大象传媒

Galw am gryfhau deddfwriaeth amaeth newydd i 'achub natur'

  • Cyhoeddwyd
CaeauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae bron i 90% o dirwedd Cymru dan ofal ffermwyr

Rhaid cryfhau deddfwriaeth amaeth newydd Cymru - sy'n "gyfle olaf i achub natur" - medd grwpiau bywyd gwyllt.

Mae dros 40 o sefydliadau wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd i aelodau'r Senedd, sy'n paratoi i basio Mesur Amaeth newydd y mis yma.

Gyda bron i 90% o dirwedd Cymru dan ofal ffermwyr, mae'r grwpiau'n dadlau bod diwygio'r polisi amaeth yn allweddol ac nad yw'r hyn sydd wedi'i gynnig hyd yma'n mynd yn ddigon pell.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i wneud sylw.

Yn eu llythyr - sydd wedi'i weld gan y 大象传媒 - mae'r elusennau yn rhybuddio mai Cymru yw un o'r gwledydd "sydd wedi gweld y dirywiad gwaethaf o ran natur yn y byd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae draenogod yn un rhywogaeth sydd mewn perygl o ddiflannu

Mae un ym mhob chwe rhywogaeth - o eogiaid i ddraenogod - mewn perygl o ddiflannu o Gymru, gyda 73 wedi mynd yn barod ers y 1970au.

Yn y cyfamser, nid yw'r un o ecosystemau naturiol y wlad - o afonydd i goedwigoedd - yn cael eu hystyried yn ddigon gwydn yn wyneb heriau megis newid hinsawdd, dywed y sawl sydd wedi llofnodi'r llythyr.

Maen nhw'n cynnwys elusennau mawrion fel y RSPB, WWF a'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt - yn ogystal 芒 Sefydliad y Pridd a'r Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig.

Mae rhai cyrff amaethyddol wedi cefnogi'r galwadau hefyd gan gynnwys Gweithwyr y Tir (The Landworkers' Alliance) a'r Rhwydwaith Ffermio er lles Natur (NFFN Cymru).

Maen nhw'n dweud eu bod nhw'n "gynyddol bryderus" na fydd Mesur Amaeth Cymru yn gwella amodau'n ddigonol i fywyd gwyllt, ac maen nhw'n gofyn i aelodau'r Senedd gynnig newidiadau cyn ei phasio ar 16 Mai.

'Dim ond saith mlynedd i stopio colledion'

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn arwain y ffordd at ffordd newydd o gyllido amaeth - gan ddisodli'r hen gymorthdaliadau oedd cyn Brexit a chyflwyno 'Cynllun Ffermio Cynaliadwy' Llywodraeth Cymru.

Ond mae'r elusennau yn dweud bod y ffordd y mae'r mesur wedi'i eirio yn rhy wan i ysgogi newid pellgyrhaeddol, a gallai hynny brofi'n "drychinebus".

Maen nhw am weld y geiriau "adfer natur" yn cael eu cynnwys fel amcan clir o'r cynlluniau i ddiwygio amaeth.

Ar hyn o bryd, mae'r mesur yn defnyddio'r ymadrodd "cynnal a gwella" yn hytrach nag "adfer - cynsail sydd wedi'i godi o Ddeddf Amgylchedd Cymru 2016.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dweud mae'r sefydliadau yn eu llythyr nad ydy hyn yn cyfateb ag uchelgais y cytundeb rhyngwladol diweddar ar fioamrywiaeth o gynhadledd COP15 yng Nghanada fis Rhagfyr, wnaeth bwysleisio bod "ond saith mlynedd yn weddill i stopio a gwyrdroi y colledion yn ein byd naturiol".

"Mae'r ffordd ry'n ni'n rheoli tir drwy amaeth yn brif reswm dros golledion natur yng Nghymru," eglurodd Shea Buckland-Jones, rheolwr polisi WWF Cymru.

"Felly mae'r Mesur Amaeth - os yw'n cael ei ddylunio'n gywir - yn rhoi cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ni."

"Pwrpas hyn yw dylanwadi'r system sy'n eistedd o amgylch ffermwyr yng Nghymru - nhw yw ceidwaid y tir," meddai.

"Os na lwyddwn ni gael y bil yma'n gywir - fyddwn ni ddim mewn sefyllfa i gyrraedd rhai o'r targedau yna mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddyn nhw yn COP15."

'Angen polisi uchelgeisiol'

Mae cynnwys Mesur Amaeth cyntaf Cymru wedi bod yn destun lobio cadarn o bob ochr - gydag undebau amaeth yn pwysleisio'r angen i warchod rhwydwaith y ffermydd bach, teuluol a blaenoriaethu cynhyrchu bwyd.

Mae hyn eisoes wedi arwain at ambell i gonsesiwn gan gynnwys parhau i gynnig ryw fath o daliadau "sefydlogrwydd" i ffermwyr, a symleiddio'r cynllun at y dyfodol fel bod ffermydd yn dangos eu bod yn ateb rhestr o ofynion er mwyn derbyn y cyllid sylfaenol - megis sicrhau 10% o orchudd coed, i gadw data ar ddefnydd plaladdwyr.

Poeni mae grwpiau amgylcheddol nad yw'r gofynion yma'n mynd yn ddigon pell i newid sefyllfa byd natur a bod nifer o ffermydd yn eu gwneud nhw beth bynnag.

Yn 么l Hywel Morgan, cadeirydd NFFN Cymru, mae angen polisi "uchelgeisiol" gan y llywodraeth i wobrwyo dull gwahanol o amaethu.

"Mae ffermio er lles natur yn arwain at enillion i fywyd gwyllt, i ffermwyr ac i'r gymdeithas yn ehangach," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i wneud sylw.