大象传媒

Cymru, Armenia a Paul Mullin

  • Cyhoeddwyd
iwanFfynhonnell y llun, Getty Images

Nos Wener, 16 Mehefin, mae Cymru'n wynebu Armenia yng Nghaerdydd mewn g锚m ragbrofol ar gyfer Euro 2024.

Dim ond dwywaith mae Cymru erioed wedi wynebu Armenia, gyda'r ddwy g锚m yn 2001 dan reolaeth Mark Hughes.

G锚m gyfartal oedd canlyniad y ddwy g锚m; 2-2 yn y g锚m yn Yerevan ar 24 Mawrth, a 0-0 yng Nghaerdydd ar 1 Medi.

Rhywun a wisgodd grys coch Cymru yn y ddwy g锚m oedd yr ymosodwr Iwan Roberts.

"'Nes i 'rioed sgorio dros Gymru mewn pymtheg cap, a'r cyfle gorau ges i erioed oedd yn erbyn Armenia yn Stadiwm y Mileniwm.

"Doth hi o gic gornel o'r chwith gan Ryan Giggs, 'nes i rediad i'r postyn ffrynt, a cwbl oedd rhaid imi neud oedd cael contact ar y b锚l 芒 fy nhalcen ac mi fyswn i 'di sgorio - dyna oedd fy mara menyn i!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Iwan Roberts 15 cap dros Gymru rhwng 1989 ac 2001

"Ond mi ddoth hi oddi ar ochr fy mhen i a rhywsut aeth hi heibio'r postyn cefn, sydd bron yn amhosib i'w wneud - ma'n rhaid bod hi'n beniad uffernol i hynny ddigwydd.

"99 gwaith allan o 100 ma rheiny'n mynd i gefn y rhwyd, a'r tro 'ma mi fysa hi wedi golygu bod ni 'di ennill y g锚m 1-0 efo fi'n sgorio."

Roedd Cymru ar ei h么l hi ar un pwynt yn yn y g锚m yn Yerevan, cyn i John Hartson sgorio dwy g么l i unioni, ac yn rhoi'r faintais, i Gymru. Sgoriodd Armenia gyda 25 munud ar 么l i hawlio g锚m gyfartal.

'Corfforol a threfnus'

"Roeddan nhw'n d卯m reit gorfforol ac yn ofnadwy o drefnus, ac fel mae'r sg么r yn awgrymu roeddan ni'n ei chael hi'n anodd i'w hagor nhw allan", meddai Iwan am y g锚m ddi-sg么r yng Nghaerdydd.

"Mi roeddan nhw'n ofnadwy o ddisgybledig, ac doedd 'na ddim llawer o fwriad mynd ymlaen - mi daethon nhw yna i gael g锚m gyfartal.

"Doedd gennyn nhw ddim enwau cyfarwydd yn y t卯m a gwlad ifanc oedd hi, ond roeddan nhw'n ofnadwy o drefnus."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Craig Bellamy yn brwydro am y b锚l gyda Karen Dokhoyan yn y g锚m ddi-sg么r yng Nghaerdydd, 1 Medi 2001

T卯m presennol Armenia

Seren Armenia dros y blynyddoedd diweddar oedd Henrikh Mkhitaryan sy'n chwarae dros Inter Milan, a gynt o Manchester United ac Arsenal. Mae Mkhitaryan wedi ymddeol o'r t卯m rhyngwladol ers 2021, ond mae o'n dal i chwarae dros y Nerazzurri yn Serie A.

O'r t卯m presennol mae un chwaraewr 芒 hanes diddorol; Norberto Briasco, a gafodd ei eni yn Buenos Aires ac sy'n chwarae gyda Boca Juniors - mae ei nain a taid ar ochr ei fam yn dod o Armenia.

"Ma hwn yn ffaith fach ddiddorol" meddai Iwan, "rheolwr Armenia heddiw ydi Oleksandr Petrakov, a fo oedd rheolwr Wcr谩in pan 'nath Cymru guro nhw i gyrraedd Cwpan y Byd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Norberto Briasco; ymosodwr Armenia sy'n chwarae dros Boca Juniors

"Mae 'na ambell i chwaraewr yn chwarae yn Rwsia gyda Lokomotiv Moscow a Krasandor, ond mae'r rhan fwyaf yn chwarae yn Armenia ei hun a dwi ddim yn si诺r be 'di cryfder y gynghrair yna.

"Dydyn nhw heb ennill mewn naw g锚m, a 'di colli saith o'r rheiny. Mae Norwy wedi sgorio naw g么l yn eu herbyn nhw, Yr Eidal 'di sgorio naw, mae'r Alban 'di sgwennu pedair yn eu herbyn nhw, ac mae Wcr谩in wedi sgorio pump heibio nhw. Yn wahanol i'r t卯m 'nes i wynebu, 'wyrach dydi'r cryfder amddiffynnol 'na ddim cweit yn y t卯m yma - ildio 33 g么l yn eu 11 g锚m diwethaf!"

Beth i'w ddisgwyl gan Gymru?

