大象传媒

Plaid Cymru wedi cyfarfod i drafod adroddiad damniol

  • Cyhoeddwyd
Plaid CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth ASau Plaid Cymru ac arweinydd y blaid yn San Steffan gynnal trafodaethau nos Fawrth ar adroddiad damniol i ddiwylliant y blaid.

Doedd yr un sylw gan y gwleidyddion wrth gael eu holi gan ohebwyr tra'n gadael y cyfarfod a gafodd ei gynnal yn Senedd Cymru, a dyw hi ddim yn glir beth oedd canlyniad y trafodaethau.

Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddwyd adroddiad damniol Nerys Evans, a ddywedodd bod yn rhaid i'r blaid "ddadwenwyno diwylliant o aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth".

Fore Mawrth fe wnaeth Ms Evans annerch cyfarfod arferol y gr诺p.

Nos Fawrth cafodd ail gyfarfod ei gynnal - cyfarfod a wnaeth bara am awr a hanner.

Roedd aelodau Plaid Cymru yn y Senedd, arweinydd y blaid Adam Price ac arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville-Roberts, yn rhan o'r cyfarfod.

Dywedodd llefarydd ar ran Gr诺p Plaid Cymru yn y Senedd: "Mae'r gr诺p wedi cyfarfod i drafod ein camau nesaf yn dilyn adroddiad Prosiect Pawb a'r gwaith sydd o'n blaen i weithredu'r argymhellion."

Wrth i Ms Saville-Roberts gael ei holi tra'n gadael y Senedd am yr hyn yr oedd ei phlaid yn ei wneud am honiadau o fisogynistiaeth a bwlio dywedodd: "Ry'n ni wedi derbyn yr adroddiad ac ry'n yn delio 芒 hynny."

Yr wythnos ddiwethaf yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad dywedodd yr arweinydd, Adam Price, na fydd yn ymddiswyddo a'i fod am weithio i drwsio problemau yn y blaid.