大象传媒

Cynnig newydd i ddod 芒 streiciau iechyd i ben?

  • Cyhoeddwyd
Streic GMBFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae undebau iechyd wedi bod yn streicio dros d芒l ac amodau ers diwedd 2022

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnig terfynol sy'n "godiad sylweddol" o ran t芒l i staff iechyd, gydag undebau i bleidleisio ar y cynnig newydd yn fuan.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan y bydd mwyafrif yr undebau yn awgrymu i'w haelodau dderbyn y cynnig, ond un sydd wedi gwneud hynny hyd yma.

Mae'r cynnig bellach yn cynnwys taliad untro o 3%, wedi'i 么l-ddyddio i'r llynedd, a 5% yn ychwanegol o ddechrau'r mis hwn.

Yn 么l Ms Morgan mae'n golygu y bydd y staff GIG Cymru sy'n derbyn y t芒l isaf yn cael 拢22,720 y flwyddyn - 拢11.39 yr awr.

Trafodaethau 'anodd'

Ychwanegodd fod y trafodaethau wedi bod yn "anodd", ond fod y llywodraeth yn "ddiolchgar iawn am yr agwedd gadarnhaol yn y trafodaethau a arweiniodd at y cynnig gorau a therfynol hwn".

Dywedodd undeb Unite, fydd yn cynnal pleidlais ymysg ei haelodau fis Mai, fod y cynnig yn is na chyfradd chwyddiant ond yn "welliant sylweddol" ar yr hyn oedd Llywodraeth Cymru wedi'i gynnig yn flaenorol.

Er nad yw wedi cynghori aelodau ar sut i bleidleisio, mae unrhyw weithredu diwydiannol oedd wedi'i drefnu ganddynt wedi cael ei ohirio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Eluned Morgan y bydd y mwyafrif o undebau yn awgrymu i'w haelodau dderbyn y cynnig

Dywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN), fydd yn agor eu pleidlais nhw ddydd Llun, fod y cynnig newydd "wedi cymryd sawl wythnos i'w gyrraedd".

Dydyn nhw ddim yn awgrymu i aelodau pa ffordd i bleidleisio chwaith, gan gydnabod y bydd y penderfyniad yn "dibynnu ar sawl ffactor gwahanol o berson i berson".

"Dyw'r cynnig yma ddim yn dod yn agos at y t芒l mae ein haelodau wedi bod yn ymgyrchu amdano," meddai cyfarwyddwr RCN Cymru Helen Whyley.

"Rydym wedi trafod yn ddiflino dros yr wythnosau diwethaf i gael y cynnig gorau posib i'n haelodau, ac rydym yn ffyddiog y bydd yn mynd ychydig o'r ffordd at helpu ein haelodau gyda'r argyfwng costau byw."

Undeb arall sydd ddim am roi cyngor i aelodau ar sut i bleidleisio ydy'r GMB, gan ddweud "nad yw'n mynd yn ddigon pell".

Ond mae'r undeb yn cydnabod mai dyma'r "cynnig gorau yr oedd modd ei gyflawni yn y trafodaethau".

'Risg y bydd yn cael ei dynnu 'n么l'

Mae undeb Unsain wedi dweud y byddan nhw'n awgrymu i'w haelodau dderbyn y cynnig diweddaraf.

"Tra'n bod yn gwybod eu bod yn haeddu mwy, mae'r cynnig yma yn gam sylweddol ymlaen, a'r gorau yr oedd modd ei gyflawni yn y trafodaethau," meddai pennaeth ymgyrchoedd Unsain Cymru Jess Turner.

"Os ydy gweithwyr iechyd yn ei wrthod, mae 'na risg y bydd y cynnig yn cael ei dynnu 'n么l."

Mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd hefyd yn annog ei haelodau i dderbyn y cynnig, gan ddweud mai "heb os, dyma'r cynnig gorau y mae modd ei gael".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd undebau yn pleidleisio ar y cynnig newydd yn fuan

Fe wnaeth nyrsys wrthod y cynnig diweddaraf gan Lywodraeth Cymru fis diwethaf, gyda'r RCN yn dweud eu bod wedi gwneud hynny "o fwyafrif llethol".

Roedd bydwragedd hefyd wedi gwrthod y cynnig, ynghyd 芒 staff ambiwlans undebau GMB ac Unite.

'Efallai mai streicio eto fyddwn ni'

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru fore Gwener dywedodd Katherine Davies o'r RCN yng Nghymru fod y cynnig "lot yn is nag oedden ni di obeithio amdano".

"Ydy, mae'n well na'r cynnig diwethaf, ond mae lot yn is nag oedden ni wedi'i obeithio," meddai.

"Dydi'r cynnig yma ddim eto yn cwrdd yn y canol - mae lot is. Mae'n llai na 5% neu 6% mewn blwyddyn mewn gwirionedd.

"Bydd y pleidleisio yn dechrau wythnos nesaf ac yn cau rhyw bryd ym mis Mai. Mae'n dibynnu beth yw ymateb yr aelodaeth ac efallai mai streicio eto fyddwn ni dros yr haf."

Dadansoddiad gohebydd gwleidyddol 大象传媒 Cymru Adrian Browne

Er gwaethaf gwelliannau mewn amseroedd aros, parhau dan bwysau mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac fe fydd gweinidogion Llafur, wrth gwrs, yn ysu i ddod 芒 streiciau gan weithwyr y GIG i ben.

Mae'r llywodraeth yn mynnu eu bod wedi gwneud popeth posibl i ddod o hyd i bob ceiniog sb芒r ar gyfer codiadau cyflog.

Ond gyda chostau byw yn parhau i godi'n sylweddol, all neb feio arweinwyr yr undebau am beidio dathlu cynnig o 5% - er bod taliad untro o 3% wedi'i 么l-ddyddio i'r llynedd yn rhan o'r fargen hefyd.

Mae'r holl becyn taliadau'n well fyth, medd Llywodraeth Cymru, os gymrir elfennau eraill fel patrymau gwaith i ystyriaeth.

Nid cyflog yw'r unig destun pryder chwaith - mae'r undebau wedi bod yn pwysleisio fod gallu'r GIG i ddenu a chadw staff yr un mor bwysig.

Bydd aelodau'r undebau yn pleidleisio dros yr wythnosau nesaf. Y cwestiwn i bwyso a mesur fydd hyn - a oes modd gwasgu mwy fyth allan o Lywodraeth Cymru, neu'r geiniog yma yw diwedd y g芒n mewn gwirionedd?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ar Dros Frecwast fod y cynnig "dal ymhell yn is na'r hyn fyddai angen i ddod 芒 chyflogau 'n么l i'r hyn oeddan nhw tua 2008, maen nhw dal yn is na chwyddiant".

"Be sy'n rhwystredig ydy bod y llywodraeth yn gwneud rhai o'r petha' mae Plaid Cymru wedi gofyn iddyn nhw wneud fisoedd yn 么l - edrych yn ofalus ar sut i ddefnyddio arian wrth gefn.

"Mae 'na bethau oedd y llywodraeth yn nawddoglyd iawn yn ei ddweud wrthan ni, y gwrthbleidiau, nad oedd posib gwneud o ran defnydd arian wrth gefn ac ati.

"Oeddan ni'n gwybod fod o'r peth iawn i neud, ac mae'r llywodraeth r诺an wedi penderfynu gwneud hynny."

Ychwanegodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George ei bod yn "siomedig fod y llywodraeth Lafur wedi dweud yn wreiddiol nad oes ganddynt yr arian i gyllido cynnig gwell".

"Gan ei bod yn ymddangos eu bod wedi canfod yr arian wedi'r cwbl, mae'n iawn fod y cyhoedd yn cwestiynu pam ei bod wedi cymryd cyhyd i ddarganfod datrysiad."