Ymchwiliad Covid: 'Llywodraeth heb gymryd rhan lawn'
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd a gollodd berthnasau i coronafeirws yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan ddigonol yn yr ymchwiliad cyhoeddus i'r pandemig, yn 么l cyfreithiwr sy'n eu cynrychioli.
Dywedodd Craig Court nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan "cystal ag y dylen nhw".
Honnodd bod Llywodraeth Cymru wedi methu 芒 chyflwyno gwaith papur hollbwysig gydag ond dyddiau nes bod yr ymchwiliad yn dechrau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddan nhw'n gwneud sylw ar unrhyw faterion yn ymwneud 芒'r ymchwiliad gan fod y trafodion bellach ar y gweill.
'Dogfennau hwyr iawn'
Dywedodd Mr Court wrth 大象传媒 Cymru bod "pryder mawr am y ddyletswydd o onestrwydd".
Dywedodd fod y pryderon yn deillio o "ddatgeliad hwyr iawn" o ddogfennau, a oedd yn gwneud paratoadau ar gyfer yr ymchwiliad - sy'n dechrau yn Llundain ddydd Mawrth - yn anodd.
Ychwanegodd Mr Court fod gwrandawiad rhagarweiniol fis Ebrill wedi clywed nad oedd y llywodraeth wedi cyflwyno eu holl ddogfennau "cyn gynted ag y dylen nhw fod wedi".
"Rydym yn dal i gael dogfennau [ac], hyd heddiw, nid ydym wedi derbyn rhywfaint o'r dystiolaeth Gymreig allweddol.
"Dywedwyd wrthym y byddwn yn parhau i gael dogfennau hyd at ac yn cynnwys y gwrandawiad," meddai.
Er yn cydnabod fod peth oedi i'w ddisgwyl oherwydd yr "amserlen feichus" a osodwyd gan bennaeth yr ymchwiliad, fe ychwanegodd: "Mae hyn yn rhywbeth maen nhw wedi bod yn ymwybodol ohono ers 18 mis."
Dywedodd Mr Court, o gyfreithwyr Harding Evans, ei fod ef a'i d卯m yn "gweithio mor galed ag y gallwn" i brosesu "y degau o filoedd o ddogfennau sydd gennym", i fod "mor barod ag y gallwn ar gyfer yr wythnosau nesaf".
Dywedodd "efallai na fyddai cymaint o ffocws ar Gymru ag yr hoffai teuluoedd" yn yr ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan, ond bod gobaith y byddai mwy o atebion yn dod i'r amlwg i deuluoedd o'r rhan o'r ymchwiliad sy'n benodol am Gymru yng ngwanwyn 2024.
"Mae'r ymchwiliad yn mynd i fynd ymlaen am sawl blwyddyn arall," meddai.
"Heb os, mae'n mynd i fod yn gyfnod emosiynol ac anodd iawn [i'r teuluoedd]."
Dywedodd Mr Court nad oedd Llywodraeth Cymru wedi paratoi'n ddigonol ar gyfer y pandemig, gydag ymarferion a gynhaliwyd yn y blynyddoedd cyn hynny "yn aml heb eu hystyried".
Ychwanegodd fod llawer o deuluoedd wedi colli perthnasau mewn ysbytai, a honnodd nad oedd y GIG yng Nghymru "yn addas i'w bwrpas".
"Roedd y GIG yng Nghymru wedi'i dan-baratoi'n sylweddol ar gyfer y mathau hyn o achosion," meddai.
"Roedd yst芒d y GIG yn heneiddio, adeiladau nad oedd yn addas i'r diben... llawer o argymhellion wedi'u gwneud dros y blynyddoedd i wella pethau ond na chafodd eu gwneud.
"Felly'r hyn y mae'r teuluoedd yn gobeithio amdano mewn gwirionedd yw bod y materion sydd wedi'u nodi yn cael eu gweithredu, fel bod gwell system yn ei le pe baem yn y sefyllfa anffodus o gael yr un math o beth eto yn y dyfodol."
'Ymgysylltu'n llawn'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ni fyddwn yn gwneud sylw ar unrhyw faterion yn ymwneud 芒'r ymchwiliad gan fod y trafodion bellach ar y gweill.
"Rydym wedi ei gwneud yn glir ein bod yn parhau i ymgysylltu'n llawn 芒'r ymchwiliad i sicrhau bod pob cam gweithredu a phenderfyniad yn cael ei graffu'n llawn ac yn briodol."
Wrth ymateb dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd ei bod yn "glir" nad yw'r llywodraeth wedi cymryd rhan ddigonol yn yr ymchwiliad - "gan fethu'r prawf osododd Mark Drakeford i'w hun".
Ychwanegodd Russell George AS: "Dyma reswm arall nawr i greu ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru i roi atebion i'r teuluoedd a gollodd anwyliaid."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2022