拢10,000 wedi'i gasglu i deulu merch a fu farw mewn t芒n
- Cyhoeddwyd
Mae dros 拢10,000 bellach wedi ei gasglu ar gyfer teulu merch bum mlwydd oed a fu farw wedi t芒n yn eu t欧 yn Sir Benfro.
Bu farw Alysia Salisbury yn ei chartref ym mhentref Pontyglasier ger Crymych ychydig cyn 22:00 nos Sadwrn.
Mae ap锚l gan ddau gynghorydd am ddillad ac eitemau wedi ei chau am y tro wrth iddyn nhw asesu'r gofynion.
Mae'r ddau wedi diolch am haelioni a charedigrwydd pobl.
Dywedodd arweinwyr cymunedol fod marwolaeth Alysia wedi "siglo yr ardal".
Cafodd ei disgrifio fel "merch a chwaer hardd" gan ei theulu.
'Ardal yn dod at ei gilydd'
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru, fe ddywedodd y Cynghorydd Shon Rees fod nwyddau yn cael eu casglu ar gyfer y teulu gan eu bod wedi "colli'r cyfan".
"Mae wedi rhoi sioc a wedi wir siglo yr ardal," meddai.
"Ond ni wedi gweld yr ardal yng ngogledd Sir Benfro fel hyn yn y Preselau yn dod at ei gilydd, a wir ni wedi cael ein syfrdanu gan ymateb y cyhoedd gyda y nwyddau sydd yn dod i finne a'r cynghorydd John Davies.
"Maen nhw wedi colli'r cyfan yn dy'n nhw - a hwnnw sydd yn wir yn anodd ei gredu.
"Ni'n apelio am ddillad, mae 'na ddau oedolyn a dau blentyn.
"Ni yn annog d诺r, rhywbeth i yfed, bwyd sych ac unrhyw beth all rhywun sbario.
"Ni yn ddiolchgar am unrhyw beth. Fi wedi gweld pobl yn dod 芒 brwsh dannedd, pethe syml ni yn cymryd yn ganiataol mewn ffordd.
"Ond ni yn ddiolchgar achos mae wedi bod yn trasiedi ofnadwy yma yng ngogledd y sir a ni wir yn gweld pobl yn dod at ei gilydd."
Yn 么l Heddlu Dyfed-Powys roedd Alysia Salisbury wedi marw yn y fan a'r lle.
Ddydd Gwener fe gyhoeddon nhw ddiweddariad gan ddweud bod yr ymchwiliad yn parhau, a bod y crwner bellach wedi cael gwybod.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r gwasanaeth t芒n i ymchwilio i amgylchiadau'r t芒n," meddai'r llu.
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth. Mae'n meddyliau i gyd gyda theulu Alysia."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2023