Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Si芒n Phillips yn 90
Ar 14 Mai 2023 mae un o actorion amlycaf Cymru, Si芒n Phillips, yn dathlu ei phen-blwydd yn 90 oed. Mae hi'n actio ers yr 1950au a does dim golwg ohoni'n rhoi'r gorau unrhyw bryd yn fuan.
Yn ferch fferm o ardal Gwauncaegurwen, Sir Gaerfyrddin, fe wnaeth enw i'w hun yn rhyngwladol drwy actio mewn ffilmiau fel Becket (1964), Goodbye, Mr. Chips (1969), Murphy's Law (1971) a House of America (1997), yn ogystal 芒 sawl cyfres deledu llwyddiannus fel I, Claudius.
Mae'r darlledwr Hywel Gwynfryn yn ysgrifennu llyfr am Si芒n Phillips ar hyn o bryd, ac yma mae'n rhannu rhywfaint o'i argraffiadau o'r actores.
'Age shall not wither her, nor custom stale her infinite variety'... Geiriau Shakespeare yn cloriannu harddwch a chymeriad Cleopatrea, mewn un frawddeg, a honno'n addas iawn i ddisgrifio yr actores Si芒n Phillips, anwyd ar 14 Mai,1933.
'Nacdi byth' medda chi, 'tydi hi ddim yn 90 oed ddydd Sul!'... Os wnewch chi anfon cerdyn pen-blwydd iddi hi' f'asa hi ddim yn diolch i chi am wneud hynny!
Fuodd hi erioed yn un am gyfri'r blynyddoedd. Mae hi'n perthyn i'r un ysgol o feddwl 芒 Clint Eastwood, anwyd yn yr un mis 芒 hi. Mae o'n 93 ar ddiwedd y mis, ac fel Si芒n, yn dal i weithio.
'Age,' medda fo, 'They're just numbers after my name. They don't tell you anything about me'. Yn achos Si芒n mae hithau hefyd wedi darganfod y gyfrinach o fynd yn iau wrth fynd yn h欧n, ac yn h欧n heb fynd yn hen - peidio ymddeol!
Y bwriad i fod yn actor
Pan oedd hi'n chwech oed fe aeth am dro efo'i Mamgu i Abertawe i weld ei phantomeim cyntaf ac fe gafodd ei chyfareddu. Ar 么l dychwelyd adre' fe ysgrifennodd mewn hen ddyddiadur, oedd yn y t欧 'I am resolved to be an actress', ac fe gychwynnodd y daith tuag at wireddu'r n么d hwnnw pan enillodd y wobr gynta' am lefaru yn Eisteddfod Genedlaethol Llandybie ym 1944.
Fe glywodd Nan Davies, a oedd yn gynhyrchydd gyda'r 大象传媒 ar y pryd, y ferch o Wauncaegurwen yn cystadlu ac fe recordiwyd ei llais ar gyfer y radio, ac erbyn 1953 roedd Si芒n yn aelod o'r 大象传媒 Repertory Company, yn actio gyda Rachel Tomos, Richard Burton, Dilys Davies, Prysor Williams a Clifford Evans. Yn ogystal 芒 hyn roedd Si芒n hefyd yn gweithio i'r adran gyhoeddi, ac yn aelod o Gwmni Drama Cyngor y Celfyddydau yn teithio Cymru gyda dram芒u Saunders Lewis, Gymerwch chi Sigar茅t? a Siwan.
Roeddwn i ar y pryd yn ddisgybl yn yr Ysgol Uwchradd, a 'dwi'n cofio mynd i Neuadd y Dref yn Llangefni a'i gweld hi'n actio Iris yn y ddrama Gymerwch chi Sigar茅t? Ychydig 'nes i feddwl bryd hynny y baswn i, rhyw ddiwrnod yn cael y fraint o ysgrifennu cofiant iddi. (Yr ateb i'ch cwestiwn nesa' chi ydi 'erbyn y 'Dolig, gobeithio!').
Fe fu tri o bobol yn ddylanwad mawr ar Si芒n yn y dyddiau cynnar. Eic Davies, ei hathro yn ysgol Ramadeg Pontardawe, Hugh Griffith, yr actor o F么n, a Saunders Lewis.
'Shane'/'Shawn'/'Stan'
Eic Davies wnaeth ei hail fedyddio yn Si芒n Phillips. Jane Ailw锚n Phillips oedd yr enw ar y tystysgrif geni. Pan sylweddolodd Eic fod y ferch ifanc yma'n actores o'i chorun i'w sawdl, fe'i hailfedyddiodd yn Si芒n. Fe achosodd hynny broblemau ar y cychwyn, yn enwedig yn Llundain ble 'r ymddangosodd ei henw fel Shane, Shyanne, Shawn a hyd yn oed Stan.
Ond beth am ei henw canol 'Ailw锚n'? Sally, ei mam ddewisodd hwnnw, oherwydd ar 么l marwolaeth ei phlentyn cyntaf, pan anwyd Si芒n, fe ddaeth hi a 'gw锚n' yn 么l i'r aelwyd.
'Roedd Eic Davies yn ffrindiau gyda'r actor Hugh Griffith a phan ddaeth Hugh i Abertawe i actio rhan y Brenin Ll欧r fe ofynnodd Eic iddo bicio draw i'r ysgol i weld Si芒n, a gwrando arni yn llefaru. Ac fe wnaeth.
Ar 么l gwrando arni 'doedd ganddo ddim amheuaeth y dylai fynd i goleg Drama RADA yn Llundain er mwyn cael ei hyfforddi i fod yn actores llawn amser. Roedd Saunders Lewis o'r un farn. Ond fe'i rhybuddiodd hefyd y byddai, o ddewis y llwybr hwnnw, 'yn cerdded ar hyd dibyn ansicrwydd'.
Mae hi'n dal i gerdded y llwybr hwnnw, ac wedi llwyddo i gyrraedd y n么d osododd iddi hi ei hun pan oedd hi'n chwech oed, ers blynyddoedd, a hynny'n hynod o lwyddiannus.
Penblwydd hapus iawn Si芒n!
Hefyd o ddiddordeb: