大象传媒

Betsi Cadwaladr: Pwysau cynyddol i gyhoeddi adroddiad

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Mae pwysau yn cynyddu ar fwrdd GIG gogledd Cymru ar 么l i gyn-weinidog cabinet Llywodraeth Cymru ddweud bod yn rhaid iddyn nhw fod yn "dryloyw" ynghylch adroddiad cyllid damniol.

Dywedodd ymchwiliad EY fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cam-gofnodi gwariant o filiynau o bunnau.

Dywedodd Ken Skates y dylai'r bwrdd geisio cyhoeddi "popeth y gall cyn gynted 芒 phosib".

Daw hynny wedi i Lywodraeth y DU alw ar Weinidog Iechyd Cymru i gyhoeddi'r adroddiad, sy'n cynnwys honiadau o gamreolaeth ariannol o fewn bwrdd iechyd y gogledd.

Mae Ysgrifennydd Cymru yn Llywodraeth y DU, David TC Davies, wedi ysgrifennu at Eluned Morgan yn "mynegi pryder sylweddol" yngl欧n 芒 chynnwys yr adroddiad gan EY.

Mae ef, y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd a Phlaid Cymru, am weld y canfyddiadau yn gyhoeddus.

Cynnig yn methu

Methodd cynnig gan y Ceidwadwyr yn galw am gyhoeddi adroddiad EY 芒 phasio yn Senedd Cymru ar 么l i union 24 o wleidyddion bleidleisio drosto a 24 bleidleisio yn erbyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu Ken Skates yn weinidog yr economi tan ddwy flynedd yn 么l.

Mewn dadl yn y Senedd dywedodd Mr Skates, a fu'n weinidog yr economi tan ddwy flynedd yn 么l, fod yr adroddiad "wedi achosi diddordeb aruthrol yng ngogledd Cymru, a bod gwybodaeth sy'n deillio ohono heb os wedi niweidio ffydd y cyhoedd yn y sefydliad ymhellach".

"Mae'r adroddiad yn eiddo i'r bwrdd ac mae'n rhaid i'r bwrdd ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd," meddai.

"I adeiladu, rhaid i chi ddarparu'r gwir a bod yn dryloyw."

Nodir yn yr adroddiad bod "methiannau diwylliannol systematig wedi bod yn y t卯m cyllid a'r arweinyddiaeth".

Hyd yn hyn mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cyhoeddi'r ddogfen, gan ddweud fod "Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn disgwyl am gyngor cyfreithiol a allan nhw ryddhau'r adroddiad ai peidio".

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wrth y Senedd ddydd Mercher fod Gwasanaeth Atal Twyll y GIG wedi "penderfynu nad oedd tystiolaeth wedi'i ysgogi gan elw personol, a chyhoeddodd na fyddai'n cymryd unrhyw gamau troseddol".

Mae'r ymchwiliad, sydd wedi'i weld gan y 大象传媒, yn dweud fod swyddogion cyllid y bwrdd wedi gwneud cofnodion anghywir bwriadol yn y cyfrifon.

Dywedodd cyfrifwyr fforensig fod y bwrdd iechyd wedi cofnodi trafodion yng nghyfrifon 2021-22 yn ymwneud 芒 gwaith nad oedd contractwyr wedi'i wneud eto, neu offer meddygol na chyrhaeddodd tan fisoedd wedyn.

Cafodd ymchwiliad twyll troseddol i'r mater ei ollwng yn gynharach eleni, er bod adolygiad mewnol o'r hyn a ddigwyddodd yn parhau.

'Camreoli arian yn eang'

Yn ei lythyr dywedodd Mr Davies fod yna "bryder sylweddol o fewn cymunedau yn y gogledd" ar 么l i'r adroddiad ganfod bod "camreoli arian cyhoeddus yn eang o fewn y bwrdd".

"O ystyried y llif ddiferion o rannau o'r adroddiad i'r cyfryngau a chyda phryder eang yn cynyddu, rwy'n credu ei fod er ein lles ni i gyd fod aelodau'r cyhoedd yn gallu darllen yr adroddiad yn llawn eu hunain.

"Hoffwn ofyn i chi felly gyhoeddi'r adroddiad yn llawn heddiw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae David TC Davies wedi ysgrifennu at Eluned Morgan yn "mynegi pryder difrifol" am adroddiad gan y cwmni cyfrifo EY.

Ddydd Mercher, yn ystod dadl yn y Senedd, fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig alw am gyhoeddi'r adroddiad.

Yn 么l llefarydd y Ceidwadwyr dros ogledd Cymru, Darren Millar, mae "diddordeb cyhoeddus sylweddol yn ei gynnwys ac mae gan y cyhoedd hawl i wybod beth sydd wedi bod yn digwydd".

"O ystyried fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ei roi yn 么l i fesurau arbennig, mae gan y gweinidog iechyd y grym i orfodi'r bwrdd iechyd i gyhoeddi'r adroddiad - fe ddylai hi wneud hynny heb oedi."

Mae methu 芒 chyhoeddi'r adroddiad, meddai, "yn rhoi'r argraff o guddio".

Fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig hefyd alw am adolygiad ehangach i sicrhau nad yw'r arferion a nodir yn yr adroddiad "yn digwydd mewn sefydliadau eraill y GIG yng Nghymru" ac nad yw "arferion tebyg" wedi digwydd yn y blynyddoedd ariannol blaenorol.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ar ran Plaid Cymru fod yr adroddiad yn "tynnu sylw at gamreoli dwfn".

"Mae'n adroddiad sy'n tynnu sylw at amhriodoldeb ariannol. Mae'n adroddiad sy'n amlygu diffyg tryloywder.

"Mae'n adroddiad sy'n amlygu ymateb annigonol gan Lywodraeth Cymru."

'Gweithdrefnau mewnol yn mynd rhagddynt'

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y bwrdd iechyd yn "datblygu materion a godwyd yn adroddiad Ernst & Young yn unol 芒'i weithdrefnau a'i bolis茂au".

"Mae hyn yn dilyn casgliad ymchwiliad Atal Twyll GIG Cymru yn ymwneud 芒 barn yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfrifon ariannol 2021-22 y bwrdd iechyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Nid ydym yn gwneud sylwadau ar ddogfennau a ddatgelwyd, yn enwedig pan, fel yn yr achos hwn, mae gweithdrefnau mewnol yn dal i fynd rhagddynt."

Dywedodd Dyfed Edwards, cadeirydd y bwrdd iechyd: "Rydym yn ceisio cyngor cyfreithiol yngl欧n 芒'n gallu i rannu'r adroddiad hwn ac yn dymuno gwneud popeth sy'n bosib i gydweithio 芒 phart茂on 芒 diddordeb mewn ysbryd agored.

"Wrth ymdrin 芒 materion mor sensitif, mae'n bwysig ein bod yn taro cydbwysedd priodol rhwng tryloywder a'r ddyletswydd gofal sydd gennym i'n staff."