Galw am 'fesurau radical' i ddiogelu'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae angen cyfres o "fesurau radical" i fynd i'r afael 芒'r gostyngiad yn nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg mewn cymunedau sy'n draddodiadol yn gadarnleoedd yr iaith, yn 么l un gr诺p ymgyrchu.
Wrth siarad 芒 Newyddion S4C, dywedodd mudiad Dyfodol i'r Iaith eu bod wedi cyflwyno nifer o argymhellion i gomisiwn arbennig gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru a hynny'n dilyn canlyniadau'r cyfrifiad diweddar.
O ran ffigyrau'r cyfrifiad, Sir G芒r welodd y cwymp mwyaf yn nifer y siaradwyr ond yng Nghaerdydd roedd cynnydd sylweddol mewn rhai ardaloedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Doedd penawdau'r cyfrifiad ddim beth roedden ni'n gobeithio ei weld. Ond mae'n bwysig nodi bod mwy i'r stori na dim ond y pennawd, ac mae mwy i bolisi iaith na dim ond y cyfrifiad.
"Ciplun o'r degawd diwethaf sydd yn nata'r cyfrifiad - degawd lle y gwnaethon ni gyhoeddi Cymraeg 2050 yn 2017 a gosod sylfeini cadarn i'r Gymraeg dyfu a chreu Cymru wirioneddol ddwyieithog."
Fe welodd Gymru gwymp o 1.2% yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yn y ddegawd ddiwethaf ac felly rhyw 538,000 sy'n medru'r iaith erbyn hyn.
Allan o'r 10 cymuned yng Nghymru welodd gynnydd yn nifer y siaradwyr, roedd saith yng Nghaerdydd.
Fe welodd Caerdydd gynnydd o 11.1% i 12.2% gydag ardal Parc Fictoria yn gweld y cynnydd mwyaf o 6.8% a Threganna yn ail gyda chynnydd o 4% ers 2011.
Yn Sir G芒r yn y gorllewin roedd yna gwymp o ryw 43.9% i 39.9%.
Roedd 6 allan o'r 10 cymuned, a welodd y cwymp mwyaf yng Nghymru, yn Sir Gaerfyrddin.
Mae'r cymunedau hynny yn cynnwys Brynaman, Y Garnant a Glanaman - a welodd ostyngiad o 9.7%.
I Hanna Medi Merrigan a Lowri Jones - ffrindiau sy'n byw yng Nghaerdydd - roedd symud i'r brifddinas o'r gorllewin yn ddewis amlwg.
"O'dd y ddwy ohonom ni ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae'r ddwy ohonom ni wedi bennu lan yng Nghaerdydd," meddai Lowri Jones, yn wreiddiol o Borth Tywyn.
"A fi'n credu ma' hwnna'n apelio i bobl oedran gweithio fel ni, i symud i Gaerdydd ac mae'r [Gymraeg] yn ein cadw ni yma
"Fi yn teimlo bach yn euog fod niferoedd yn Sir G芒r yn lleihau, ond mae angen rhywbeth i ddenu ac yna cadw pobl yn Sir G芒r."
I Hanna Medi Merrigan mae magwraeth Gymraeg mewn dinas sy'n cynnig amrywiaeth i'w merch Marged yn un rheswm dros symud o bentref Pontyberem i Gaerdydd.
"Dwi'n gwybod bod fy merch i'n mynd i gael ei magu mewn ardal ble mae'n mynd i ddod i gyswllt gyda diwylliannau, o bosib bydde hi ddim yn cael yr un cyfleoedd yn y gorllewin," meddai.
Mae Dyfodol i'r Iaith wedi ymateb i Gomisiwn Cymunedau Cymraeg a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru gan ddweud fod angen cyfres o "fesurau radical" i gryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith.
"Rhydd i bobl fyw ble bynnag y mynnon nhw, mae yn bwysig bod pobl yn cael cyfle i fyw mewn llefydd, cymunedau newydd i ymestyn eu profiad bywyd," meddai Dylan Roberts, Prif Weithredwr Dyfodol i'r Iaith.
"Ond cyn bwysiced ag yw hi i bobl ifanc Cymraeg fynd i Gaerdydd i weithio a chael addysg mae'n rhaid i ni hefyd beidio 芒 cholli ffocws ar bobl ifanc sy' 'di mynd i addysg bellach sy'n llawer mwy tebygol o fyw yn eu cymunedau.
"Mae nifer fawr o ffactorau angen eu hystyried i geisio mynd i'r afael 芒 hyn - mae'n ymwneud 芒 thai, gwaith a dylanwad ymhlith rhieni ifanc newydd."
'Rhan o batrwm'
"Yr hyn ni am weld yw cynnydd ymhob man nid bod un ardal yn cynyddu ar draul ardal arall," medd Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
"Ers degawdau mewn gwirionedd ni'n gallu gweld y patrwm yma yn dechrau - n么l yn y 50au a'r 60au.
"Bryd hynny, cyflogwyr megis y 大象传媒, ITV ym Mhontcanna a'r amgueddfa werin, y math yna o gyflogwyr [oedd yn denu].
"Be' sy' 'di newid, yw bod 'na strwythurau yma rwan sy'n gwneud byw bywyd Cymraeg yn hawdd iawn.
"Mae yna ysgolion cynradd yma gyda thros fil o blant mewn addysg Gynradd Gymraeg yn y ward yma [Treganna] yn unig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022