大象传媒

EFL: Clybiau Cymru'n cael gwybod trefn eu gwrthwynebwyr

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Matthew Ashton - AMA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llwyddodd Wrecsam i orffen ar frig y Gynghrair Genedlaethol, gan ddychwelyd i gynghrair b锚l-droed Lloegr

Bydd Wrecsam yn croesawu MK Dons i'r Cae Ras ddydd Sadwrn 5 Awst, wrth i'r t卯m o'r gogledd ddychwelyd i gynghrair Lloegr - yr EFL - ar 么l bwlch o 15 o flynyddoedd.

Cafodd holl gemau cynghrair yr EFL eu cyhoeddi fore Iau.

Hefyd ar 5 Awst fe fydd Abertawe yn dechrau eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth gartref yn erbyn Birmingham, tra'r diwrnod canlynol fe fydd Caerdydd yn teithio i Leeds.

Fe fydd Caerdydd yn croesawu'r Elyrch ar 16 Medi, gyda'r ail g锚m ddarbi yn Abertawe ar 16 Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Lewis Mitchell/Huw Evans Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe enillodd Abertawe y ddwy g锚m ddarbi yn erbyn Caerdydd y llynedd - y tro cyntaf i hynny ddigwydd

Fe fydd tymor newydd Casnewydd yn Adran Dau yn dechrau yn Accrington Stanley ar 5 Awst.

Bydd y t卯m o'r de-ddwyrain y teithio i'r Cae Ras ar 23 Rhagfyr, gyda'r ail ddarbi yng Nghasnewydd ar 20 Ionawr.

Fe fydd g锚m gartref cyntaf Caerdydd yn erbyn Queen's Park Rangers ar 12 Awst, a'u g锚m olaf o'r tymor yn erbyn Rotherham ar 4 Mai.

Bydd Abertawe yn gorffen y tymor gartref yn erbyn Millwall.

Ffynhonnell y llun, Gareth Everett
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Graham Coughlan olynu James Rowberry fel rheolwr Casnewydd yn Hydref 2022, gyda'r t卯m yn gorffen yn y 15fed safle

Fe fydd g锚m gartref gyntaf Casnewydd yn erbyn Doncaster ar 12 Awst, gan orffen y tymor yn erbyn Bradford ar 27 Ebrill.

Bydd tymor Wrecsam yn dod i ben ar y Cae Ras, gyda g锚m yn erbyn Stockport County.