Menywod dros 50 oed yn teimlo'n 'anweledig' yn y gwaith
- Cyhoeddwyd
Mae menywod dros 50 oed yng Nghymru yn wynebu sawl math o anffafriaeth yn y gweithle, yn 么l elusen merched.
Yn 么l gwaith ymchwil Chwarae Teg, mae llawer o'r menywod a siaradodd 芒 nhw yn teimlo'n "anweledig" a'u bod yn "cael eu hesgeuluso".
Mae'r adroddiad gan yr elusen yn dweud fod menywod yn wynebu "bwlch cyflog pensiwn" a diffyg dealltwriaeth o symptomau'r menopos, ymhlith materion eraill.
Maen nhw nawr yn galw am well ymwybyddiaeth o ragfarn ar sail rhywedd, cefnogaeth menopos a pholis茂au gweithio hyblyg.
Ymysg canfyddiadau Chwarae Teg mae "stigma menopos", sy'n atal menywod rhag cael sgyrsiau gyda rheolwyr a chydweithwyr am eu hanghenion.
"Ro'n i jyst yn teimlo nad o'n i'n gallu brwydro fel hyn bellach. Doeddwn i ddim meddwl yn glir. Do'n i'm yn cysgu ac roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n haws i mi adael," dywedodd Nadia Hikary-Bhal.
Dechreuodd y gynaecolegydd ymgynghorol fynd drwy perimenopos, sef yr adeg pan fo'r corff yn dechrau trosglwyddo i'r menopos, yn 44 oed.
"Dechreuais ddioddef gyda niwl ymennydd gwael iawn a diffyg canolbwyntio," meddai Nadia, sydd bellach yn 51 oed.
"Roeddwn i wir yn meddwl fy mod yn dioddef o ddementia.
"Doeddwn i ddim yn gallu cofio. Allwn i ddim ynganu enwau cyffuriau. Doeddwn i ddim yn gallu cyfleu fy mrawddegau yn iawn. Roedd hynny wedi fy nychryn i."
'Dim byd wedi fy mharatoi'
Roedd gan Nadia "gynlluniau i ymddiswyddo" nes i gydweithiwr ofyn iddi a allai hi fod yn dioddef o berimenopos.
"Gynaecolegydd ydw i ac rwy'n gofalu am fenywod 芒 menopos drwy'r amser," meddai, "ond faint bynnag 'dyn ni'n ei ddarllen neu'n clywed amdano, doedd dim byd wedi fy mharatoi ar gyfer y profiad yna."
Ers bod ar Therapi Adfer Hormonau (HRT), triniaeth i leddfu symptomau'r menopos, mae Nadia yn dweud ei bod yn teimlo lawer gwell ac yn annog menywod i siarad yn agored.
Yng ngweithle Nadia, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, mae menywod yn gallu cael cymorth gan gydweithwyr a rhaglenni hyfforddi rheolwyr ar gael i godi ymwybyddiaeth.
"Oni bai ein bod yn siarad, dy'n ni ddim yn mynd i allu gwybod yr effaith, a does dim byd cryfach na llais rhywun sydd wedi mynd drwyddo," ychwanegodd.
Cynhaliodd Chwarae Teg arolwg o 400 o fenywod dros 50 oed yng Nghymru.
"Mae anghydraddoldeb rhyw yn ehangu wrth i chi fynd yn h欧n," meddai Lucy Reynolds, prif weithredwraig yr elusen.
"Gallai, a dylai gwasanaethau cefnogi a busnesau fod yn gwneud mwy," meddai.
Fe wnaethon nhw ddarganfod fod "cyfrifoldebau gofalu" ymhlith y gwahaniaethu mwyaf arwyddocaol y mae menywod h欧n yn wynebu.
"Mae menywod h欧n yn cymryd cyfrifoldeb am ofalu am wyrion ac wyresau, ond hefyd rhieni sy'n heneiddio."
'Caledi economaidd'
Yn 么l yr adroddiad, roedd 42% o'r menywod wedi gadael y farchnad lafur oherwydd cyfrifoldebau gofalu, gyda 24% yn penderfynu ymddeol yn llwyr.
Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau hefyd yn effeithio ar fenywod wrth iddynt fynd yn h欧n, yn 么l yr adroddiad, sy'n troi mewn i fwlch cyflog pensiwn sy'n creu "caledi economaidd i fenywod".
"Dy'n ni mewn poblogaeth sy'n heneiddio, felly mae hynny'n mynd i fod yn hollbwysig i fenywod wrth symud ymlaen," ychwanegodd.
Yn sgil yr adroddiad, mae'r elusen yn galw am newidiadau.
Ymhlith yr argymhellion mae "creu arferion gweithio hyblyg" ac "edrych ar bolis茂au gweithle i weld pa newidiadau y gellir eu hannog i gefnogi merched".
"Hoffem weld camau'n cael eu cymryd i lunio llwybr ar gyfer gweithwyr h欧n fel eu bod yn gallu aros mewn cyflogaeth, ac yn y pen draw mae ganddyn nhw ddewis a ydyn nhw'n gweithio neu'n ymddeol," meddai Lucy Reynolds.
Mae Fflur Jones yn gyfreithwraig cyflogaeth, a thros y blynyddoedd mae wedi helpu llawer o fenywod dros 50 oed gyda materion yn y gweithle.
"Dydy'r [ymchwil] yma ddim yn fy synnu'n fawr, o ystyried nifer y merched 'dw i wedi'u gweld sydd angen cyngor oherwydd yr anawsterau y maent yn eu cael yn y gweithle, yn enwedig wrth iddynt fynd yn h欧n," meddai.
Mae'n bwysig bod cyflogwyr nid yn unig yn "meddwl pa bolis茂au y dylid eu cyflwyno yn y gweithle", ond yn dangos eu bod yn "cefnogi merched o bob oed" ac yn delio ag "unrhyw fath o ymddygiadau neu faterion sy'n codi" yn gyflym, meddai.
Dywedodd Ms Jones, os yw menyw dros 50 oed yn wynebu unrhyw un o'r materion hyn yn y gweithle, mai'r peth gorau i'w wneud yw "ceisio herio beth bynnag sy'n digwydd yn anffurfiol".
Ychwanegodd y dylid ceisio "defnyddio'r holl brosesau mewnol yn gyntaf", ond os nad yw hyn yn datrys y problemau, yna gallant edrych i "gyflwyno hawliad o bosib".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2019