ST艒K Cae Ras: Enw newydd i gartref Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Wrecsam

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae seddi gwag wedi bod yn olygfa prin iawn yng ngemau Wrecsam y tymor hwn

Bydd cartref CPD Wrecsam yn cael ei ailenwi yn dilyn cytundeb noddi gyda chwmni coffi o UDA.

O ganlyniad i'r cytundeb, fydd yn dod i rym ar 1 Gorffennaf, enw newydd y stadiwm fydd ST艒K Cae Ras.

Mae'n debyg mai'r fordd o ynganu "ST艒K" ydy "Stoke", fel y ddinas yn Lloegr.

Wedi'i adeiladu ym 1864, dyma'r maes p锚l-droed rhyngwladol hynaf sy'n dal i gynnal gemau o'r fath.

Yn dilyn eu dyrchafiad diweddar mae Wrecsam, sy'n eiddo i'r s锚r Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn paratoi i ddychwelyd i'r Gynghrair B锚l-droed ar 么l 15 mlynedd.

Mae disgwyl i'r gwaith o adeiladu eisteddle newydd gyda 5,500 o seddi i gychwyn dros yr wythnosau nesaf, gan ddisodli'r hen 'Kop'.

Bydd hyn yn cynyddu capasiti'r maes i 15,000, gyda'r gobaith ei fod wedi'i gwblhau erbyn tymor 2024/25.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r 'Kop' bellach wedi ei ddymchwel gan adael y Cae Ras yn stadiwm tair ochr yn unig

Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru hefyd yn gobeithio cynnal g锚m gyfeillgar i d卯m rhyngwladol y dynion yn erbyn Gibraltar ar ST艒K Cae Ras fis Hydref eleni.

Dywedodd Humphrey Ker, Cyfarwyddwr Gweithredol Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Wrecsam: "Rydym yn falch iawn i groesawu ST艒K i deulu Wrecsam.

"Ar 么l sicrhau cefnogaeth Bwrdd Cynghori'r Clwb a deall bod mwyafrif y cefnogwyr yn hapus i'r stadiwm gael ei noddi, roedd yn bleser gennym bartneru gydag un o'r brandiau coffi bragu oer sy'n tyfu gyflymaf yn yr Unol Daleithiau.

"Mae eu huchelgeisiau yn cyfateb i'n rhai ni."