大象传媒

Camsillafiad prawf rhybudd argyfwng 'yn wall technegol'

  • Cyhoeddwyd
Neges
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe sylwodd rai ar wall yn y neges Gymraeg

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud mai problem dechnegol wnaeth achosi gwall sillafu mewn prawf rhybudd argyfwng ddydd Sul.

Fe gafodd y neges awtomatig ei hanfon i ffonau symudol ar draws y DU am 15:00.

Roedd yn brawf o negeseuon fyddai'n cael eu hanfon i bobl petai argyfwng go iawn.

I ffonau symudol yng Nghymru, fe ymddangosodd y neges yn Gymraeg yn gyntaf ac yna'n Saesneg.

Fe ddechreuodd y neges trwy ddweud: "Prawf o wasanaeth Rhybuddion Argyfwng Llywodraeth y DU yw hwn.

"Bydd yn eich rhybuddio os oes argyfwng gerllaw sy'n peryglu bywyd."

Ond fe sylwodd rai ar wall yn ail ran y neges: "Mewn argyfwng go iawn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y rhybudd i'ch cadw chi ac eraill yn Vogel."

"Yn ddiogel" ddylai'r neges fod wedi dweud.

Disgrifiad,

System Rhybuddion Argyfwng

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Fe wnaeth gwall technegol achosi un gair yn fersiwn Gymraeg y prawf rhybudd argyfwng i gael ei gamsillafu.

"Mae'r ffaith i hyn ddigwydd mewn neges brawf yn golygu y gallwn ei ddatrys yn y dyfodol."

Fe fydd y negeseuon yn cael eu hanfon go iawn pan fydd y llywodraeth neu wasanaethau brys eisiau rhybuddio am sefyllfa argyfwng lle bod bywyd mewn perygl, fel llifogydd difrifol, tanau neu dywydd eithafol.

Mae'n bosib na fydd rhai yn derbyn neges am fisoedd neu flynyddoedd.