Uned ddalfa newydd i 'leihau pwysau' ar yr heddlu yn Llanelli
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi agor uned ddalfa a hwb plismona newydd yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd cynghorwyr lleol bod croeso mawr i'r adeilad newydd gwerth 拢18m yn ardal Dafen gan ei fydd yn lleihau pwysau ar wasanaeth yr heddlu yn Llanelli.
Mae'r adeilad yn defnyddio p诺er solar i leihau 么l troed carbon yr adeilad; cyfleuster cynaeafu d诺r glaw ar gyfer toiledau, a chyfleusterau gwefru ceir trydan.
Yn 么l y comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llewelyn, roedd nifer o adeiladau'r heddlu yn yr ardal wedi dyddio.
"Mae'r angen [am adeilad newydd] wedi bod yn angen mawr ers nifer o flynyddoedd," meddai.
Mae'r uned yn cynnwys 18 ystafell i ddal troseddwyr, swyddfeydd ac ystafelloedd cyfweld.
Defnyddiodd yr heddlu arian oedd wrth gefn ac arian trethdalwyr i dalu am y fenter, sydd wedi costio 拢18m.
Yn 么l y comisiynydd, mae creu cyfleusterau tebyg ar draws gweddill ardal Dyfed-Powys yn anodd heb well fuddsoddiad.
"Yn anffodus dydyn ni ddim yn cael cyfraniad cyfalaf gan y Swyddfa Gartref felly mae hwn yn dod allan o arian wrth gefn a hefyd arian trethdalwyr lleol sydd nawr yn mynd ati i fuddsoddi yn nyfodol ardal Dyfed-Powys.
"Mae tipyn o waith i sicrhau bod yr adnoddau ar gael mewn gwahanol ffyrdd ac wrth gwrs adeiladau yn rhan o hynny.
"Bydd ambell i benderfyniad anodd bydd rhaid gwneud yngl欧n 芒'r adnoddau hynny ond yn y pen draw ni'n edrych ar fuddsoddi i'r dyfodol."
Yn y gorffennol mae troseddwyr wedi gorfod cael eu rhoi mewn dalfeydd yn Rhydaman neu Hwlffordd oherwydd diffyg lle.
Yn 么l y cynghorydd tref i ward Tyisha, Terry Davies, roedd hyn yn golygu fod yna lai o blismona'n digwydd yng nghanol y gymuned yn Llanelli.
"Ni wedi bod yn aros am y custody suite yma am flynydde' i ddweud y gwir. Mae'r heddlu yn ail i ddim yn Llanelli ond maen nhw lan yn erbyn e'.
"Beth sy'n digwydd yw, ni'n cael pobl sydd wedi bod yn ddrwg ond mae'n cymryd llond llwyth o amser i gymryd nhw lan i Rydaman neu Chaerfyrddin.
"Mae'n cymryd llond llwyth o amser mas o heddweision yn y dref, lle ddylen nhw fod mas yn y gymuned."
Adeilad amgylcheddol
Roedd yna ymgynghori gyda chymuned Dafen yngl欧n 芒'r adeilad.
Yn 么l y cynghorydd sir dros Ddafen a Felinfoel, Rob Evans, roedd yr ymateb yn gadarnhaol.
"Ni yn ardal Dafen pob dydd, a ni'n mynd o gwmpas y gymuned a dwi'n meddwl fod y gymuned yn croesawu'r adeilad," meddai.
"Dwi'n teimlo bydd pobl yn teimlo'n saffach fod yna orsaf heddlu lan yr hewl."
Mewn datganiad fe ddywedodd y Swyddfa Gartref: "Rydym wedi ymrwymo i roi'r adnoddau sydd eu hangen ar yr heddlu i fynd i'r afael 芒 throseddau.
"Rhaid i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu benderfynu ar y ffordd orau o ariannu eu heddluoedd lleol drwy'r dreth gyngor.
"Yn 2023/24 rydym yn darparu cyllid heddlu o hyd at 拢17.2 biliwn ar draws Cymru a Lloegr, cynnydd o hyd at 拢313.8m o gymharu 芒 2022/23.
"Mae hyn yn cynnwys hyd at 拢136.7m ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, cynnydd o hyd at 拢6.9m o gymharu 芒 2022/23."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2023