大象传媒

S4C: Honiadau o fwlio a 'diwylliant o ofn'

  • Cyhoeddwyd
S4C

Mae cwmni cyfreithiol yn ymchwilio i honiadau o fwlio a "diwylliant o ofn" o fewn S4C.

Cafodd hynny ei gyhoeddi gan gadeirydd y sianel, Rhodri Williams ar 么l i raglen Newyddion S4C dderbyn llythyr gan gyfrif e-bost anhysbys.

Roedd yr e-bost yn honni bod staff sy'n gweithio i'r sianel yn cael eu hanwybyddu a'u tanseilio gan y t卯m rheoli ac "yn aml yn eu dagrau".

Mae pob aelod o'r t卯m rheoli yn parhau yn eu swyddi nos Fawrth.

Ond fe rybuddiodd Mr Williams ei fod yn barod i gael sgyrsiau anodd, petai'r ymchwiliad yn canfod ymddygiad o fwlio.

Y cyfarfod 'mwyaf ysgytwol'

Mewn llythyr gafodd ei ysgrifennu at aelodau annibynnol bwrdd unedol S4C, mae swyddog negodi undeb Bectu, yn dweud bod yna "ddiwylliant o ofn" yn bodoli yno.

Mae staff y sianel, meddai, "yn aml yn cael eu dwyn i ddagrau" ac "yn rhy ofnus i gyflwyno eu profiadau trwy'r broses arferol o gyflwyno cwynion".

Ffynhonnell y llun, Huw John
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l y llythyr, fe ddywedodd prif weithredwr S4C, Si芒n Doyle bod "y term bwlio yn cael ei rannu'n rhy hawdd"

Mae'r awdur yn disgrifio cyfarfod undeb ddiwedd Mawrth fel yr un "mwyaf ysgytwol... yn ei yrfa fel cynrychiolydd undeb llafur", gan nodi "torrodd pedwar aelod o staff i lawr mewn dagrau" wrth "roi eu cyfrifon o'r sefyllfa".

Brynhawn Mawrth, fe gyhoeddodd cadeirydd y sianel bod cwmni cyfreithiol Capital Law am arwain ymchwiliad annibynnol llawn i bryderon a chwynion gweithwyr.

Yn 么l Rhodri Williams doedd y llythyr ddim yn gwneud "darllen cyfforddus".

'Rhannu'r term bwlio yn rhy hawdd'

Cafodd llythyr gan swyddog negodi undeb Bectu, Carwyn Donovan, ei rannu 芒 rhaglen Newyddion S4C.

Ynddo, mae'r swyddog yn adrodd bod staff wedi rhannu profiadau o "gael eu hanwybyddu, eu bychanu, eu tanseilio, neu eu nawddogi gan aelodau o'r t卯m rheoli".

Ychwanegodd fod staff wedi rhoi enghreifftiau lle maen nhw wedi gweld aelodau o'r t卯m rheoli yn "ymddwyn yn amhriodol ac yn amharchus at staff eraill... a phan fyddant yn codi cwestiynau dilys, maent yn cael eu bodloni ag ymddygiad ymosodol a gwrthdaro".

Mae hefyd yn manylu i'r sefyllfa fod yn fregus ers rhai misoedd, gyda'r undeb yn ymwybodol am broblemau am y tro cyntaf ym mis Tachwedd y llynedd.

Mewn cyfarfod gyda phrif weithredwr y sianel, Si芒n Doyle, mae'r swyddog undeb yn dweud iddi gydnabod "bod pethau wedi bod yn anodd iawn, a bod y rheolwyr ar fai am y ffordd yr oedd pobl yn teimlo," ond ei bod hi hefyd, yn 么l y llythyr, wedi dweud bod "y term bwlio yn cael ei rannu'n rhy hawdd".

Mae'r llythyr yn gorffen drwy alw ar aelodau annibynnol y bwrdd i "weithio gyda Bectu i sefydlu mecanwaith lle bydd gan unigolion yr hyder i ddweud eu profiadau wrth ymchwilydd annibynnol a fydd yn dod i gasgliad ynghylch ble y gall unrhyw fai fod a gwneud argymhellion ynghylch sut y gellir dod 芒'r cyfnod trist hwn i ben" er mwyn "diogelu iechyd a lles staff y sianel genedlaethol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rhodri Williams yn dweud ei fod yn "gyfforddus" bod y sianel wedi ymateb yn y "modd priodol " i'r honiadau

Dywedodd cadeirydd S4C, Rhodri Williams nad oedd y llythyr "yn amlwg... yn gwneud darllen cyfforddus".

Roedd nifer o bwyntiau yn hwnnw "pe bai nhw yn wir, yn rhai fyddai yn achosi gofid i ni," meddai.

"Dydyn nhw ddim y math o bethau fyddai unrhyw un sy'n gyfrifol am unrhyw fath o gorff boed yn gwmni preifat neu yn gorff cyhoeddus yn hoffi darllen."

Pan ofynnwyd a oedd S4C wedi bod yn araf yn ymateb i'r honiadau, dywedodd Mr Williams: "Mae s茂on yn un peth. Hyd nes bod gan rywun reswm i feddwl fod 'na gwynion gwirioneddol yna dwi ddim yn credu y bydden i yn llygad fy lle yn ymateb."

Ychwanegodd ei fod yn "gyfforddus" bod y sianel wedi ymateb yn y "modd priodol ac yn ymateb gyda'r cyflymder angenrheidiol".

Os ydy'r honiadau o fwlio yn cael eu profi, dywedodd bod y sianel yn fodlon cymryd y "camau angenrheidiol".

Gofynnwyd i S4C yn ganolog am eu hymateb i gynnwys y llythyr.

Wrth ymateb i'r honiadau, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar ddiwylliant, Tom Giffard AS, fod "yr honiadau hyn yn hynod o bryderus, yn enwedig yr effaith ehangach ar enw da ein darlledwr Cymraeg cenedlaethol".

"Rwy'n croesawu'r ffaith fod cwmni cyfreithiol allanol ac annibynnol wedi cael ei benodi i ymchwilio i beth sydd wedi digwydd," meddai.

Pynciau cysylltiedig