Gemau rhagbrofol Euro 2024: Twrci 2-0 Cymru
- Cyhoeddwyd
Am yr ail g锚m yn olynol yn ymgyrch ragbrofol Euro 2024, bu'n rhaid i Gymru chwarae gyda 10 dyn yn unig wrth gael eu trechu o ddwy g么l i ddim oddi cartref yn erbyn Twrci.
Fe welodd Joe Morrell gerdyn coch am dacl beryglus cyn diwedd yr hanner cyntaf yn ninas Samsun.
Serch hynny fe lwyddodd Cymru i atal y t卯m sydd ar frig Gr诺p D rhag sgorio tan chwarter olaf y g锚m.
Ond roedden nhw'n ffodus hefyd fod penderfyniadau VAR wedi mynd o'u plaid, gan ddyfarnu bod dwy g么l arall gan Dwrci ddim yn sefyll.
A hwythau nawr hanner ffordd drwy'r ymgyrch, mae Cymru ym mhedwerydd safle'r tabl gyda phedwar o bwyntiau - pum pwynt yn llai na Thwrci - ac mae dwy golled o'r bron wedi amharu'n fawr ar y gobeithion o sichrau lle yn y rowndiau terfynol.
Fe ddechreuodd Cymru'r g锚m ym mhedwerydd safle'r gr诺p wedi i Armenia drechu Latfia 2-1 yn gynharach.
Gyda naw munud ar y cloc roedd y b锚l yng nghefn rhwyd Danny Ward wedi i Chris Mepham ei gwyro yno wrth geisio clirio croesiad Zeki Celik - ond roedd yna amheuaeth bod chwaraewr Twrci, o drwch blewyn, yn camsefyll cyn ei tharo.
Roedd yna funudau llawn tensiwn wrth aros am asesiad VAR, ac mewn cam anarferol, oherwydd problem gyda'r dechnoleg, fe gafodd y dyfarnwr, Fabio Maresca, ei alw i'r ystlys i wylio'r lluniau. Y dyfarnwr ei hun felly wnaeth penderfynu bod y g么l ddim yn cyfri, er mawr ryddhad i d卯m a chefnogwyr o Gymru.
Twrci gafodd mwyafrif y meddiant wedi hynny, gan bwyso ar amddiffyn oedd yn edrych yn sigledig ar brydiau, ac roedd yna reswm i bryderu dros allu Brennan Johnson i aros ar y maes ag yntau yn amlwg mewn poen wedi sawl anaf.
Ond roedd gwaeth i ddod wrth i Morrell anelu ei droed at Ferdi Kadioglu, gan adael marciau yng nghlun y chwaraewr canol cae. Doedd dim dadl yn erbyn y cerdyn coch, a oedd yn ergyd i'r t卯m oedd eisoes wedi gorfod addasu wedi i'r ymosodwr Kieffer Moore gael ei hel o'r maes yn y golled i Armenia nos Wener.
Y cysur mwyaf i Rob Page a'i garfan oedd bod y g锚m yn dal yn ddi-sg么r wedi hanner cyntaf anodd.
Gydag ail hanner llawn mor heriol yn debygol, doedd dim cyfraniad pellach gan Johnson - Ben Cabango ddaeth i'r maes yn ei le wedi'r egwyl.
O fewn munudau, bu ond y dim i Harry Wilson roi Cymru ar y blaen - roedd angen arbediad campus gan y golwr Mert Gunok i atal cic rydd wych gan y Cymro.
Cael arbediad o unrhyw fath oedd y nod i Danny Ward, wedi i groesiad daro braich Aaron Ramsey yn y cwrt cosbi - ac fe wnaeth yn wych i atal cic nerthol gan y capten, Hakan Calhanoglu o'r smotyn.
O fewn munudau, roedd yr eilydd, Umut Nayir wedi rhoi'r b锚l yn rhwyd Cymru - ond doedd y g么l ddim yn sefyll wedi i asesiad VAR ddyfarnu bod yna lawio cyn yr ergydiad.
Er ail ddihangfa'r noson, roedd yna derfyn i lwc Cymru - doedd dim amheuaeth pan gododd Umut Nayir rhwng dau amddiffynnwr i benio croesiad campus i'r g么l (72).
Ac eilydd arall - Arda Guler - wnaeth selio'r fuddugoliaeth i'r t卯m cartref gydag ergydiad rhagorol o ymyl cwrt cosbi Cymru i ddyblu'r fantais (80).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2023