大象传媒

Adolfo Corrado o'r Eidal yw enillydd Canwr y Byd Caerdydd 2023

  • Cyhoeddwyd
Cantorion y rownd derfynol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Adolfo Corrado (canol) yw enillydd Canwr y Byd Caerdydd 2023 gyda Jessica Robinson o Sir Benfro wrth ei ochr ar y dde.

Canwr o'r Eidal sydd wedi ennill cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y 大象传媒 eleni, gyda Jessica Robinson o Sir Benfro'n colli allan ar wobr.

Adolfo Corrado enillodd y brif wobr a Julieth Lozano Rolong o Colombia gipiodd gwobr y gynulleidfa.

Jessica Robinson, y soprano 32 oed o Landysilio, oedd y Gymraes gyntaf i gyrraedd y rownd derfynol ers 38 o flynyddoedd.

Ymgeisiodd dros 500 o gantorion am y gystadleuaeth eleni a bu rowndiau cyn derfynol i 16 o gantorion.

Roedd Adolfo, 29 oed, yn un o bum canwr a gyrhaeddodd rownd derfynol nos Sul ar 么l y gystadleuaeth 10 diwrnod.

Yn eu plith roedd Jessica a dywedodd ei bod yn "gwireddu breuddwyd" wrth gystadlu.

O ran y cantorion Cymreig sydd wedi ymddangos yn y rownd derfynol yn y gorffennol, ym 1987 fe gyrhaeddodd y soprano Ann Williams King, Syr Bryn Terfel ym 1989, a'r tenor Gwyn Hughes Jones oedd y diwethaf yn 1997.

Er na enillodd wobr, fe all enw Jessica gael ei ychwanegu at y rhestr hwnnw erbyn hyn.

'Rhagoriaeth'

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig 大象传媒 Canwr y Byd Caerdydd, David Jackson, fod y pump yn y rownd derfynol wedi arddangos "talent anhygoel".

"Dros y 10 niwrnod diwethaf, rydym wedi dathlu p诺er y g芒n ac wedi ein gwefreiddio gan 16 o artistiaid arbennig sydd wedi cymryd rhan yng Nghystadleuaeth 大象传媒 Canwr y Byd Caerdydd.

"Yn ystod y rownd derfynol heno, rydym wedi cael y fraint o fwynhau talent anhygoel y pump ddaeth i'r brig a'u ymroddiad llwyr i ragoriaeth artistig."

Bydd Adolfo'n cael gwobr ariannol sylweddol a chyfleoedd i berfformio gyda cherddorfeydd a chwmn茂au opera ledled y byd.

Pynciau cysylltiedig