Bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i wynebu achos troseddol
- Cyhoeddwyd
Fe fydd bwrdd iechyd mwyaf Cymru yn wynebu achos troseddol mewn cysylltiad 芒 marwolaeth claf yn 2021.聽
Cafwyd hyd i'r ddynes yn farw yn uned iechyd meddwl Hergest, yn Ysbyty Gwynedd, Bangor sy'n cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.聽
Daw'r cyhuddiadau yn sgil ymchwiliad gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE), sy'n honni bod y bwrdd iechyd wedi "methu 芒 sicrhau systemau gwaith diogel mewn cysylltiad 芒 rheoli risgiau hunanladdiad cleifion".聽
Bydd yr achos yn cael ei glywed gan ynadon yn Llandudno wythnos nesaf. 聽
Cafodd ymchwiliad ar wah芒n ei gynnal hefyd wedi i gorff y ddynes gael ei ganfod yn yr oriau m芒n ar 20 Ebrill 2021.聽
'Canlyniad catastroffig'
Fe wnaeth yr ymchwiliad hwnnw ganfod bod staff wedi newid y trefniadau cadw golwg arni, o bob 10 munud i bob awr.
Dywedodd yr adroddiad nad oedd hynny'n "addas ar sail y wybodaeth oedd ar gael" a bod y newid "yn debygol o fod wedi cyfrannu at y tebygolrwydd a chanlyniad catastroffig y digwyddiad yma".聽
Ychwanegodd: "Gellid fod yn rhesymol i fod wedi disgwyl staff i ymyrryd yn gynt mewn ymateb i hunan-niweidio petai hi wedi bod yn destun arsylwi mwy cyson bob 10 munud."聽
Dywedodd yr adroddiad hefyd bod rhoi cleifion bregus ac oedrannus ar yr un wardiau 芒 rhai iau yn ffactor cyfrannol.聽
Bydd cynrychiolwyr y bwrdd iechyd yn mynd o flaen yr ynadon ddydd Mercher, 3 Mai gan wynebu un cyhuddiad dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.
Mae'r cyhuddiad yn nodi bod y bwrdd iechyd wedi methu 芒 sicrhau bod "claf bregus yn eich Ward Aneurin, Uned Hergest, ddim yn agored i risgiau i'w hiechyd a diogelwch, o ran eich bod wedi methu 芒 sicrhau systemau gwaith diogel mewn cysylltiad 芒 rheoli risgiau hunanladdiad cleifion".
Dywedodd llefarydd ar ran HSE bod yr erlyniad "yn dilyn marwolaeth claf yn Uned Hergest Ysbyty Gwynedd, Bangor, ar 20 Ebrill 2021".
Dywedodd dirprwy brif weithredwr dros dro a chyfarwyddwr meddygol gweithredol y bwrdd iechyd "fod hwn yn achos trasig iawn".
"Mae ein calonnau'n mynd allan i deulu ac anwyliaid y claf," meddai Dr Nick Lyons.
"Ar ran y bwrdd iechyd rwyf am ailadrodd pa mor flin iawn ydw i am y methiannau yn y gofal a ddarparwyd gennym.
"Ni allwn wneud sylw pellach nes bod y gwrandawiad wedi dod i ben."