大象传媒

Cyhoeddi enw dyn, 61, fu farw yn Abertawe dros y Pasg

  • Cyhoeddwyd
Cafodd yr heddlu eu galw i'r cyfeiriad ymaFfynhonnell y llun, Google

Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw dyn 61 oed fu farw yn Abertawe dros benwythnos y Pasg.

Mae dyn 38 oed yn parhau yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio David Green.

Cafodd yr heddlu eu galw i adeilad yn Orchard Court, New Orchard Street yng nghanol y ddinas am 12:45 ddydd Sul.

Mae'r llu'n parhau i ymchwilio ac wedi gwneud ap锚l o'r newydd am wybodaeth.

Dywedodd DCI Matt Powell o'r T卯m Ymchwilio i Droseddau Mawr: "Hoffwn ddiolch i aelodau'r cyhoedd sydd eisoes wedi dod ymlaen i gefnogi'r ymchwiliad.

"Rydym yn parhau i apelio am dystion a allai fod wedi bod gyda David, a welodd David, neu sydd ag unrhyw wybodaeth yngl欧n 芒 lleoliad David o ddydd Mercher 5 Ebrill i ddydd Sul 9 Ebrill 2023, gan gynnwys unrhyw drefniadau y gwnaeth David eu methu neu eu canslo."

Mae teulu Mr Green yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol ac maen nhw wedi gofyn am breifatrwydd.

Pynciau cysylltiedig