Cyhuddo dyn o lofruddio dyn arall, 61, yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 38 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 61 oed yn Abertawe.
Cafodd yr heddlu eu galw i adeilad Orchard Court ar New Orchard Street yng nghanol y ddinas am 12:45 ddydd Sul, ble cafodd corff David Green ei ddarganfod.
Fe gafodd Paul Jenkins o Abertawe ei arestio wedi'r digwyddiad, ac mae bellach wedi cael ei gyhuddo o lofruddio. Mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae teulu Mr Green yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd y swyddog sy'n arwain yr ymchwiliad, y Ditectif Brif Arolygydd Paul Raikes: "Tra bod dyn wedi cael ei gyhuddo ac nid ydym yn edrych am unrhyw un arall yn ymwneud 芒'r farwolaeth, mae ein hymholiadau'n parhau, ac rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth allai ein helpu i gysylltu 芒 ni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2023