大象传媒

'Anoddach i bobl ag anabledd gael swydd nag a fu'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Lee Martin Royle yw un o'r unigolion sy'n dysgu sgiliau gwerthfawr yn Antur Waunfawr, ger Caernarfon

Mae elusen sy'n rhoi cymorth i bobl 芒 nam golwg wedi mynegi pryder bod hi'n anoddach ar hyn o bryd i unigolion ag anabledd gael gwaith na 15 neu 20 mlynedd yn 么l.

Mae un o weithwyr newydd yr elusen RNIB Cymru wedi disgrifio sut y gafodd trafferth dod o hyd i waith am 20 mlynedd cyn cael ei benodi.

Roedd yna groeso yn gyffredinol ym mis Mawrth pan gyhoeddodd y Canghellor, Jeremy Hunt, gynlluniau i'w gwneud hi'n haws i bobl ag anableddau gael swydd.

Ond mae elusennau yng Nghymru'n rhybuddio y bydd unigolion yn parhau i wynebu rhwystrau, a bod y camau sydd ar droed ddim yn mynd yn ddigon pell.

Mae elusen yn y gogledd sy'n darparu hyfforddiant a phrofiad gwaith i bobl ag anableddau dysgu ers y 1980au wedi pwysleisio pwysigrwydd "galluogi pobl i gael cyfleoedd gwaith o bwrpas".

Dywedodd Sian Williams o Antur Waunfawr "bod hi'n hanfodol" i greu cyfleoedd ar gyfer pobl ag anghenion dysgu dwys sy'n "galluogi nhw i ddysgu sgiliau newydd ac i ddatblygu a rhoi yn 么l i'r gymdeithas".

Cafodd Nick Lancaster, sydd wedi ei gofrestru'n ddall, gynnig gwaith gan RNIB fis diwethaf. Mae wedi colli cyfri sawl tro y methodd 芒 chael ei gyflogi yn ystod y 20 mlynedd blaenorol.

"Mae hi'n anodd i nifer o gyflogwyr weld sut allen nhw gynorthwyo fi yn y gweithle ac felly maen nhw wedi bod yn ofni cyflwyno unrhyw fesurau personol i helpu," meddai Nick.

"Dyw rhai cyflogwyr ddim yn deall pa gyfarpar a chymorth dwi angen, ac efallai eu bod nhw yn meddwl y byddai unrhyw gymorth ychwanegol yn rhy anodd i'w ddarparu tra fy mod i'n gweithio o adref.

"[Mae hynny] er gwaetha'r ffaith bod fy nghartref wedi'i addasu yn barod ar gyfer fy anabledd ac felly mae fy nghartref yn le addas i fi weithio."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Methodd Nick Lancaster 芒 chael gwaith am 20 mlynedd

Bydd Nick yn gallu gwneud ei swydd newydd o adref ond yn y gorffennol mae'r angen i deithio i gyrraedd unrhyw swydd wedi bod yn broblem, meddai.

Mae byw yng nghefn gwlad hefyd yn gallu bod yn rhwystr i ddod o hyd i waith - hynny oherwydd diffyg trafnidiaeth cyhoeddus tu fas i oriau gwaith arferol ac ar benwythnosau.

Mae heriau eraill yn cynnwys ffurflenni cais gyda phrint sy'n rhy fach i bobl 芒 phroblemau golwg.

Fe allai diffyg hyder i ddatgelu anabledd cyn cael cyfweliad achosi i berson beidio trio am y swydd hefyd.

'Gwahaniaeth mawr newidiadau bach'

Yn 么l RNIB Cymru, mae tua un o bob pedwar person sydd wedi colli'u golwg yn cael eu cyflogi, ond 15 i 20 mlynedd yn 么l roedd un o bob tri mewn cyflogaeth.

Dywedodd Ansley Workman, cyfarwyddwr RNIB Cymru: "Mae'r niferoedd yn mynd yn llai ac yn llai ac yn amlwg rydyn ni'n pryderu am hynny.

