大象传媒

'Fel dyn du doeddwn i ddim wedi fy nghynnwys mewn ystadegau canser'

  • Cyhoeddwyd
Spike Elliott
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bedair blynedd ar 么l ei ddiagnosis, dywed Spike ei fod yn ffynnu yn hytrach na dim ond yn goroesi

Arweiniodd poen ysgwydd at ddiagnosis o ganser cam pedwar a chellwyriad genetig prin i Spike Elliott.

Ond amlygodd ei daith hefyd fwlch mewn data ethnigrwydd yn y system iechyd.

Daw wrth i ymchwil gan un elusen ddangos cyn lleied o gofnodion cleifion sy'n cynnwys gwybodaeth am ethnigrwydd yng Nghymru.

Dywedodd un oncolegydd ei fod yn golygu bod rhagdybiaethau'n cael eu gwneud ynghylch sut y bydd cleifion yn ymateb, er bod "gwahaniaethau clir" yn y modd y mae rhai canserau yn effeithio ar wahanol grwpiau hiliol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio i wella casglu data ac ymchwil iechyd.

'Ymhell ar ei h么l hi'

Dywedodd Spike, sy'n fab i rieni o Jamaica, bod y diffyg gwybodaeth ynghylch ethnigrwydd wedi ei effeithio.

"Fe wnaeth i mi deimlo'n ynysig, fel pe na bawn i wedi fy nghynnwys yn y byd canser," meddai.

"Cefais ddisgwyliad oes o chwech i 12 mis. Roedd hynny'n cael ei gefnogi'n ystadegol.

"Ond cefais fy nychryn pan ges i wybod nad yw'r ystadegau'n cynnwys y gymuned BAME (Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig). Oherwydd beth oedd fy nghanlyniad wedyn?"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Spike wedi gallu dychwelyd i hyfforddi clwb p锚l-droed dan 11 oed ei fab

Roedd Spike yn dad heini i ddau o blant, ac yn 49 oed, pan deimlodd boen yn ei ysgwydd am y tro cyntaf yn 2018.

Fe ddaeth sgan o hyd i"abormaleddau" ond cafodd sioc pan ddywedwyd wrtho yn syth ar 么l y sgan i fynd am brofion pellach.

Ar 么l pum niwrnod o brofion a sgrinio gwaed, cafodd y pensaer o Gaerdydd ddiagnosis ffurfiol o ganser cam pedwar.

"Dywedais, 'rwy'n meddwl bod gen ti'r person anghywir'."

Tra bod y canser wedi dechrau yn ei ysgyfaint, roedd wedi lledu i'w ymennydd, gan achosi'r poen yn ei ysgwydd.

Cyflwr prin ALK

Y cynllun cychwynnol oedd llawdriniaeth i geisio cyrraedd y tiwmor, ond yn ystod cyfarfod rhwng arbenigwyr, dywedodd yr oncolegydd clinigol ymgynghorol Dr Jason Lester y gallai Spike - nad yw'n ysmygu - fod 芒 chellwyriad genynnol prin o'r enw ALK.

Dywedodd fod cellwyriadau ALK yn anghyffredin iawn mewn canser yr ysgyfaint, gydag amlder uwch ymhlith pobl Asiaidd, o'i gymharu ag "amlder isel iawn" mewn pobl wyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Dr Jason Lester yn gwybod bod y cellwyriad genynnau ALK yn hynod brin, ond yn teimlo fod y profion genetig yn werth eu gwneud ar gyfer Spike

Roedd yn golygu bod Dr Lester "yn obeithiol iawn" y byddai tabled yn fwy buddiol i Spike, yn hytrach na llawdriniaeth i geisio tynnu cymaint o'r tiwmor 芒 phosib.

Tra bod Spike yn aros am ganlyniadau'r prawf genetig, gwaethygodd ei symptomau wrth i'r canser ledu i'w asgwrn cefn, ei arennau a'i lymffnodau, ac roedd hefyd yn magu pwysau oherwydd y steroidau yr oedd yn rhaid iddo eu cymryd.

Unwaith y canfuwyd y cellwyriad ALK cafodd ei roi ar gyffur o'r enw Alectinib.

"O fewn dyddiau roeddwn i'n teimlo'n wahanol," meddai. Ar 么l sawl mis roedd tiwmor yr ymennydd wedi mwy na haneru ac roedd pob organ arall yn glir o ganser.

Ffynhonnell y llun, Spike Elliott
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae sgan ymennydd Spike (chwith) yn dangos ei diwmor yn llai ar 么l triniaeth, o'i gymharu 芒'r tiwmor mwy ar y dde

"Rydw i nawr yn dechrau ffynnu. Sy'n gam enfawr o oroesi."

Mae ei iechyd bellach wedi gwella i'r graddau ei fod wedi dychwelyd i chwarae p锚l-droed a hyfforddi t卯m dan-11 ei fab.

'Bron yn dyfalu'

Fel dyn hil gymysg ei hun, mae Dr Lester yn cefnogi'r alwad am well data ethnigrwydd.

"Rydych chi bron yn gorfod dyfalu, mewn rhai ffyrdd, y mathau o ganserau y gallech chi eu gweld a sut y gallai'r unigolion hynny ymateb i driniaeth os ydyn nhw'n ddu oherwydd bod y data sydd ar gael yn wael iawn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Judi Rhys bod data ethnigrwydd yn amrywio dros Gymru

Dywedodd Judi Rhys o elusen ganser Tenovus nad oedd data ethnigrwydd cleifion yn cael ei gasglu fel mater o drefn, er gwaethaf mandad i wneud hynny.

Mae hi wedi ysgrifennu at y gweinidog iechyd yn galw am wneud mwy.

"Rydyn ni'n gwybod o ran canser, ar hyd y daith, bod ethnigrwydd yn broblem ac yn aml mae gan bobl o grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig ganlyniadau gwaeth," meddai.

"Rydym yn gwybod nad yw byrddau iechyd yn casglu'r data hwnnw fel mater o drefn - mae'r ffigyrau'n amrywio rhwng y byrddau iechyd o 15% i 55%.

"Rydym yn amlwg ymhell ar ei h么l hi, gyda llawer o waith i'w wneud yng Nghymru."

Ychwanegodd nad oes gan system TG newydd a ddefnyddir mewn gwybodeg canser yr opsiwn i fanylu ar ethnigrwydd claf.

'Ceisio dod o hyd i atebion'

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i nodi rhwystrau a dod o hyd i atebion i wella'r data a gesglir ar y pwynt cyswllt, gan gynnwys trwy ein huned tystiolaeth gwahaniaethau hiliol, fel bod mwy o ddata'n cael ei gasglu ac ar gael ar ethnigrwydd.

"Mae canllawiau a disgwyliadau cliriach hefyd yn cael eu datblygu ynghylch sut mae angen ystyried amrywiaeth wrth ddylunio a chyflwyno astudiaethau ymchwil iechyd. Bydd hyn yn dylanwadu ar y triniaethau a gynigir."

Pynciau cysylltiedig

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol