大象传媒

Cyfraddau llog: 'Talu cannoedd yn fwy am forgais'

  • Cyhoeddwyd
AllweddiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cyfraddau llog wedi codi eto o 0.5% i 5% dydd Iau - cynnydd uwch na'r disgwyl

Gyda nifer y morgeisi sydd ar gael yn diflannu'n gyflym wrth i gyfraddau llog gynyddu, mae un brocer morgais yn dweud fod rhai perchnogion tai yn gorfod gwneud penderfyniad ariannol allweddol mewn cyn lleied ag 20 munud.

Yn 么l Mike Powell, sy'n ymgynghorydd morgais yn Nghil-y-coed, mae rhai o'i gwsmeriaid yn gorfod penderfynu ar gynnig gan fanc neu gwmni adeiladu mewn munudau neu wynebu'r siawns na fydd y cynnig ar gael ar 么l hynny.

Mewn un achos bu'n rhaid iddo ffonio un cwsmer yn 么l dair gwaith i ddweud nad oedd y cynnig roedden nhw wedi'i ddewis bellach yn bodoli.

"Mae rhywun yn treulio mwy o amser yn dewis gwyliau na dewis pa forgais sydd orau iddyn nhw," meddai Mike Powell wrth raglen Wales Live 大象传媒 Cymru.

"Ry'n ni'n gofyn i gleientiaid wneud penderfyniadau anferthol, tra bo efallai eu g诺r neu wraig yn y gwaith a does 'na ddim amser i'r cyplau drafod.

"Erbyn iddyn nhw ddod 'n么l aton ni mi all y cynnig fod wedi diflannu."

'Mae'n teimlo fel gamblo'

Mae cyfraddau llog wedi codi eto o 0.5% i 5% ddydd Iau - cynnydd uwch na'r disgwyl.

Bydd bron i chwarter y morgeisi cyfnod penodol - fixed term - yng Nghymru yn dod i ben cyn diwedd y flwyddyn, yn 么l data sydd wedi'i weld gan y 大象传媒.

Mewn nifer fawr o achosion mae perchnogion tai yn wynebu talu cannoedd o bunnoedd yn fwy bob mis am eu morgais newydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Prynodd Nicholai Rider a'i wraig eu t欧 yn Ninbych yn 2021

Mae Nicholai Rider, 45, yn poeni os bydd cyfraddau llog yn dal i gynyddu y bydd ei deulu yn wynebu naill ai mynd i ddyled neu werthu eu cartref i ddal dau ben llinyn ynghyd.

Prynodd Nicholai a'i wraig eu t欧 yn Ninbych yn 2021 ar 么l cael gwybod eu bod yn disgwyl eu hail blentyn.

"Roedden ni'n byw mewn t欧 ag ond dwy ystafell wely a doedd o ddim digon mawr," meddai.

"Felly roedd rhaid i ni chwilio am rywle gyda thrydedd stafell wely.

"Fe gafon ni sgwrs ddwys am ein harian, ein cyllideb misol a faint allen ni fenthyg. Wnaethon ni ddim benthyg yr uchafswm achos doedden ni ddim am adael ein hunain yn agored i drafferthion."

Er mwyn dod o hyd i gartref newydd o fewn eu cyllideb fe benderfynodd y cwpl brynu t欧 oedd angen llawer o waith atgyweirio.

Mae Nicholai yn dweud fod y cynnydd i gostau byw yn golygu fod eu sefyllfa bresennol yn dra gwahanol.

Penderfynodd y ddau i droi eu gwres canolog i ffwrdd am y rhan fwyaf o'r gaeaf er mwyn ceisio cadw biliau yn is, ond mae cyfnod eu morgais yn darfod fis Rhagfyr.

Mae Nicholai yn disgwyl i'w daliadau morgais gynyddu rhwng 拢300 a 拢500 y mis ond mae hynny yn ddibynnol ar gytuno ar raddfa mor fuan 芒 phosib, a thalu ffi er mwyn gwneud hynny.

"Mae'n teimlo fel gamblo. Mae wir yn teimlo felly," meddai.

"Mae'n un o'r pethau hynny lle nad oes gan unrhyw un ateb achos does neb yn gwybod. Mae'n gur pen cyson."

'拢803 y mis i 拢970'

Yn 么l cymdeithas adeiladu y Principality, sef y mwyaf yng Nghymru, mae 26,800 o'u morgeisi cyfnod penodol yn dod i ben cyn diwedd eleni.

Mae hynny gyfystyr a thraean y morgeisi cyfnod penodol sydd ganddyn nhw yn y wlad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Niall Jones wedi gobeithio gwerthu eu t欧 yng Nghaerffili a symud cyn i'w cyfradd morgais ddarfod

Yr wythnos hon fe benderfynodd Niall Jones, 28, fod yn rhaid iddo drefnu morgais newydd.

Mae Niall yn rhannu cartref gyda'i wraig, Natalie, a'u merch blwydd oed, Mia.

Roedd Niall wedi gobeithio gwerthu eu t欧 yng Nghaerffili a symud cyn i'w cyfradd morgais presennol ddarfod, ond does fawr o ddiddordeb wedi bod yn y t欧 ers iddo gael ei roi ar y farchnad ychydig fisoedd yn 么l.

"Dwi'n meddwl ein bod yn disgwyl talu mwy bob mis, ond doedden ni ddim yn disgwyl talu cymaint 芒 hynny yn fwy," meddai.

"Pan ddechreuon ni dderbyn llythyrau gan ein banc, rhyw ddeufis yn 么l, yn ein hatgoffa fod y morgais yn dod i ben, fe allen ni fod wedi prynu morgais newydd am 拢100 y mis yn ychwanegol, ond ar 么l aros bu'n rhaid i ni dderbyn un oedd 拢170 y mis yn uwch.

"'Da ni wedi mynd o dalu 拢803 y mis i 拢970."

'Sawl morgais wedi'u tynnu o fewn diwrnod'

Yn 么l y brocer Mike Powell, yr wythnos ddiwethaf yw'r anoddaf iddo ei chael ers cychwyn yn ei swydd 14 o flynyddoedd yn 么l, ac mae'n credu mai'r benthycwyr sydd yn rhannol ar fai.

Mae'n dweud fod benthycwyr fel arfer yn rhoi rhwng 48 a 72 o oriau o rybudd cyn tynnu morgais oddi ar y farchnad, ond dros yr wythnos ddiwethaf mae sawl morgais wedi cael eu tynnu o fewn diwrnod, ac weithiau yr un sy'n cael ei gynnig yn eu lle yn diflannu hefyd o fewn oriau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mike Powell: "Rwy'n credu y gall benthycwyr wneud yn well"

"Ry'n ni'n ymladd gyda broceri eraill ar hyd a lled y wlad yn ceisio mynd ar systemau cyfrifiadurol y benthycwyr," meddai.

"Dyw'r systemau hynny methu ag ymdopi gyda'r pwysau. Os chi'n mynd ar un system, yn aml ry'ch chi'n cael eich cicio mas cyn cwblhau cais eich cleient."

Yn 么l Mr Powell, ar un adeg yr wythnos ddiwethaf roedd ei gydweithiwr yn rhif 3,000 ar restr aros un system fancio.

"Rwy'n credu y gall benthycwyr wneud yn well," meddai.

"Fel broceri nawr ry'n ni yn meddwl cychwyn deiseb i ddweud fod rhaid i ni gael o leiaf 48 awr o rybudd [cyn i forgais ddiflannu].

"Mae'n rhaid iddyn nhw wario mwy o arian ar eu systemau hefyd i fedru copio da'r sefyllfa bresennol."

Pynciau cysylltiedig