Chris Gunter yn ymddeol ac yn troi at hyfforddi
- Cyhoeddwyd
Mae Chris Gunter wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o chwarae p锚l-droed proffesiynol ddiwedd y tymor.
Wrth gadarnhau ei ymddeoliad ddydd Iau, daeth cyhoeddiad hefyd y byddai'n ymuno gyda Chymdeithas B锚l-droed Cymru.
Dywedodd y gymdeithas y byddai Gunter, 33, yn ymuno gyda th卯m hyfforddi Cymru fel Hyfforddwr Datblygu T卯m Cenedlaethol.
"Bydd y r么l rhan-amser yn darparu cefnogaeth i'n chwaraewyr ifanc wrth iddynt drosglwyddo i b锚l-droed garfan uwch a bydd hefyd yn cefnogi gwaith CBDC i sicrhau talent ar lwybr y T卯m Cenedlaethol," meddai datganiad.
Cafodd Gunter flas ar hyfforddi gyda th卯m p锚l-droed Cymru ym mis Mawrth, yn dilyn ei ymddeoliad o b锚l-droed rhyngwladol yn gynharach eleni.
Bu'n rhan allweddol o garfan Cymru am 15 mlynedd a mwy, gan ennill 109 o gapiau - y dyn cyntaf i gyrraedd y 100.
Chwaraeodd dros 700 o gemau proffesiynol i glybiau Caerdydd, Spurs, Nottingham Forest, Reading, Charlton - a bydd yn gorffen ei yrfa gyda Wimbledon.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2023