大象传媒

Teyrnged i fenyw a gafodd ei chanfod yn farw yn Afon Hafren

  • Cyhoeddwyd
Natalie DeanFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Natalie Dean yn 34 ac yn dod o Sir Amwythig

Mae teyrnged wedi'i roi i fenyw a gafodd ei chanfod yn farw yn Afon Hafren ger Llanidloes dros y penwythnos.

Roedd Natalie Dean yn 34 oed ac yn dod o bentref Ford yn Sir Amwythig.

Cafodd ei chorff ei ganfod ar gyrion Llanidloes am 16:00 ddydd Sul, 28 Mai.

Mae dyn, 46, wedi cael ei ryddhau ar fechn茂aeth yr heddlu ddydd Gwener ar 么l cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei theulu: "Ry'n yn hollol syfrdan wedi i ni golli merch a chwaer ac fe fyddwn oll yn colli Natalie Dean.

"Fe fyddwn yn hoffi diolch i bob un am eu cefnogaeth yn ystod yr amser ofnadwy hwn. Mae'n golygu llawer i'r teulu cyfan."

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am unrhyw dystion neu ddelweddau dashcam a welodd ddyn a menyw yn ardal Llanidloes neu ar yr A470 rhwng Llanidloes a Dolwen, ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Cafodd y fenyw ei disgrifio fel gwyn, byr, gyda dreadlocks hir. Roedd hi'n gwisgo top llwyd, trowsus tywyll ac esgidiau gwyn.

Mae'r dyn wedi'i ddisgrifio fel gwyn, tua chwe throedfedd gyda dreadlocks a bandana tywyll. Roedd ganddo gi bach tywyll.

Pynciau cysylltiedig