Cronfa Tregaron wedi codi mwy o arian nag unrhyw Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 i dorri record am y swm mwyaf gafodd ei godi erioed gan y gronfa leol.
Fe gododd aelodau lleol 拢463,671 tuag at gynnal yr 诺yl yn Nhregaron y llynedd.
Mae'r Eisteddfod hefyd wedi cadarnhau i'r brifwyl yn Nhregaron wneud elw o 拢5,184.
Mae hynny yn cyfateb i 0.01% o wariant yr Eisteddfod, a oedd dros 拢6m y llynedd.
Yn 么l yr Eisteddfod Genedlaethol, does dim manylion eto am swm y gronfa leol ar gyfer Eisteddfod Ll欧n ac Eifionydd eleni gan fod y gronfa yn parhau "yn fyw ac ar agor".
'Rhywfaint o elw yn ardderchog'
Roedd Eisteddfod Tregaron i fod i gael ei chynnal yn 2020, ond bu'n rhaid gohirio'r 诺yl ddwywaith oherwydd y pandemig.
Oherwydd hynny, fe gafodd y gronfa leol fwy o amser na'r arfer i hel arian.
Ond ar ddiwedd 2019, cyn y pandemig coronafeirws, daeth cyhoeddiad fod y gronfa wedi cyrraedd ei tharged ariannol o 拢330,000 o fewn ychydig dros flwyddyn.
Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, yr Aelod o'r Senedd Elin Jones, deyrnged i wirfoddolwyr ardal Ceredigion.
Yn siarad ar Post Prynhawn, dywedodd: "Fe gaethon ni Eisteddfod lwyddiannus iawn llynedd yn dilyn y cyfnod Covid a buodd hi yn dipyn o lwyddiant yn ariannol hefyd.
"Fe fwron ni ein targed cyntaf cyn y cyfnod clo, ac wedyn fe osodon ni darged ychwanegol i'n hunain a godon ni 拢463,000 ar gyfer yr Eisteddfod."
Ychwanegodd: "Roedd llynedd yn flwyddyn mor anodd gyda chostau'n cynyddu o wythnos i wythnos ar adegau ac felly o ystyried y costau cynyddol yna fe oedd cael rhywfaint o elw yn ganlyniad ardderchog hefyd.
"Mae cyfrannu arian yn her i bawb ar hyn o bryd, ond mae pobl yn awyddus i roi hefyd pan mae 'na achosion da, a phan bod digwyddiadau diddorol gyda phob math o adloniant yn cael eu cynnal.
"Mae pobl i bob pwrpas wedi bod yn awchu am gael cymdeithasu, am gael gwrando ar gyngherddau da, am gael cymryd rhan mewn gwahanol ddigwyddiadau, ac wrth wario rhyw ychydig mae pobl yn cael rhywbeth yn 么l trwy gael amser da."
Ym mis Chwefror dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod bod rhaid edrych ar brisiau mynediad ar gyfer y Brifwyl eleni, wrth i gostau gynyddu.
Ar y pryd, dywedodd Betsan Moses "nad oedd prisiau wedi newid ers pum mlynedd" ond bod pwyslais o hyd ar sicrhau g诺yl "fforddiadwy i bawb".
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cael ei chynnal ger pentref Boduan ym Mhen Ll欧n, rhwng 5-12 Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2022
- Cyhoeddwyd7 Awst 2022
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2019