´óÏó´«Ã½

'Torcalon' wrth i Glwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Menywod Y Fenni ddod i ben

  • Cyhoeddwyd
Y FenniFfynhonnell y llun, Lewis Mitchell
Disgrifiad o’r llun,

Gorffennodd Y Fenni ar waelod yr Adran Premier y tymor hwn ar ôl ennill dim ond dwy o'u 20 gêm

Mae Clwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Menywod Y Fenni yn dweud eu bod wedi "gwneud y penderfyniad torcalonnus o ddod â'r clwb i ben".

Yn eu datganiad, fe dywedodd y tîm sydd wedi bod yn cystadlu yn yr Adran Premier ei bod hi wedi "dod i'r amlwg bod hi'n dasg amhosib cario 'mlaen... roedd popeth yn ein herbyn".

Ym mis Chwefror, fe gafodd y clwb chwe phwynt wedi'u tynnu oddi arnynt am fethu â chwarae gemau ym mis Ionawr.

Dywedodd y clwb eu bod nhw hefyd wedi derbyn dirwyon o dros £2,000 gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC).

Roedd Y Fenni wedi treulio naw mlynedd yn y brif adran, nes iddyn nhw gael eu gosod yn yr ail haen yn 2021 yn dilyn ailstrwythuriad i gynghreiriau'r menywod - penderfyniad gafodd ei ddisgrifio fel un "annheg" gan y clwb.

Fe gawson nhw wedyn drwydded i'r gynghrair haen uchaf ar gyfer 2022-23, ar ôl sicrhau dyrchafiad fel pencampwyr Adran y Gogledd.

Ond y tymor hwn fe orffennon nhw ar waelod y tabl, gan olygu eu bod nhw'n disgyn yn ôl i lawr, ac maen nhw wedi cael sawl dirwy eleni.

Fe ychwanegodd y clwb yn eu datganiad fod pawb "ddim yn chwarae o dan yr un rheolau".

Mae CBDC wedi cael cais am ymateb.

Dywedodd CPD Menywod Y Fenni y byddan nhw nawr yn helpu eu chwaraewyr a'u staff i ddod o hyd i glybiau newydd ar gyfer y tymor sydd i ddod.