yr ymchwiliad yma.

"Mi fydden yn apelio ar unrhyw un sy'n byw yn neu ger cymuned New Orchard Street sydd efallai gyda gwybodaeth am y digwyddiad yma i gysylltu gyda Heddlu De Cymru."

Pynciau cysylltiedig