大象传媒

Cyhuddo cwmni o barhau i gloddio glo heb ganiat芒d

  • Cyhoeddwyd
Ffos-y-FranFfynhonnell y llun, Matt Cardy/Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dechreuodd y cloddio ar safle Ffos-y-Fran ger Merthyr Tudful yn 2007

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn ystyried dwyn achos llys yn ymwneud 芒 chloddio ar safle glo-brig (open cast mining) mwyaf y DU, fisoedd wedi i'r caniat芒d cynllunio ddod i ben.

Roedd palu am lo yn Ffos-y-Fran ger Merthyr Tudful i fod i orffen fis Medi y llynedd, wedi 15 mlynedd.

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y safle, Merthyr (South Wales) Ltd, wedi ymgeisio am estyniad ac yn disgwyl penderfyniad ar y mater.

Dywedodd y cwmni y byddai'n "amhriodol gwneud sylw ar yr adeg hon".

'Testun sbort'

Mae gr诺p ymgyrchu Coal Action Network yn dweud ei bod hi'n "afresymol" nad yw'r cyngor lleol na Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd.

Roedd y caniat芒d gwreiddiol, a roddwyd yn 2007, yn dod i ben ar 6 Medi 2022.

Honnodd Daniel Therkelsen, o Coal Action Network, fod y lofa wedi caniat谩u estyniad iddo'i hun am yr wyth mis diwethaf, heb unrhyw fath o oruchwyliaeth.

Mae ystadegau Awdurdod Glo'r DU yn dangos i dros 100,000 o dunelli o lo gael eu palu yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae trigolion lleol ac ymgyrchwyr wedi cysylltu 芒'r cyngor gyda lluniau ac adroddiadau o gloddio honedig dro ar 么l tro, meddai.

"Os yw cais y cwmni am estyniad yn aflwyddiannus yna dyw'r glo yna ddim yn mynd yn 么l i mewn i'r twll - mae wedi mynd, wedi'i werthu," meddai Mr Therkelsen.

"Gallwn ni ddim fforddio hyn yng nghanol yr argyfwng newid hinsawdd a mae'n troi'r ymrwymiadau amgylcheddol gan Lywodraeth Cymru yn destun sbort."

Mae disgwyl i gais y cwmni am estyniad naw mis o hyd gael ei drafod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ddiweddarach yn y mis.

Yr wythnos hon fe wnaeth y cwmni addasu eu cais, gan ddweud eu bod yn gofyn bellach am ganiat芒d i barhau i gloddio tan 31 Mawrth 2024.

Wedi hynny fe fyddai "cynhyrchu glo yn Ffos-y-Fran yn dod i ben yn llwyr", yn 么l llythyr a anfonwyd gan y cyngor i bobl 芒 diddordeb yn y cais.

Roedd cynlluniau ar gyfer tair blynedd pellach o gloddio wedi eu hawgrymu ar un adeg.

'Pwysigrwydd cenedlaethol'

Mae polisi glo Llywodraeth Cymru yn atal datblygiad glofeydd newydd ac i fod i wrthod estyniadau i rai sy'n bodoli'n barod, oni bai bod "amgylchiadau cwbl eithriadol".

Mae Merthyr (South Wales) Ltd wedi dadlau eu bod yn gymwys oherwydd eu r么l "o bwysigrwydd cenedlaethol" yn darparu ffynhonnell o lo lleol i weithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot.

Ond mae'r cwmni hefyd wedi cydnabod bod "cyllid annigonol" wedi'i roi i'r naill ochr er mwyn adfer y lofa yn 么l i weundir, gwyrdd agored er lles y gymuned leol, fel a gytunwyd yn wreiddiol.

Maen nhw wedi dweud bod angen amser arnyn nhw i roi cynllun adfer diwygiedig yn ei le.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Safle glo-brig Ffos-y-Fran o'r awyr

Mewn datganiad, dywedodd cyngor sir Merthyr: "Ers i'r cais cynllunio ddod i law ar 1 Medi 2022 i ymestyn bywyd y safle glo brig presennol, mae wedi dod i sylw'r cyngor bod cynhyrchu glo wedi parhau yn Ffos-y-Fran heb ganiat芒d cynllunio".

Fe ychwanegodd llefarydd ar eu rhan mai penderfynu ar y cais am estyniad oedd "blaenoriaeth y cyngor".

"Bydd unrhyw faterion yn ymweud 芒 gorfodaeth" yn cael hystyried yn sgil penderfyniad y pwyllgor cynllunio ar 26 Ebrill, meddai.

Gwrthod neu gefnogi?

Y dewis sy'n wynebu cynghorwyr yw naill ai gwrthod y cynlluniau neu ddweud y bydden nhw'n hoffi eu cymeradwyo nhw.

Ond yn yr achos hynny byddai'n rhaid cyfeirio'r mater at Lywodraeth Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cryn brotestio wedi bod yn erbyn y gwaith cloddio yn y gorffennol

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod wedi rhoi cyfarwyddwyd i'r cyngor sy'n eu hatal rhag rhoi caniat芒d i'r cais oni bai bod gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cytuno.

Wrth gyfeirio at y cyhuddiadau bod glo yn dal i gael ei gynhyrchu ar y safle, dywedodd y llefarydd bod gan "awdurdodau cynllunio lleol rymoedd i ymchwilio honiadau o ddatblygiadau sydd heb eu cymeradwyo".

"Nhw sydd, yn yr achos gyntaf, yn gyfrifol am ystyried gweithredu i orfodi'r amodau."

Dywedodd Merthyr (South Wales) Ltd eu bod yn ystyried hi'n "amhriodol gwneud sylw ar yr adeg hon" gan eu bod wedi derbyn cadarnhad bod yr ymgyrchwyr yn gweithio gyda chyfreithwyr ac yn ystyried dwyn achos llys.

Pynciau cysylltiedig