大象传媒

Eisteddfod 2023: Cyhoeddi rhestr anrhydeddau'r Orsedd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Aled Hughes, yr Athro Laura McAllister a Geraint Lloyd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymhlith y rhai sy'n cael eu hurddo fis Awst mae Aled Hughes, yr Athro Laura McAllister a Geraint Lloyd

Mae enwau'r rhai fydd yn cael eu derbyn i Orsedd Cymru drwy anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd wedi eu cyhoeddi.

Mae'r 50 sydd ar y rhestr yn cael eu hanrhydeddu am eu "cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau lleol".

Bydd y darlledwyr Aled Hughes a Geraint Lloyd, yn ogystal 芒'r Athro Laura McAllister, ymhlith y rhai fydd yn cael eu hurddo ym Mhen Ll欧n fis Awst.

Ymysg eraill fydd yn ymuno 芒'r Orsedd eleni fydd un o sefydlwyr Sesiwn Fawr Dolgellau, Ywain Myfyr, y cerddor Mari Lloyd Pritchard a phennaeth Urdd Derwyddon M么n, Kristoffer Hughes, neu 'Maggi Noggi'.

Mae rhestr lawn o'r anrhydeddau isod:

Yn unol 芒 threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd Cymru, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.

Mae'r anrhydeddau blynyddol yn gyfle i roi clod i unigolion am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau, ac maent yn cael eu rhannu i dri chategori:

  • Y Wisg Werdd am gyfraniad i'r celfyddydau;

  • Y Wisg Las i'r rhai sy'n amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl;

  • Y Wisg Wen i enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol yn unig.

Pynciau cysylltiedig