大象传媒

Josh Roberts: Arestio dyn 32 oed yn dilyn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Joshua Lloyd RobertsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Joshua Lloyd Roberts yn y gwrthdrawiad ger Caeathro nos Wener

Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud eu bod bellach wedi arestio dyn 32 oed mewn cysylltiad gyda gwrthdrawiad ffordd a laddodd ddyn ifanc o Gaernarfon.

Bu farw Joshua Lloyd Roberts, 19, yn dilyn y gwrthdrawiad ar Ffordd Waunfawr ger Caeathro nos Wener.

Yn dilyn hynny cafodd dyn 19 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, a'i ryddhau wrth i'r ymchwiliad barhau.

Mae'r heddlu'n dweud na fyddan nhw bellach yn cymryd unrhyw gamau yn erbyn y dyn 19 oed.

Cannoedd mewn g锚m goffa

Mae'r dyn 32 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal, a'i ryddhau ar fechn茂aeth.

Dywedodd yr heddlu bod eu hymchwiliad yn parhau, ac maen nhw wedi apelio eto am unrhyw fideo cerbyd gan rywun oedd yn teithio ar hyd y ffordd rhwng 22:30 a 23:30 y noson honno.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafwyd munud o dawelwch cyn g锚m goffa ym Montnewydd i gofio am Josh Roberts

"Hoffem ddiolch i bawb am eu cymorth a'u cefnogaeth yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn anodd iawn i'r gymuned leol," meddai'r llu.

Mae cwest bellach wedi ei agor a'i ohirio i farwolaeth Mr Roberts, wrth i'r heddlu barhau gyda'u hymchwiliad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae mam Joshua Roberts wedi galw am welliannau i ffordd yr A4085 ble ddigwyddodd y gwrthdrawiad

Nos Iau roedd dros 600 o bobl yn bresennol mewn g锚m b锚l-droed rhwng Bontnewydd a Chaernarfon, dau o gyn-glybiau Josh Roberts.

Fe wnaeth ei fam, Melanie Tookey, ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth tra hefyd yn galw am newidiadau i ffordd yr A4085.

"Mae 'di bod yn anodd meddwl da' ni byth yn mynd i'w weld o eto," meddai Ms Tookey.

"Ond dan ni di cael gymaint o negeseuon a tributes a donations, ac mae hynny just wedi dod a ni drwy'r cyfnod hyll ac anodd 'ma."

Disgrifiad,

Dywedodd Melanie Tookey, mam Josh: "Mae 'di bod yn anodd meddwl da' ni byth yn mynd i'w weld o eto"

"Heb y petha' ar social media mi fysa fo wedi bod lot mwy anodd," meddai.

Yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, roedd Josh Lloyd Roberts hefyd yn b锚l-droediwr dawnus.

Mae tudalen casglu arian gafodd ei sefydlu ddydd Mawrth eisoes wedi casglu dros 拢12,000 mewn ychydig dros ddiwrnod.

"Ma' 'di bod yn tonic a fedrai'm coelio faint ma'r gymuned 'di dod at ei gilydd, ma'n amazing."

'Un o fil'

Mewn datganiad yn dilyn ei farwolaeth roedd teulu Joshua Lloyd Roberts wedi'i ddisgrifio fel "cefnogwr p锚l droed brwdfrydig" oedd wastad 芒 "gw锚n ar ei wyneb".

"Roedd yn ffyddlon i'w deulu a buasai'n rhoi ei amser i unrhyw un. Roedd yn frawd mawr gwych i Roni, yn frawd bach ffantastig i Abi, a llys-frawd i J芒c," meddai ei deulu.

"Roedd yn gefnogwr p锚l-droed brwdfrydig ac roedd yn mwynhau cefnogi t卯m Everton (COYB) a'i d卯m lleol, Caernarfon.

"Roedd yn aelod gwerthfawr o d卯m p锚l-droed Bontnewydd ac hefyd Cymdeithas GymGym Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Disgrifiad,

Dywedodd ei ffrind Catrin Edith Parry fod Josh yn "fwrlwm o fywyd" ac "un o fil"

"Hoffai ei deulu ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu 芒 nhw ar yr adeg anodd yma."

Ychwanegodd ei ffrind, Catrin Edith Parry, fod Josh yn "fwrlwm o fywyd" ac yn "un o fil".

Dywedodd fod yr ymateb i'w farwolaeth yn "dangos sut fath o berson oedd Josh, a'r ffaith ei fod o'n ffrind i bawb".

Pynciau cysylltiedig