大象传媒

Canmol a chwyno am bris tocynnau Eisteddfod yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
tocynnau

Mae'r Urdd wedi dweud bod dros 8,000 o bobl bellach wedi manteisio ar eu cynnig o docynnau am ddim i faes yr eisteddfod ar gyfer teuluoedd incwm isel.

Dywedodd cyfarwyddwr yr 诺yl ei fod yn allweddol fod y mudiad yn llwyddo i ddenu'r bobl hynny i'r maes, a'u bod yn "hapus iawn" gyda gwerthiant cyffredinol y tocynnau hefyd.

Ond mae rhai eisteddfotwyr wedi codi cwestiynau am y pris, gydag oedolion yn talu 拢20 y dydd am fynediad ac hyd yn oed y plant sy'n cystadlu yn gorfod talu 拢8.

Mae hynny'n wahanol i'r drefn yn Eisteddfod yr Urdd llynedd yn Ninbych, pan gynigiwyd mynediad am ddim er mwyn annog ymwelwyr yn 么l am y tro cyntaf ers Covid.

'Bechod fod o mor ddrud'

Dywedodd Emma Driscoll ei bod wedi talu cyfanswm o tua 拢30 i ddod i'r maes ddydd Llun, gan fod ei phlentyn hi'n cystadlu.

"Mae e'n tipyn o arian," meddai.

"Mae'r ferch hynaf wedi tynnu mas [o gystadlu nes 'mlaen yn yr wythnos] neu fel arall bydde fe 'di bod dwbl. Dylsen nhw 'di 'neud tocyn wythnosol."

Fel Emma, roedd Gwenno Lois wedi dod 芒 brechdanau i fwydo'i theulu er mwyn arbed ar gostau prynu bwyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gwenno a'i theulu wedi dod am lai o ddyddiau nag oedden nhw wedi bwriadu oherwydd y gost

"Fatha rhywun sy'n gweithio llawn amser, ac isio cefnogi rhywbeth Cymraeg fel hyn, dwi'n meddwl bod o 'chydig ar yr ochr ddrud."

Oherwydd y pris, meddai, dydy ei theulu ddim yn dod i'r eisteddfod am gymaint o ddyddiau ag y bydden nhw wedi hoffi.

"Os 'sa fo'n rhatach 'sa ni 'di dod am dri, bedwar diwrnod, achos mae 'na ddigon i blant 'neud yma,"esboniodd.

"Mae jyst yn bechod bod y pris mor ddrud, bod ni ddim yn gallu mwynhau'r maes am fwy nag un diwrnod."

Cytuno mae Rebecca Shepherd, a wariodd 拢50 am docyn teulu i ddau oedolyn a dau blentyn, ac sy'n gorfod gwneud hynny eto yn nes ymlaen yn yr wythnos.

"Roedd e am ddim llynedd, felly mae 拢50 ddwywaith yn ddrud," meddai.

"Falle gallen nhw wedi 'neud e fel bod plentyn sy'n perfformio ac un rhiant yn cael mynd i mewn am ddim, ac unrhyw un ychwanegol yn gorfod talu, achos fi'n deall bod angen refeniw er mwyn iddo fod cystal ag yw e."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Rebecca'n gorfod talu 拢50 arall nes ymlaen yn yr wythnos i ddod i'r maes gyda'i theulu

Ond i Rhian Jones, roedd yr 拢20 a dalodd hi'n ddigon rhesymol.

"Mae digonedd i'r plant 'ma i wneud," meddai.

Cytuno oedd Elina Thomas, gan ddweud bod "cymaint i weld" ar y maes.

"Mae rhaid i ni dalu, neu bydd Eisteddfod yr Urdd ddim yn mynd," meddai.

Yr unig beth oedd yn gresynu Paul Jones oedd na chyrhaeddodd y maes yn ddigon cynnar i wneud y mwyaf o bris ei docyn.

"Dylen i 'di codi bach yn gynt i ddod - dim ond hanner diwrnod 'wi'n cael nawr!" meddai.

"Fel mae pethe nawr, maen nhw'n eitha' tynn ar bawb. Ond mae rhai wedi gallu dod am ddim, felly maen nhw'n trio'u gorau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Paul Jones yn difaru mai dim ond hanner diwrnod a gafodd am ei 拢20!

Yn 么l Dr Llinos Jones, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, bu'n rhaid i'r ysgol gynnal cyngerdd codi arian er mwyn gallu fforddio'r tocynnau ar gyfer eu disgyblion.

"Yn sicr mae'n faich ariannol mawr os ni'n edrych ar 拢8 i bob cystadleuydd," meddai.

"Ni fel ysgolion wedi talu am ein cystadleuwyr ni, oherwydd bod ni'n teimlo bod e'n lleihau'r baich ariannol ar deuluoedd."

'Bydden i heb ddod fel arall'

Un o'r trigolion lleol a fanteisiodd ar y cynnig o docynnau am ddim oedd Hayley Linda-Price, sy'n amau a fyddai pobl fel hi wedi dod i'r maes fel arall.

"Gan fod e'n Llanymddyfri bydden i wedi trio dod am un diwrnod, ond bydden ni heb ddod am yr wythnos gyfan," meddai.

"Y bobl eraill nes i archebu tocynnau ar eu cyfer, bydden nhw heb ddod os nad oedd e am ddim.

"Dwi'n meddwl bod 'na bobl yn Llanymddyfri oedd yn meddwl bod yr eisteddfod dim ond i rieni plant sy'n cystadlu, a phobl sy'n siarad Cymraeg.

"Felly i bobl ddod i brofi'r peth a gweld fod e'n 诺yl i bawb fwynhau, mae'n hwyl i bawb."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Hayley'n grediniol fod y tocynnau am ddim wedi denu ymwelwyr fyddai fel arall heb ddod i'r eisteddfod

Dywedodd Sian Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau, ei bod hi'n awyddus i weld trefniant y tocynnau am ddim yn parhau i'r dyfodol, yn dilyn y galw amdanynt eleni.

"Yn sicr mi fyddan ni'n trafod gyda Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i'r dyfodol," meddai.

"Mae'n hollbwysig ac mae wedi cael ei werthfawrogi'n fawr iawn gan y teuluoedd hynny. 'Dan ni wirioneddol yn meddwl bod o'n bwysig fel mudiad."

Wrth ymateb i feirniadaeth gan rai am y pris mynediad, dywedodd nad oedd prisiau wedi cynyddu ers 2018.

"Mae hynny er bod prisiau isadeiledd... wedi mynd fyny yn eithriadol, yn bell tu hwnt i chwyddiant," meddai.

"Felly mae'n falans i drio cadw pawb yn hapus."