Ateb y Galw: Tegwen Bruce-Deans

Disgrifiad o'r llun, Tegwen Bruce-Deans

Tegwen Bruce-Deans, ennillydd cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd 2023, sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma.

Ganwyd Tegwen yn Llundain i deulu di-Gymraeg ond cafodd hi ei magu yn Llandrindod, Maesyfed ar 么l i'w theulu symud i Gymru pan oedd yn ddwy oed.

Llynedd mi raddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, lle'r ysgrifennodd ei thraethawd hir ar y berthynas rhwng merched a'r gynghanedd.

Mae hi bellach wedi ymgartrefu ym Mangor ac yn gweithio fel ymchwilydd i 大象传媒 Radio Cymru. Mae hefyd yn creu amrywiaeth o gynnwys llawrydd am gerddoriaeth Gymraeg, ac yn aelod o'r gr诺p Kathod.

Bydd Tegwen yn rhyddhau ei chyfrol cyntaf o gerddi, Gwawrio, fel rhan o gyfres Tonfedd Heddiw Cyhoeddiadau Barddas ar ddiwedd mis Mehefin 2023.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Ers yn hogan ifanc, dwi wedi bod yn mynd i gigs Cymraeg efo fy rhieni. Rhai o'r atgofion cyntaf sydd gen i yw gwylio bandiau eiconig fel Derwyddon Dr Gonzo, Genod Droog a Radio Luxembourg ar lwyfannau ar draws y wlad, a dwi'n siwr bod cael profiadau fel hyn mor ifanc wedi chwarae rhan enfawr yn fy angerdd tuag at gerddoriaeth Gymraeg hyd heddiw.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dwi wrth fy modd efo cerdded ar draeth Llanddwyn ac edrych allan at y mynyddoedd sy'n gefnlen i'r m么r o fy mlaen i - cymaint nes i fi gynnwys y mynyddoedd hynny fel rhan o'r celf sydd ar glawr fy nghyfrol gyntaf i o farddoniaeth, Gwawrio, fydd allan mewn ychydig wythnosau!

Ffynhonnell y llun, Tegwen Bruce-Deans

Disgrifiad o'r llun, Tegwen a'r olygfa arbennig o Llanddwyn y tu 么l iddi

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ganol nos ym mherfedd y gaeaf, es i a fy nghariad am dro i Eglwys Cwyfan, sy'n eistedd ar ynys fach yng nghanol y m么r oddi ar arfordir Ynys M么n. Roedd y tywod wedi rhewi, a'r m么r yn tarannu o amgylch yr ynys, gan adael y llwybr teneuaf o greigiau yn arwain fyny at yr eglwys yn eistedd ar ei orsedd. Roedd hi'n noson glir, a dwi erioed 'di gweld y s锚r a'r llwybr llaethog yn disgleirio felly. Noson sy'n cynnau rhyw hud ynof bob dro mae'r atgof yn taro.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Perffeithydd, angerddol, a dwi am fod yn ddigywilydd a bachu gair a ddefnyddiwyd ar Twitter yn ddiweddar i ddisgrifio fi; melynfardd!

Ffynhonnell y llun, Tegwen Bruce-Deans

Disgrifiad o'r llun, Llun a baentiodd Tegwen ger Eglwys Cwyfan

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?

Dwi'n cofio mynd ar lwyfan gyda fy nhad i gymryd rhan mewn sioe Stwnsh ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol un flwyddyn. Mi gafodd Dad gwestiwn yn anghywir, a dyma'r cyflwynydd yn taflu platiad o shaving foam ar ei wyneb fel cosb. Yn anffodus, mi dynnodd Dad ei sbectol i ffwrdd cyn derbyn y platiad yn ei wyneb, ac roedd yn rhaid i ni dreulio'r awr nesaf yn y babell Cymorth Cyntaf ar 么l i'r shaving foam gael yn ei lygaid! Dwi'n hoff iawn o'i atgoffa o'r digwyddiad yna hyd heddiw i dynnu ei goes.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Roedd lot gormod o ddigwyddiadau cywilyddus wedi digwydd dros fy nghyfnod yn y brifysgol ym Mangor - geith rheini aros yn atgofion rhyngdda i a genod Mountain View, dwi'n meddwl!