"Os ydych chi'n ystyried costau byw a'r problemau sy'n codi gyda hynny, mae pobl angen gwaith ac angen ennill cyflog."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Ansley Workman, cyfarwyddwr elusen RNIB Cymru, bod llai o bobl sydd wedi colli eu golwg yn cael eu cyflogi a bod hynny'n bryder

Ychwanegodd: "Rydym wedi cyflwyno cynllun o'r enw 'Visibly Better Employer' ac yn gweithio gyda chwmn茂au mawr cenedlaethol a rhai bach a lleol er mwyn rhoi'r sgiliau a'r dealltwriaeth iddyn nhw a sicrhau eu bod yn gallu troi'u gweithle yn llefydd sy'n caniat谩u mynediad i bobl sydd wedi colli eu golwg.

"Dwi'n credu ei fod yn fater o ddeall weithiau y gallai newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.

"Fe allai rhai pobl ond angen rhywbeth mor syml ag osgoi goleuadau llachar ble maen nhw'n gweithio neu ffontiau maint mwy ar y cyfrifiadur."

Yn 么l ffigyrau diweddaraf yr ONS, mae'r bwlch rhwng pobl anabl mewn gwaith yng Nghymru a phobl heb anabledd mewn gwaith yn 32.3% - tua 6% yn uwch na'r cyfartaledd ar draws y DU.

Wrecsam, Blaenau Gwent a Thorfaen sydd 芒'r bwlch cyflogaeth mwyaf o holl ardaloedd awdurdodau lleol Cymru.

Wrth nodi camau yng Nghyllideb Llywodraeth y DU fis diwethaf i hwyluso ymdrechion unigolion anabl i gael cyflogaeth, dywedodd Jeremy Hunt y bydd Asesiadau Gallu i Weithio yn dod i ben. Bydd hynny'n galluogi pobl i chwilio am waith heb boeni am golli budd-daliadau.

Bydd cynllun Cefnogaeth Gynhwysol newydd yn rhoi hyfforddiant a chymorth yn y gweithle i unigolion sy'n anabl, neu'n byw gyda chyflwr iechyd hirdymor. Bydd Llywodraeth y DU yn ariannu hyd at 50,000 o leoliadau gwaith bob blwyddyn.

'Heb fynd yn ddigon pell'

Dywed yr elusen Scope eu bod wedi galw am y math yma o newidiadau ers sawl blwyddyn.

Ond maen nhw hefyd yn dadlau y bydd angen sicrhau swyddi addas ar gyfer unigolion anabl, a bod dal angen mynd i'r afael 芒 phroblemau ehangach sy'n eu hwynebu yn y gweithle.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Megan Thomas, o elusen Anabledd Cymru, bod hi'n anodd i bobl anabl gael swydd 芒 chyflog uwch

Dywedodd Megan Thomas, swyddog polisi ac ymchwil Anabledd Cymru: "Mae dod 芒'r Work Capability Assesment i ben yn beth positif. "Dyw e ddim yn ffit i bwrpas... ond dyw'r newid ddim yn mynd yn ddigon pell.

"Un o'r pethau 'ry'n ni'n ei weld yw llawer o rwystrau nid jyst o ran cael gwaith, ond cael gwaith sy'n talu cyflogau uwch.

"Mae ymchwil Cyngres yr Undebau Llafur yn dangos bod pobl anabl yn cael eu gorgynrychioli o fewn swyddi t芒l isel a'u tangynrychioli o ran gwaith incwm uchel.

"Mae'r rhwystr yna'n bodoli am sawl rheswm, boed yn fynediad at addysg neu fynediad i'r gweithle ei hun."

Mae Ben Francis, cadeirydd polisi Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) Cymru, yn cytuno bod y Canghellor wedi "colli cyfle i fynd ymhellach".

Dywedodd: "Byddai wedi bod yn well gyda ni i weld y llywodraeth a chyflogwyr yn dod at ei gilydd i gyflwyno rhyw fath o gynllun kick-start a fyddai, yn y pen draw, yn annog pobl anabl i'r gweithle ac un trywydd fyddai annog hunan-gyflogaeth fel llwybr posib.

"Mae adroddiad gan yr FSB wedi canfod bod 25% o berchnogion busnesau bach naill ai ag anabledd neu ryw fath o salwch, felly mae modd dysgu llawer ganddyn nhw ynghylch manteision hunangyflogaeth," ychwanegodd.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i gychwyn sgwrs am anabledd yna ewch i bbc.co.uk/siaradanabledd.