大象传媒

Eisteddfod yr Urdd 2023: Gwydion Rhys yn cipio'r Fedal Gyfansoddi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwydion RhysFfynhonnell y llun, Urdd

Gwydion Rhys ydy Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.

Fe gipiodd y Fedal Gyfansoddi gyda 'Pum Pedwarawd' o dan y ffugenw 'Tannau Perfedd'.

Mae'r cyfansoddwr 20 oed o Rachub yn Nyffryn Ogwen wedi cyrraedd y tri uchaf yn y gystadleuaeth o'r blaen.

Dywedodd Gwydion: "Mae ennill y Fedal Gyfansoddi yn rhoi boddhad mawr i mi o wybod bod pobl yn gwerthfawrogi fy ngherddoriaeth.

"Dwi wedi cyrraedd y tri uchaf yng nghystadleuaeth y Fedal Gyfansoddi deirgwaith o'r blaen, felly mae'r neges i unrhyw gyfansoddwr ifanc yn glir - daliwch ati i greu!"

Daeth naw cyfansoddiad i law yn y gystadleuaeth eleni, gyda Dr Owain Llwyd a Dr Daniel Bickerton yn feirniaid.

Mae Gwydion yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd Llanllechid ac Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda ac ar fin cwblhau ei ail flwyddyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ble mae'n astudio Cyfansoddi.

Rhoddwyd yr ail wobr i David Ingham o Ysgol Gyfun G诺yr yn Abertawe am ei gyfansoddiad ar gyfer wythawd chwythbrennau o'r enw 'Branwen, y Ddrudwen, a'r M么r'.

Roedd y drydedd wobr eleni yn mynd draw i'r UDA, i Katia Rumin o Stockbridge, Massachustes am ei chyfansoddiad 'Trawsplygainiadau'.