Ffynhonnell y llun, Tegwen Bruce-Deans

Disgrifiad o'r llun, Genod Mountain View

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Dwi'n un sy'n crio'n hawdd iawn! Roedd gwylio n么l y seremoni cadeirio yn emosiynol iawn, pan wnes i sylwi bod Mam yn crio yn y cefndir wrth i mi sefyll ar fy nhraed! Dwi'n meddwl bod hynny'n brawf o faint mae ennill y wobr yn golygu i fi a fy nheulu, yn enwedig ar 么l i mi ddod mor agos i'r brig sawl blwyddyn yn olynol.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi methu ymlacio nes bod pob dim yn berffaith!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Cwestiwn anodd!! Dwi wrth fy modd efo darllen, ac mae sawl llyfr yn sefyll allan i mi fel llyfrau y buaswn i'n troi atyn nhw eto ac eto am resymau gwahanol. Un o'r pethau sy'n ysbrydoli fy ngwaith creadigol fwyaf yw'r syniad o werthfawrogi'r pethau bychain mewn bywyd, a chanfod hud a phleser mewn darnau o fywyd beunyddiol sy'n aml yn cael eu hanwybyddu.

Mae llyfrau fel tu 么l i'r awyr gan Megan Angharad Hunter, If Nobody Speaks of Remarkable Things gan Jon McGregor, Carafanio gan Guto Dafydd a chyfrol Marged Tudur, Mynd, yn agos iawn at fy nghalon yn y cyswllt hwnnw.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Gwerful Mechain. Yn fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol, ysgrifennais fy nhraethawd hir ar y berthynas rhwng merched a'r gynghanedd o'r cyfnod canoloesol hyd heddiw. Dadansoddais lawer o waith ac agwedd cyffredinol Gwerful Mechain oherwydd hynny, ond roedd hi hefyd yn rhwystredig cyn lleied o wybodaeth sydd gennym ni ar gof am ei hanes. Fuasai cael pigo ei br锚ns hi dros beint nid yn unig yn diwallu fy chwant personol i, ond hefyd gosod sail cryfach i draddodiad barddol benywaidd a'r dealltwriaeth o hanes barddoniaeth ffeministaidd yn ein cyfnod ni heddiw.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun diweddar iawn, ond llun y bydda i'n ei drysori am byth. Llun ohonof i yn codi ar fy nhraed i s诺n y ffanffer yn seremoni'r Cadeirio ddydd Iau diwethaf, gyda fy nhad, fy mam a fy nghariad Osian, yn edrych ymlaen yn y cefndir. Diolch i Tudur Dylan Jones am ddal yr eiliad arbennig yma.

Ffynhonnell y llun, Tudur Dylan Jones

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mi o'n i'n dawnsio ballet am tua 16 o flynyddoedd (er, doeddwn i fyth yn dda iawn arni chwaith)!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cyn belled ag y bod fy nheulu, ffrindiau a fy nghath fach Macsen o'n cwmpas i, dwi'n meddwl y buaswn i'n fodlon fy myd.

Ffynhonnell y llun, Tegwen Bruce-Deans

Disgrifiad o'r llun, Partner Tegwen, Osian, a Macsen y gath

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Fyswn i wrth fy modd yn cael bod y bardd a'r awdur Ocean Vuong am y diwrnod. Mae ei gasgliad diweddaraf o gerddi, Time is a Mother yn waith a wnaeth fy llorio i, a mi fuaswn i'n teimlo'n ofnadwy o ffodus cael mewnwelediad o sut mae ei ymennydd yn gweithio'n greadigol.

Hefyd o ddiddordeb: