Ateb y Galw: Elain Roberts
- Cyhoeddwyd
Elain Roberts, enillydd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2023, sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar 么l cael ei henwebu gan Tegwen Bruce-Deans.
Mae Elain yn 22 mlwydd oed ac yn wreiddiol o Bentre'r Bryn ger Cei Newydd. Mae hi newydd orffen gradd mewn Ffrangeg a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Bryste.
Mi fydd hi'n symud adref dros yr haf ac yn dechrau ar ei swydd fel Swyddog Gweithredol i'r Aelod Seneddol Ben Lake yng Ngheredigion.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fy atgof cyntaf yw bod ar wyliau yn y garafan gyda fy nheulu pan ro'n i'n dair. Roedd Dad yn dysgu fy chwaer sut i daflu lein bysgota a ges i roi cynnig arni. Wythnos ynghynt, caeais fy mys mewn drws a gwneud niwed i fy ewin, felly roedd yn rhaid i mi wisgo menig wrth wneud. Yr hyn dwi'n ei gofio yw tynnu'r menig, a fy ewin yn dod i ffwrdd tu fewn gan adael croen crychlyd, meddal, pinc yn agored! Hyfryd!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Heb os, traeth Castell Bach sydd rhwng Cwmtydu a Chwmsilio. Cefais fy ngeni a'm magu rhyw 10 munud i ffwrdd, ond dwi'n dal i gael fy syfradnu gan y lle bob tro fydda i'n mynd. Mae'n rhaid cerdded ar hyd llwybr yr arfordir i gyrraedd y traeth sy'n golygu eich bod yn cael y pleser o weld golygfeydd o Langrannog, Mwnt ac Ynys Aberteifi yn y pellter. Mae'r traeth yn un cudd hefyd ac yn dawel hyd yn oed yng nghanol yr haf.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mae gen i atgofion melys o sawl noson ond mae'n rhaid dweud bod y gig olaf yn Neuadd Buddug, Bala yn un o'r goreuon. Ro'n i dal yn yr ysgol ar y pryd, ac fe deithiais i a dwy o'm ffrindiau gorau i'r Bala ac aros mewn gwely a brecwast am y noson. Roedd synnwyr o ryddid ac antur i'r trip. Roedd y gig ei hun yn wych ac roedden ni wedi cyffroi'n l芒n. Rydyn ni'n tair yn dal i s么n am y noson yna fel un o'r goreuon o'n hieuenctid!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cyfeillgar, empathetig, perffeithydd.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?
Ro'n i ar fy ngwyliau gyda fy nheulu (eto!) yn Lisbon yn 2018. Aethon ni i Sintra am y diwrnod a phenderfynu cael tuktuk at y castell gan ei fod yn rhatach na'r bws. Roedd yr holl siwrne i fyny allt serth 芒 chorneli troellog. Os ydych chi erioed wedi bod mewn tuktuk, rydych chi'n gwybod pa mor sigledig ydyn nhw... yn enwedig gyda chwech mewn un! Adrenaline rush go iawn, gyda phob un ohonon ni'n sgrechian a chwerthin yn afreolus am yn ail. Dwi'n meddwl n么l i hynny gyda gw锚n ar fy wyneb ac yn diolch ein bod ni dal yn fyw!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Yn Ysgol Dyffryn Teifi, roedd ambell fwrdd bwyta yn cael ei osod ar y llwyfan yn y neuadd gan fod lle yn brin. Un amser cinio pan ro'n i ym mlwyddyn wyth, ro'n i'n cario fy hambwrdd a fy llestri brwnt yn 么l i'r gegin. Cafodd fy sylw ei dynnu gan fy ffrind a gan nad oeddwn i'n edrych ble ro'n i'n mynd, collais y grisiau yn llwyr a chamu'n syth oddi ar y llwyfan (rhyw fetr a hanner o uchder). Syrthiais yn glatsh ar ben merch o'r chweched dosbarth, druan. Yr ymateb naturiol arferol fyddai bloeddio "WEI" ond yn yr achos hwn, aeth y neuadd yn hollol dawel wedi holl glindarddach y llestri. C诺l iawn, Elain.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Cwestiwn anodd iawn! Un o'r ffilmiau diweddaraf i greu argraff arna i yw Close. Ffilm Ffrengig yw hi wedi'i lleoli yng Ngwlad Belg. Mae'n s么n am gyfeillgarwch dau fachgen 13 oed, yr homoffobia maent yn ei brofi yn yr ysgol a chymlethdodau eu perthynas. Mae'r actio'n hynod o glyfar a sensitif a'r golygfeydd aesthetig yn cyferbynnu gyda thywyllwch y ffilm. Nes i ddim stopio meddwl amdani am ddyddiau wedyn. Pwerus tu hwnt.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Neithiwr, digwydd bod! Nes i wylio Help ar Netflix - ffilm bwerus ond emosiynol iawn!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n ymwybodol o'r ffaith fy mod i'n pigo croen fy wyneb, yn enwedig pan dwi ar bigau. Rhywbeth dwi'n trio peidio 芒 gwneud!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Angela Davis, y Marcsydd ffeministaidd o America sydd wedi cysegru ei bywyd i ymladd dros gyfiawnder ym mhob ystyr o'r gair. Dynes hollol ysbrydoledig yr ydw i'n ei hedmygu'n fawr. Byddai'n anrhydedd cael diod gyda hi, a dwi'n sicr y byddwn yn gadael yn gyfoethocach, yn ddoethach ac yn ei pharchu hyd yn oed yn yn fwy.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae gen i alergedd difrifol i gnau. Yn rhyfedd iawn, dwi newydd ddechrau gallu bwyta cnau almon, ac wrth lwc felly'n medru mwynhau Toblerone!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Byddwn i'n treulio'r diwrnod ar draeth Llangrannog gyda fy ffrindiau a fy nheulu yn bolaheulo a chael picnic, yn mynd ar y kayak yn y gobaith o weld dolffiniaid ym Mae Ceredigion ac yn aros yno i wylio'r machlud. Perffeithrwydd.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Dyma lun dynnodd Dad o gopa Moel Hiraddug, Diserth. Mae modd gweld harddwch Dyffryn Clwyd ac yna'r Carneddau a mynyddoedd Eryri yn y pellter. Mae Dad yn wreiddiol o Ddiserth, ac mae Nain a Taid a'r teulu yn dal i fyw yno. Mae'r llun yn bwysig i mi oherwydd, er i mi gael fy magu yng Ngheredigion, mae yna rhyw deimlad o berthyn i'r ardal. Dwi'n dal i ryfeddu ar yr olygfa bob tro fydda i'n mynd i Ddiserth ac yn gwerthfawrogi fod gen i wreiddiau yno.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Pierre Herm茅. Pobydd Ffrengig sy'n arbenigo mewn patisserie yw Herm茅. Dwi wastad wedi dwlu ar bobi, ond erioed wedi mentro gwneud y math o bethau rydych chi'n eu gweld mewn ffenestri siopau ym Mharis. Byddwn i'n gwerthfawrogi'r cyfle i ddeffro un bore gyda'r holl sgiliau yna i goginio a phobi pob math o ryfeddodau heb orfod treulio blynyddoeddd yn meistroli'r grefft.
Hefyd o ddiddordeb: