大象传媒

'Ras am ddyrchafiad drosodd' wedi i Wrecsam guro Notts County

  • Cyhoeddwyd
Paul MullinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Paul Mullin, prif sgoriwr Wrecsam, wnaeth unioni'r sg么r cyn goliau pellach gan Jacob Mendy ac Elliot Lee

Mae'r sylwebydd a chyn-chwaraewr Wrecsam, Waynne Phillips yn grediniol fod y ras am ddyrchafiad o'r Gynghrair Genedlaethol "drosodd" bellach, wedi buddugoliaeth Wrecsam ddydd Llun.

Fe wnaeth y Dreigiau guro Notts County o 3-2 mewn g锚m hynod gyffrous, a'r drama yn para tan yr eiliadau olaf wrth i'w golwr Ben Foster arbed cic o'r smotyn.

Mae'n golygu bod gan Wrecsam dri phwynt o fantais dros Notts County bellach ar frig y tabl, a g锚m mewn llaw, gyda dim ond pedair yn weddill i'w chwarae.

Roedd perchnogion y clwb, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, ar y Cae Ras i weld y perfformiad tyngedfennol, gyda Reynolds yn disgrifio'r g锚m wedyn fel un "brydferth, arteithiol".

'Ddim am daflu hi i ffwrdd'

Roedd y stadiwm yn llawn dop gyda thua 10,000 o gefnogwyr ar gyfer yr ornest, ac fe arhosodd llawer ohonynt ar 么l am sbel ar 么l y chwiban olaf i ddathlu gyda'r t卯m a chanu caneuon, gan gynnwys Yma O Hyd.

"Yr awyrgylch ar 么l y g锚m, dwi 'rioed 'di gweld rhywbeth tebyg ar y Cae Ras," meddai Waynne Phillips wrth siarad ar raglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru fore Mawrth.

"Roedd yr olygfa yn wych, a bydd o'n aros efo lot ohonan ni am rai blynyddoedd."

Ar ddiwedd y g锚m fe awgrymodd rheolwr Notts County, Luke Williams fod y "ras am ddyrchafiad drosodd", ac mae Phillips yn "cytuno".

Disgrifiad,

Cefnogwyr Wrecsam: 'Dyma ein tymor ni'

"Fydd Wrecsam ddim yn taflu hi ffwrdd o fan 'ma," meddai.

"Dwi'n dal i feddwl beth nes i dd'eud wythnosau, fisoedd yn 么l - bydd Wrecsam yn gorffen ar y brig, dwi'n gweld nhw'n eu gwneud hi o chwe phwynt."

Bydd Wrecsam oddi cartref yn Barnet ddydd Sadwrn, ond yna fe allen nhw ennill y gynghrair - a dyrchafiad yn 么l i'r Gynghrair B锚l-droed - yn un o'u dwy g锚m gartref sy'n weddill, yn erbyn Yeovil a Boreham Wood.

"Dyna be' dwi'n gobeithio, bod nhw'n gwneud hi adra ar y Cae Ras [yn erbyn Boreham Wood]," meddai Phillips. "Achos does 'na ddim awyrgylch fel dwi 'di gweld ddoe ar y Cae Ras."

'Dim calon ar 么l gen i'

Cyn y g锚m roedd Wrecsam a Notts County benben 芒'i gilydd, a ben ac ysgwyddau'n well na phawb arall yn y gynghrair - y ddau glwb ar 100 o bwyntiau yn y tabl, ac wedi sgorio dros 100 o goliau'r tymor yma.

Ac mewn gornest gyffrous, roedd Notts County ar y blaen ar yr egwyl cyn i Wrecsam ddod yn 么l yn yr ail hanner ac ennill, er gwaetha'r gic o'r smotyn hwyr.

Wrth roi teyrnged i'r gwrthwynebwyr, dywedodd Ryan Reynolds ei fod yn teimlo "balchder eithriadol" yn y ffordd y gwnaeth chwaraewyr Wrecsam "godi i'r achlysur" dan y pwysau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd hi'n g锚m nerfus i'w gwylio i'r cyd-berchnogion Rob McElhenney a Ryan Reynolds

"Dwi'n teimlo fel bod dim calon ar 么l gen i - nes i ddefnyddio pob curiad oedd gen i ar 么l yn y g锚m yna!" meddai wrth siarad gyda BT Sport.

"Roedd hwnna fel dim byd dwi wedi'i weld o'r blaen, ac yn dangos beth 'dych chi i gyd sydd wedi gwneud hyn drwy eich bywyd yn mynd drwyddo wrth wylio'r g锚m brydferth, arteithiol yna."

Cyn y g锚m roedd Reynolds a'i gyd-berchennog wedi cael eu hanrhydeddu gyda Rhyddid Wrecsam mewn seremoni yn Neuadd y Dref, ar 么l dod 芒'r "clwb a'r gymuned... i sylw y byd".

"Dwi'n gwybod ein bod ni yma fel eich bod chi'n diolch i ni am ryw reswm, ond dwi'n teimlo mai'r ffordd arall rownd ydy hi," meddai Reynolds yn y digwyddiad.

"Rydyn ni eisiau diolch i chi am beth 'dych chi wedi ei roi i ni. Mae'n anodd dod o hyd i'r geiriau i ddweud beth mae hyn yn ei olygu."

Ffynhonnell y llun, FILMCAFE
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Rob McElhenney a Ryan Reynolds eu hanrhydeddu mewn seremoni yn Neuadd y Dref Wrecsam cyn y g锚m

Er nad oedd rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson am ddathlu dyrchafiad y clwb nes ei fod yn "fathemategol" bendant, roedd ganddo ganmoliaeth fawr i Foster am ei gyfraniad.

Fe wnaeth Foster - cyn-golwr Lloegr, oedd wedi ymddeol o b锚l-droed cyn penderfynu dychwelyd i helpu Wrecsam yn wythnosau olaf y tymor - arbed cic o'r smotyn yn yr eiliadau olaf i warchod y fuddugoliaeth.

"Mae ymosodwyr yn cyfrannu at eiliadau mawr a golwyr hefyd, mae chwaraewyr mawr yn perfformio pan mae eu hangen nhw fwyaf," meddai Parkinson.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe arwyddodd Ben Foster i Wrecsam lai na thair wythnos yn 么l, yn dilyn anaf i'r golwr dewis cyntaf Rob Lainton

"Roedd o'n foment fawr i Fozzy. Nes i ddod ag o fewn am yr eiliadau yna, ac mae o wedi digwydd heddiw."

Dywedodd Foster, 40, fod arbed y gic o'r smotyn yn yr eiliad olaf i ennill y g锚m i'w d卯m wedi "cyfiawnhau" ei benderfyniad i ddychwelyd - ag yntau wedi dechrau ei yrfa b锚l-droed bron i ddau ddegawd ar fenthyg yn Wrecsam.

"Roedd o'n hysbys iawn mod i'n hapus wedi ymddeol, yn cael amser da yn chwarae golff," meddai wrth 大象传媒 Sport Wales.

"Wedyn fe wnaeth Wrecsam alw, a wir, mae'n si诺r nad oedd na'r un clwb arall y byswn i wedi dod allan o ymddeoliad i 'neud o ar ei gyfer."