Rygbi: Dynion a merched byddar Cymru yn bencampwyr
- Cyhoeddwyd
Mae gan Gymru ddau d卯m rygbi sy'n bencampwyr byd wedi i dimau saith bob ochr byddar y dynion a'r menywod ennill cystadleuaeth Cwpan y Byd yn yr Ariannin.
Fe enillodd y dynion y gystadleuaeth am y trydydd tro o'r bron ar 么l trechu Awstralia o 20-5 yn y rownd derfynol.
Fe wnaeth y menywod chwalu Lloegr o 32-0, wrth iddyn nhw gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf.
Ymhlith y sgorwyr i d卯m y dynion roedd yr asgellwr Sam Jukes ac wrth siarad 芒 rhaglen y Post Prynhawn yn gynharach dywedodd "ei fod yn brofiad rhagorol".
'Cysgu gyda'r cwpan'
"Mae fe heb setlo mewn eto - dim ond un dydd sydd wedi bod. Fi wedi bod yn cysgu gyda'r cwpan neithiwr - mae'n deimlad gwahanol.
"Ni wedi bod yn anelu i fod yn bencampwyr unwaith eto ond nawr mae'r teimlad bod ni actually wedi 'neud e."
Cyn cyrraedd y rownd derfynol roedd Cymru wedi trechu'r Ariannin a Lloegr.
Ni wnaeth merched Cymru ildio yr un pwynt yn y gystadleuaeth ac wrth gyfeirio at eu llwyddiant dywedodd Mr Jukes: "Mae'r merched wedi bod yn absolutely amazing - ddim wedi ildio yr un pwynt drwy'r gystadleuaeth.
"Fi wedi bod yn gwylio nhw'n ymarfer dros y flwyddyn ddiwethaf ac o'n i ddim yn disgwyl nhw i fynd mas a chwarae fel'na. Maen nhw wedi bod yn rhagorol."
Ychwanegodd Mr Jukes fod y profiad yn un diddorol ynghanol y tywydd cynnes.
"Mae'r tywydd yn dwym mas 'na," meddai.
"O'dd hi'n 30 gradd yn ystod y rownd derfynol - rili poeth.
"Mae pawb wedi bod yn delio gydag achosion gwahanol - ma' diet pawb wedi newid mas fan hyn.
"Fi'n rili hapus bo ni'n dod n么l ac yn gallu dweud ein bod ni'n bencampwyr y byd."
Ariannu'r daith eu hunain
Roedd hi'n ofynnol i'r chwaraewyr dalu am y daith eu hunain ac mae hynny wedi bod yn dipyn o gamp, ychwanegodd Sam Jukes.
"Mae wedi bod yn dipyn o straen i gasglu'r arian - gwerthu tocynnau raffl ac edrych am noddwyr gwahanol - mae'r cyfan wedi bod yn anodd dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae pethe wastad yn newid pan mae gennych daith sydd dros 10,000 o filltiroedd i ffwrdd ond mae'r cyfan wedi bod werth e."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2018