大象传媒

Ai m锚l a dant y llew ydy'r allwedd i achub bywydau?

  • Cyhoeddwyd
Gruffudd Rees
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Gruffudd Rees fod llawer o gwsmeriaid yn teimlo bod m锚l yn helpu eu hiechyd

Fe allai m锚l helpu'r ymdrech i ddod o hyd i wrthfiotigau newydd ac achub bywydau yn y dyfodol, yn 么l ymchwil newydd.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn rhybuddio y gallai afiechydon sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau ladd bron i 1.3m o bobl yn Ewrop erbyn 2050.

"Dyma un o'r bygythiadau mwyaf i iechyd, diogelwch bwyd a datblygu byd-eang heddiw," meddai WHO.

Erbyn hyn mae cannoedd o filoedd o bobl yn marw oherwydd heintiau cyffredin gan fod y bacteria sydd yn eu hachosi yn gallu gwrthsefyll triniaeth.聽

Yng Nghaerdydd mae ymchwilwyr yn edrych ar y posibilrwydd y gallai triniaethau traddodiadol helpu.

Mae t卯m yn ysgol fferylliaeth Prifysgol Caerdydd yn ymchwilio i weld a yw m锚l yn un ffordd o ddatrys y broblem. 聽

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd yr Athro Les Baillie y gallwn ddysgu o'n cyndeidiau a fu'n defnyddio m锚l i drin clwyfau

Dywedodd yr Athro Les Baillie o'r brifysgol: "Ry'n ni'n mynd yn 么l i weld a allwn ni ddysgu gan ein cyndeidiau.

"Mae m锚l yn aml yn cael ei ddefnyddio i drin clwyfau ac mae'n gallu bod yn effeithiol iawn."

Wrth ddadansoddi'r m锚l mae modd i wyddonwyr weld wedyn pa blanhigion mae'r gwenyn wedi ymweld 芒 nhw.聽

Os oes modd darganfod pa blanhigion sy'n cynnwys gwrthfiotig, mae'r gwyddonwyr yn hyderus y gallai hyn arwain at gynhyrchu cyffuriau newydd. 聽 聽

'Rhaid darganfod gwrthfiotigau newydd'

Ar hyn o bryd mae ymchwilwyr yng Nghaerdydd yn edrych ar un planhigyn yn arbennig, sef dant y llew.

Maen nhw'n dweud fod gwerth mawr i'r planhigyn wrth ladd bacteria firysau.聽

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Dr Iwan Palmer, mae'n broblem fawr bod microbau'n esblygu ymwrthedd i wrthfiotigau

Yn 么l Dr Iwan Palmer, ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd, mae taclo problem firysau sydd yn gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau yn her fawr.

Dywedodd: "Mae'r microbau hyn wedi esblygu ymwrthedd i lot o'r gwrthfiotigau ry'n ni'n eu defnyddio o ddydd i ddydd a 'dyn nhw ddim yn effeithiol rhagor.

"Felly mae'n rhaid darganfod gwrthfiotigau newydd.

"Ry'n ni fan hyn yn edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio deunyddiau naturiol, er enghraifft m锚l a blodau gwyllt fel dant y llew."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwyddonwyr wedi darganfod y gall dant y llew gynnwys cemegau all ladd firysau

Nid yw'r syniad o ddefnyddio meddyginiaethau naturiol i drin heintiau yn un newydd.

Mae m锚l wedi ei ddefnyddio ers oes yr Eifftiaid i drin clwyfau ac mae s么n am feddygon Myddfai o'r 12fed ganrif yn defnyddio dant y llew i drin defaid ar groen pobl. 聽

"Trwy ddefnyddio technoleg fodern ry'n ni nawr yn gallu gweld fod rhai o'r cemegion wir yn lladd firysau," dywedodd Dr Palmer.聽

M锚l a maeth blodau gwyllt

Nid yw'r s么n am ddefnyddio triniaethau naturiol traddodiadol i ddelio 芒 heintiau cyfoes yn synnu Gruffudd Rees, perchennog cwmni Gwenyn Gruffudd yn Nyffryn Tywi.

"Ry'n ni yn cynhyrchu m锚l o flodau gwyllt, a fi'n credu taw dyna'r m锚l gorau allwch chi gael. Yn y blodau gwyllt fel y dant y llew mae'r rhinwedd a'r maeth," dywedodd.

Mae Mr Rees wedi bod yn cadw gwenyn ers dros 12 mlynedd ac mae wedi clywed cwsmeriaid yn s么n yn aml fod y m锚l yn helpu eu hiechyd.

"Mae lot o bobl yn dweud fod m锚l wedi helpu nhw gyda'u clwyfau, neu efallai gyda chlefyd y gwair.

"'Sdim prawf gyda fi o hyn wrth gwrs ond mae shwd gyment o bobl wedi dweud stor茂au fel 'na wrtha'i dros y blynydde, mae'n rhaid eu bod nhw'n wir."

Pynciau cysylltiedig