Y Peiriant Amser gan Rhys - stori fuddugol Radio Cymru

Ffynhonnell y llun, Lucy Jenkins

Disgrifiad o'r llun, Y Peiriant Amser gan Rhys

Rhys o Ysgol Cerrigydrudion yw un o enillwyr Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes ar 大象传媒 Radio Cymru eleni.

Daeth Rhys yn fuddugol yng nghategori Cyfnod Allwedol 2a, i blant rhwng 7-9 oed am ei stori dan y teitl 'Y Peiriant Amser'. Yr awdures Awen Schiavone oedd y beirniad ac fel gwobr i Rhys, yr artist Lucy Jenkins sydd wedi darlunio llun clawr i'w stori. Mwynhewch stori Rhys.

Y Peiriant Amser

Pennod 1

"Hari, tyrd yma quick, dwi wedi meinio lot o diamonds," gwaeddais ar fy mrawd.

"Ti wedi beth?" gofynnodd Mam mewn llais blin. "Mae yna eiriau Cymraeg am hynny!"

"O, gad lonydd i ni! Does neb yn defnyddio geiriau fel cloddio!" atebais yn ddiamynedd a dianc i'r ardd.

Yn sydyn daeth fflach enfawr a glaniodd peiriant od o fy mlaen i. Agorodd y drws ac es i mewn yn araf. Caeodd y drws yn glep y tu 么l i mi. Dychrynais!

Edrychais o fy nghwmpas - roedd botymau lliwgar ar y waliau a doedd dim ffenestri o gwbl! Yn sydyn dechreuodd y botymau fflachio a'r waliau grynu. Beth yn y byd oedd yn digwydd?

Pennod 2

"Mam, Hari, lle ydych chi?" gwaeddais yn ofnus.

Agorodd y drws. O diolch byth, meddyliais. Ond wrth i mi gamu allan o'r peiriant sylwais fy mod ar long enfawr.

Roedd yna bobl ymhobman ond roedden nhw'n gwisgo dillad gwahanol iawn. Cerddais at un ohonyn nhw a gofyn, "Lle yn y byd ydw i?"

"Wel ar y Mimosa wrth gwrs!" atebodd y dyn yn syn. "'Dan ni'n symud i fyw i Batagonia i achub yr iaith Gymraeg!"

"Patagonia! Ydy hynny'n bell?" gofynnais mewn syndod.

"Tua chwe mil o filltiroedd" atebodd.

"Pam bo' chi ddim yn gallu gwneud hynny yng Nghymru?"

"Mae yna ormod o eiriau Saesneg yn difetha'r iaith yng Nghymru. 'Dan ni angen dechrau eto mewn gwlad bell. Edrycha, 'dan ni bron yna."

Roedd pawb mor hapus eu bod nhw wedi cyrraedd yn ddiogel ac mor gyffrous i gael dechrau eu bywyd newydd, ond lle roedd pawb yn mynd i fyw?

Daeth y fflach eto a daeth y peiriant amser yn 么l, "O, dwi ddim eisiau mynd r诺an," cwynais.

"Tyrd mae'n amser mynd. Paid 芒 phoeni 'dan ni ddim yn gadael Patagnoia, dwi am fynd 芒 ti ymlaen ugain mlynedd i ti gael gweld beth maen nhw wedi ei wneud," dywedodd llais diarth o'r peiriant amser.

Pennod 3

Stopiodd y peiriant unwaith eto, ond y tro hwn pan agorodd y drws, do'n i ddim yn nabod y lle!

"Helo, alla i eich helpu chi? 'Dach chi'n edrych ar goll." gofynnodd dyn oedd yn pasio.

"Wel, ddes i yma ugain mlynedd yn 么l ar y Mimosa gyda'r Cymry oedd eisiau achub yr iaith Gymraeg ac ro'n i eisiau gwybod a wnaethoch chi lwyddo?" eglurais.

"Dewch gyda fi," atebodd. "Edrychwch ... capel Cymraeg, ysgol Gymraeg a phapur newydd Cymraeg!"

"Waw, 'dach chi wedi llwyddo!" dywedais mewn syndod.

"Do, ond wnaethon ni orfod gweithio'n galed!" cytunodd. "Dydy o'n wych bod pobl yn gallu siarad Cymraeg mor bell o Gymru."

Daeth y peiriant amser yn 么l ac roedd hi'n amser gadael Patagonia. Ro'n i 'n么l ar dir gwyrdd Cymru. Rhedais i mewn i'r t欧 at Hari.

"Dafydd, dwi 'di meinio lot o gold ac iron hefyd," gwaeddodd o'n gyffrous.

"Rwyt ti wedi cloddio llawer o aur a haearn," cywirais fy mrawd yn syth.

Gwenodd Mam yn y gegin yn gwybod bod Dafydd wedi dysgu ei wers.

Hefyd o ddiddordeb: