Galw am arwyddion ger rhan o afon sy'n 'beiriant boddi'

Disgrifiad o'r llun, Mae rhan o afon Aeron yn "beiriant boddi", yn 么l un cynghorydd
  • Awdur, Sara Dafydd
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae yna alwadau am well mesurau diogelwch ar hyd afon yng Ngheredigion sy'n "beiriant boddi" mewn un man.

Yn 么l pobl Aberaeron, does dim digon o arwyddion i rybuddio pobl fod rhan o afon Aeron yn 30 troedfedd o ddyfnder.

Mae un cynghorydd yn rhybuddio fod y gored (weir) yn yr afon yn hynod beryglus.

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion eu bod yn adolygu unrhyw bryderon yngl欧n 芒 diogelwch.

Fe wnaeth Jan Foy a'i ffrind achub dyn oedd yn boddi mewn pwll dwfn o dan raeadr fechan yn afon Aeron rai blynyddoedd yn 么l.

Roedd y dyn, oedd ar ei wyliau gyda'i deulu, yn ceisio achub ei gi ar y pryd ond mae Jan yn teimlo na fyddai wedi mentro i'r d诺r pe bai rhybuddion ar hyd yr afon.

"Ddylai hynny byth fod wedi digwydd. Dylai fod arwyddion i rybuddio," meddai.

"Doedd y bobl yma ddim i wybod fod rhywbeth peryglus am yr argae yma. Roedden nhw'n meddwl mai gored fach oedd hi."

Disgrifiad o'r llun, Fe welodd Jan Foy rywun yn cael ei achub o'r afon rai blynyddoedd yn 么l

Mae Ms Foy yn credu y byddai'r dyn wedi boddi pe na bai hi a'i ffrind wedi bod yno ar y pryd.

"Pan mae rhywun yn cael eu taflu lan am y tro olaf, mae eu pennau yn mynd yn 么l ac mae eu breichiau mewn ffordd benodol," meddai.

"Oedd y dyn yn gwneud hwnna y tro olaf daeth e lan, pan wnaeth fy ffrind daflu'r gwregys. Doedd e ddim yn mynd i ddod 'n么l lan yn fyw."

Ffynhonnell y llun, Dianne Browne

Fe wnaeth Ms Foy gyfarfod gyda Chyngor Sir Ceredigion bum mlynedd yn 么l i ofyn am fwy o arwyddion ac i symud y gwregysau bywyd yn nes at yr afon.

Ond does dim newid wedi bod hyd yma.

"Mae Aberaeron yn ddibynnol ar ymwelwyr," meddai Jan Foy, "ond mae gennych chi gyfrifoldeb moesol i rybuddio pobl os bod gennych chi beiriant lladd yng nghanol eich pentref."

'Peiriant boddi'

Mae yna hanes o blant yn boddi yn afon Aeron yn y 50au a'r 70au, a phryder cynyddol fod plant yn nofio yn nes at y pwll yn amlach.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cynghorydd Elizabeth Evans yn galw am fwy o arwyddion i gadw pobl yn ddiogel

Yn 么l y cynghorydd sir dros Aberaeron Elizabeth Evans, nid yw'r neges wedi cael ei throsglwyddo i'r genhedlaeth iau ac mae angen mwy o addysg ar beryglon afonydd.

"Does dim lot o bobl yn gwybod beth yw low head dam. Ac mae un gyda nhw fan hyn yn Aberaeron. Mae'n enw creulon ond 'peiriannau boddi' - dyna beth ydyn ni'n delio gyda fan hyn."

Mae Elizabeth Evans wedi bod yn gofyn i'r cyngor am fwy o arwyddion ar hyd yr afon.

"Fi wir yn ofni bydd rhywbeth yn digwydd a bydd e'n rhy hwyr i un plentyn. Felly fy neges i a neges y gymuned yw plis peidiwch mynd mewn i'r afon.

"Ond i ymwelwyr mae'n rhaid cael y rhybudd lan mewn rhyw fath o signage."

Disgrifiad o'r llun, Mae Nigel Bowen yn byw'n lleol ac yn aml yn gweld pobl ifanc yn chwarae'n yr afon

Mae nifer o g诺n wedi boddi yn yr afon yn y blynyddoedd diweddar ac yn 么l un perchennog ci, Nigel Bowen, mae'n bryder dyddiol wrth iddo fynd a'i gi, Guto, am dro.

"Os bod nhw'n mynd mewn a ma' llif yn yr afon, does dim gobaith. A'r instinct yw i fynd mewn a jwmpo ar ei 么l e. Ond hwnna yw'r peth gwaetha' allwch chi neud.

"Fi'n neud yn si诺r bod e ar lead, bydde' fe ffaelu mynd yn agos ato fe."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: "Rydym yn adolygu unrhyw bryderon sydd wedi'u codi yn ymwneud 芒 diogelwch o amgylch unrhyw dir/eiddo y mae Cyngor Sir Ceredigion yn berchen arno neu'n ei reoli.

"Pan fydd camau gweithredu yn cael eu nodi i wella diogelwch, yna byddant yn cael eu hystyried."