Cyhuddo dyn o lofruddio ar 么l darganfod corff dynes
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth wedi i gorff dynes gael ei ddarganfod mewn t欧 ger Castell-nedd.
Cafodd corff Georgina Dowey, 46, ei ddarganfod mewn t欧 ar Ffordd Beaconsfield, Llangatwg, ar 7 Mai.
Mae Matthew Pickering, 48, o Ffordd Beaconsfield yn cael ei gadw'n y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau.
Dywedodd Heddlu'r De fod teulu Ms Dowey yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Ychwanegodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell: "Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu Georgina, sydd wedi'u heffeithio'n ofnadwy gan yr hyn sydd wedi digwydd.
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol a thystion am eu cefnogaeth i'r ymchwiliad hyd yma.
"Dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad 芒 marwolaeth Georgina."
Ychwanegodd y bydd mwy o blismyn i'w gweld yn Llangatwg yn ystod y dyddiau nesaf a gofynnodd i unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth i gysylltu 芒 nhw.