"Dwi'n sicr eisiau gweld mwy o goliau - 'da ni heb sgorio mwy na un g么l mewn g锚m gartref yn ein wyth olaf. Mae o'n dipyn o broblem i Robert Page, pwy sy'n mynd i lenwi sgidiau Gareth Bale. Mae o 'di ymddeol, fo oedd ein prif sgoriwr ni, mae o wedi cario ni i ambell bencampwriaeth.

"Y peth pwysig nos Wener ydi bo' ni'n ennill y g锚m. Mae pobl yn edrych ar Armenia a meddwl fydd hi'n hawdd, yndyn ma nhw'n wlad fach a 'da ni 71 lle yn uwch na nhw yn netholion FIFA, ac mae'n g锚m naw gwaith allan o 10 da ni'n ei hennill.

"Ond mae rhaid i ni beidio meddwl yn ganiataol bod ni am ennill. Roeddan nhw'n anlwcus i golli 2-1 yn y g锚m olaf gartref yn erbyn Twrci. Nhw oedd y trydydd dethol yn y gr诺p, uwchben Twrci, wedi iddyn nhw gael ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd da iawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Kieffer Moore yn dathlu ei g么l yn y fuddugoliaeth yn erbyn Latvia, 28 Mawrth 2023

"Mae'n rhaid i Gymru anelu i orffen yn y ddau safle uchaf- ma rhaid curo gemau fel Latvia ac Armenia gartref. Mae'n record gartref ni mewn gemau rhagbrofol yn wych, da ni heb golli g锚m ragbrofol pencampwriaethau Ewrop gartref ers colli i Lloegr ym mis Mawrth 2011.

"Mewn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd ac Euros yn Stadiwm Dinas Caerdydd 'da ni wedi colli un mewn 24 g锚m, felly mae hynny'n awgrymu bod y stadiwm yn un anodd iawn i wledydd ddod a'n curo ni."

Yr ymosod

Mae David Brooks n么l yng ngharfan Cymru wedi cyfnod o salwch gyda hodgkin lymphoma. Mae'r asgellwr 25 oed i'w weld n么l yng nghynlluniau Robert Page ac mae'n si诺r bydd yn cael croeso gwresog gan y Wal Goch pan fydd n么l ar y cae tra'n gwisgo coch.

"'Nath o ddechrau'r ddwy ola' i Bournemouth yn uwchgynghrair Lloegr, felly ma'r hogyn yn ffit. Fydd o yn y garfan yn sicr, achos dwi ddim yn meddwl bo'r cryfder oedd ganddon ni yn y gorffenol yna r诺an."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae David Brooks gyda Bournemouth ers 2018

"'Nath Dan James ddechrau dwy o'r naw g锚m ola'r tymor i Fulham. Nathan Broadhead wedi cal 29 g么l yn ei yrfa a ma'n 25 oed - dwi'n gwybod ddoth o mlaen a cael g么l allweddol yn erbyn Croatia.

"Mae Liam Cullen yn y garfan 'di cael wyth g么l yn y Bencampwriaeth, Kieffer Moore heb ddechrau i Bournemouth yn y 18 g锚m d'wethaf. Mae Tom Bradshaw 'di cael ei dymor gorau ers 2015/16."

"Dwi 'di cael ambell gip ar Jordan James tra'n sylwebu - chwaraewr ifanc llawn egni, llawn rhedeg. Un o'r rhein sy'n licio mynd mlaen - yr un math o chwaraewr a be oedd Gary Speed yn ifanc, yn cyrraedd y cwrt cosbi mewn amser a sgorio ambell g么l. Dwi ddim yn disgwyl iddo fo ddechrau yn erbyn Armenia, ond 'wyrach daw ei gyfle fo yn erbyn Gibraltar ym mis Hydref. Mae gan Fulham feddwl mawr o Luke Harris felly mae o'n un i'r dyfodol hefyd yn sicr."

'Super' Paul Mullin

Heblaw am y wynebau cyfarwydd, mae Iwan yn credu y dylai un g诺r arall fod wedi derbyn galwad gan Page i ymuno 芒'r garfan.

"Mi fyswn i wedi cynnwys Paul Mullin. Os wyt ti'n mynd i'r chwarter awr olaf a bod hi dal yn ddi-sg么r, a tisho rhywun i greu argraff oddi ar y fainc a dwyn g么l... 'dio ddim bwys gen i pa lefel mae o'n chwarae, mae o 'di sgorio 47 g么l - dwy g么l yn llai na ein holl ymosodwyr eraill efo'i gilydd. Mae 47 g么l yn gyfanswm anhygoel."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Paul Mullin wedi sgorio 79 i Wrecsam mewn 97 g锚m

"Mi fyswn i wrth fy modd efo pedair pwynt dros y ddwy g锚m yma. Os fysa ganddon ni wyth pwynt o'r bedair g锚m gyntaf, ac wedi chwarae y ddau d卯m anodda' oddi cartref (Croatia a Twrci), mi fysa hynny'n ddechreuad gwych i'r ymgyrch."

Hefyd o ddiddordeb: