Cwest Mark Lang: Gyrrwr wedi marw ar 么l cael ei lusgo o dan ei fan
- Cyhoeddwyd
Clywodd cwest fod dyn wedi marw o anafiadau i'w ymennydd ac ataliad trawmatig ar y galon ar 么l iddo gael ei lusgo o dan ei fan cludo parseli.
Bu farw Mark Lang, 54 o ardal Cyncoed yng Nghaerdydd, ar 15 Ebrill, ar 么l bod yn yr ysbyty am bythefnos.
Cafodd y cwest ym Mhontypridd fore Mercher ei agor a'i ohirio, fel sy'n arferol tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.
Clywodd y crwner fod archwiliad post mortem wedi dod i gasgliad rhagarweiniol am achos ei farwolaeth.
Yn ogystal ag ataliad i'r galon a niwed i'r ymennydd, roedd Mr Lang hefyd wedi dioddef anafiadau difrifol i'w gorff.
Dywedodd y Tywysydd (Usher) Catherine Burnell wrth Lys y Crwner i'r gwasanaethau brys dderbyn galwad 999 am wrthdrawiad ar Heol y Gogledd Caerdydd a bod y cerbyd heb stopio.
"Cafodd dyn ei lusgo o dan fan. Aed 芒 Mark Lang i'r ysbyty i gael triniaeth brys. Er gwaetha gofal meddygol bu farw Mark Lang ar 15 Ebrill am 05:46."
Dywedodd y crwner Patricia Morgan ei bod yn credu ar 么l clywed y dystiolaeth fod y farwolaeth yn debygol o fod wedi bod yn un "ffyrnig o ran natur, ac yn debygol o fod angen ymchwiliad ychwanegol i'r amgylchiadau".
Cafodd y cwest ei ohirio am chwe mis i alluogi'r heddlu i barhau 芒'u hymchwiliadau ac er mwyn i unrhyw achos troseddol gael ei gwblhau.
Dywedodd Ms Morgan: "Rwyf am gymryd y cyfle yma i gydymdeimlo gyda theulu Mr Lang yn yr amser anodd yma."
Mae Christopher Elgifari, dyn 31 oed o Aberd芒r, wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2023