大象传媒

Galw am frechlyn ffliw adar wrth i fesurau ddod i ben

  • Cyhoeddwyd
Ieir
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddaw mesurau gorfodol i gadw dofednod ac adar caeth dan do i ben yng Nghymru ddydd Mawrth

Fe ddylai Llywodraeth Cymru ystyried brechlyn i fynd i'r afael 芒'r ffliw adar, yn 么l rhai sy'n cadw dofednod.

Mae mesurau gorfodol i gadw dofednod ac adar caeth dan do yn dod i ben ledled Cymru ddydd Mawrth.

Ond mae yna bryder y gallai'r sefyllfa ailadrodd ei hun eto'r flwyddyn nesaf, os nad oes mwy'n cael ei wneud i atal yr haint.

Yn 么l Llywodraeth Cymru y ffordd fwyaf effeithlon o gadw Ffliw Adar draw yw defnyddio "mesurau hylendid a ".

Yn y DU mae dros 330 achos o ffliw adar wedi cael eu cadarnhau a phedair miliwn o adar wedi cael eu difa yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ers Hydref 2022, mae chwech achos o ffliw adar wedi'u cadarnhau ar safleoedd yng Nghymru.

Fe gafodd yr achos diweddaraf ei gofnodi ddydd Iau diwethaf ar safle ger Y Drenewydd ym Mhowys.

'Pryderus'

Mae Ioan Humphreys yn ffermio 32,000 o ddofednod yng Ngharno, Powys ac mae ganddo deimladau cymysg am godi'r mesurau.

Disgrifiad,

Pryder wrth i fesurau ffliw adar dod i ben

"Hoffwn i weld yr ieir yn mynd allan ond dwi hefyd yn bryderus iawn am yr achos yma o ffliw adar, gan ei fod mor agos at adref," meddai.

"Mae'n anodd dod o hyd i yswiriant erbyn hyn oherwydd bod cymaint o achosion erchyll o ffliw adar wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf. Felly ydy, mae'n bryder ond mae'n sied rydd, ac mae'r adar yn hoffi mynd allan."

Fe gafodd y penderfyniad i godi'r mesurau ar gadw dofednod dan do ei wneud yn dilyn asesiad o'r risg o ran ffliw adar.

Er bod y mesurau wedi'u codi, mae Parth Atal Ffliw Adar yn parhau mewn grym.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bob un sy'n cadw adar yng Nghymru barhau i gadw at fesurau bioddiogelwch gorfodol.

'Afiechyd ofnadwy'

Un sydd wedi buddsoddi'n helaeth mewn cyfarpar bioddiogelwch yw Ll欧r Jones, ffermwr ieir o Lanfihangel Glyn Myfyr ger Corwen.

Dywedodd ei bod yn hanfodol parhau i lynu at y mesurau, gan fod y clefyd mor anodd i'w reoli.

"Mae o'n andros o anodd stopio yr afiechyd i ddod mewn" meddai.

"'Dach chi wir mond angen un gram o dail ieir sydd efo'r avian flu ddod fewn, os 'di hwnna ar eich sgidie' neu'ch dillad, i'r ddiadell ga'l o i gyd. O fewn pedwar diwrnod maen nhw 'di marw i gyd. Mae'r afiechyd yn ofnadwy."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ll欧r Jones wedi buddsoddi'n helaeth mewn cyfarpar bioddiogelwch

Wrth gadw 32,000 o ieir ar ei fferm, mae Mr Jones yn rhagweld nad dyma fydd y diwedd ar gadw dofednod dan do.

"Dw i'n meddwl hwn ydy'r trydydd neu pedwerydd blynedd 'dan ni 'di gorfod 'neud o yn y gaeaf," meddai.

"Dwi'n gweld ni'n gorfod cadw nhw mewn eto gaea' nesa. Dwi'n gobeithio fydd 'na rhyw vaccine yn dod allan i achub yr adar rili."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Meirion Owen fod angen cadw golwg fanwl ar y sefyllfa

Mae brechlyn eisoes yn cael ei ddefnyddio i leihau effaith yr achosion mewn gwledydd y tu allan i Ewrop, gan gynnwys China, Mecsico a'r Aifft.

Mae Meirion Owen o Lanarthne, Sir Gaerfyrddin sy'n cadw hwyaid, hefyd yn cefnogi'r alwad am frechlyn.

"Bob cyfle, pan chi'n mynd mewn i'r sied, agor y drws, mae'r hwyaid yn moyn mynd allan yn syth," dywedodd.

Disgrifiad,

Hwyaid Meirion Owen yn cael mynd am (c)wac unwaith eto

"Mae e'n hyfryd mewn un ffordd bo nhw'n gallu mynd allan, ond eto, mae'n rhaid cadw llygad yn fanwl achos dyw'r clefyd ddim wedi mynd wrthon ni.

"Rwy'n credu falle bod rhaid edrych i fewn, a ydyn ni'n brechu'r anifeiliaid yma? Wrth symud ymlaen, mae'n rhaid edrych ar ryw ffordd allan o hwn."

Yn 么l Swyddog Polisi NFU Cymru, tra bod unrhyw beth sy'n lleihau'r risg o'r ffliw adar i'w groesawu, dydy brechlyn ddim yn ateb syml.

"Wrth gwrs, fydd 'na gost wrtho fo, wedyn 'dach chi eisiau ei roi fo i'r adar pan fyddan nhw'n ifanc ac hefyd mae o'n gallu effeithio arnoch chi os 'dach chi eisio gwerthu'ch cynnyrch," meddai Dafydd Jarrett.

"Mae 'na amryw o bethau gyda brechiadau sydd yn sicr yn bositif ond mae 'na bethau hefyd y mae'n rhaid i chi ystyried."

'Cadw llygad ar y sefyllfa'

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine nad oedd brechlyn wedi ei ddiystyru'n llwyr.

Meddai: "Un o'r elfennau hollbwysig yw cael brechlyn addas fyddai'n darparu lefelau uchel o amddiffyniad i ddofednod ac adar.

"Rydym yn gweithio gyda Defra, Llywodraeth yr Alban a'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol i fonitro argaeledd brechlynnau ar gyfer ffliw adar ac yn gweithio'n agos gyda chymheiriaid yn rhyngwladol i gadw llygad ar y sefyllfa wrth iddi ddatblygu.

"Un o hanfodion brechlynnau yw bod angen iddynt fod yn amddiffynnol ac effeithiol.

"Fodd bynnag, yn gyffredinol, rhaid inni gofio mai'r ffordd orau o gadw ffliw adar draw yw trwy fesurau hylendid a bioddiogelwch trylwyr."