大象传媒

Betsi: Plaid Cymru yn honni bod Mark Drakeford wedi cael ei fychanu

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford a Adam Price
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Plaid Cymru fod Mark Drakeford wedi cael ei fychanu

Mae Plaid Cymru'n dweud fod y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cael ei fychanu ar 么l iddo egluro sylwadau a wnaeth am fwrdd iechyd y gogledd.

Dywedodd Mr Drakeford wrth y Senedd fod yr archwilydd cyffredinol Adrian Crompton wedi rhoi cyngor i ddod 芒 Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig yn 2020.

Ond mewn llythyr, dywedodd Mr Drakeford nad oedd Archwilio Cymru yn "cynghori gweinidogion yn uniongyrchol ar y materion hyn".

Dywedodd Mr Drakeford ei fod "yn awyddus i gywiro unrhyw gamddealltwriaeth yngl欧n 芒'r broses".

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth, "y byddai wedi bod yn well gan y cyhoedd yng Nghymru i weinidogion fod yn onest".

Fe wnaeth Mr ap Iorwerth y sylwadau ychydig cyn i arweinydd ei blaid, Adam Price, ddechrau ar ymweliad ar y cyd 芒'r prif weinidog fel rhan o gytundeb cydweithredu Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu Adam Price (chwith) a Mark Drakeford (dde) yn sgwrsio gyda disgyblion Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd

Yr wythnos ddiwethaf fe ddatgelodd Plaid Cymru fod Mr Crompton wedi dweud nad oedd wedi rhoi cyngor i ddod 芒 Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ddwy flynedd yn 么l.

Wedi i'r bwrdd gael ei roi yn 么l dan fesurau arbennig ar ddiwedd Chwefror eleni, dywedodd y prif weinidog yn siambr y Senedd: "Fe gafodd y penderfyniad - a phenderfyniad gweinidogion yw hyn - i dynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig ei wneud oherwydd i ni gael cyngor mai dyna beth y dylem ei wneud gan yr archwilydd cyffredinol, gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a gan swyddogion Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am roi cyngor i weinidogion."

Fe gafodd y bwrdd iechyd ei roi yn 么l i'r lefel uchaf o oruchwyliaeth gan y llywodraeth y diwrnod cynt.

Mae i sylwadau Mr Drakeford, gyda dolenni i ddau lythyr ganddo at y llywydd Elin Jones yn egluro'r broses sy'n arwain at benderfyniad ar fesurau arbennig.

"Ysgrifennais atoch chi y tro cyntaf ar 24 Ebrill oherwydd yr oeddwn yn awyddus i gywiro unrhyw gamddealltwriaeth yngl欧n 芒'r broses.

"Rwyf yn gobeithio bod fy llythyr wedi gwneud hyn trwy esbonio y broses dri cham wnaeth arwain at benderfyniadau gan Weinidogion yngl欧n 芒 statws uwch gyfeirio cyfundrefnau'r GIG, ac egluro bod Archwilio Cymru heb - a ddim yn - cynghori gweinidogion yn uniongyrchol ar y materion yma," meddai.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mr ap Iorwerth: "Felly mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i lythyrau gael eu hychwanegu fel troednodiadau i gofnod y Senedd, sy'n profi eu bod wedi camarwain y Senedd dros dynnu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig.

"Ond ni fyddan nhw mewn gwirionedd yn cyfaddef eu bod yn camarwain y Senedd!

"Mae ein pwynt wedi ei brofi, ac mae Mark Drakeford a'i lywodraeth Lafur wedi eu bychanu braidd, ond rwy'n si诺r y byddai wedi bod yn well gan y cyhoedd yng Nghymru fod gweinidogion yn onest."

Daeth yr eglurhad i'r amlwg ar yr un diwrnod y dechreuodd Mr Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price ar ymweliad yn Sir Benfro.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhun ap Iorwerth: "Mae ein pwynt wedi ei brofi"

Wrth siarad yn Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd, dywedodd Mr Drakeford fod y broses lle mae gweinidogion yn gwneud penderfyniadau am statws bwrdd iechyd yn "gymhleth".

"Os ydych chi'n ceisio ei grynhoi'n gryno ar eich traed ar lawr y Senedd, dydych chi ddim bob amser yn cyfleu cymhlethdod llawn pethau," meddai.

"Rydw i eisiau gwneud yn si诺r bod pobl Cymru yn gwybod yn union sut mae'r system yn gweithio.

"Fe wnes i nodi hynny mewn llythyr at y llywydd. Rwy'n ddiolchgar ei bod hi'n hapus iddo fod yn rhan o gofnod y Senedd fel na all unrhyw ddryswch godi ar ran neb."

Pan ofynnwyd iddo a allai fod wedi bod yn gliriach, dywedodd: "Yr hyn rydw i wedi'i wneud yw sicrhau, os nad oedd unrhyw un yn glir, nad oes unrhyw reswm o gwbl pam na allan nhw fod yn glir yn y dyfodol."

Pan ofynnwyd i Mr Price a oedd yn cytuno a oedd yr eglurhad yn bychanu, dywedodd: "Nid dyma ffocws ein hymweliad heddiw.

"Rydyn ni wedi bod yn galw am gywiro'r cofnod. Rydyn ni'n falch bod hynny wedi digwydd. ac rydyn ni am fyfyrio ymhellach arno," ychwanegodd.