Cyfnod o dywydd sych yn achosi lefelau afonydd isel
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwyr sychder wedi symud Cymru o statws 'arferol' i 'dywydd sych estynedig'.
Daw hyn yn sgil pryderon yngl欧n ag effaith prinder glaw sylweddol ar afonydd, lefelau d诺r daear a bywyd gwyllt.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud bod y wlad wedi profi'r ail fis Mai sychaf ers chwarter canrif.
Mae cwmn茂au d诺r yn dal i fynnu bod lefelau cronfeydd "mewn lle da", sy'n golygu bod cyfyngiadau ar ddefnydd dwr yn dal i fod yn annhebygol.
Sychach na'r disgwyl
Bu Gr诺p Cyswllt Sychder Cymru yn cwrdd fore Iau er mwyn derbyn diweddariad ar y sefyllfa.
Mae'r pwyllgor yn cynnwys arbenigwyr o CNC, y Swyddfa Dywydd, cwmn茂au d诺r, Iechyd Cyhoeddus Cymru, undebau amaeth, cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru.
Er gwaethaf stormydd diweddar, fe ddywedodd CNC bod llif afonydd ar draws Cymru yn isel ar hyn o bryd ar gyfer yr adeg yma o'r flwyddyn.
Mae lefelau d诺r daear hefyd wedi bod yn encilio, gyda rhai safleoedd yn eithriadol o isel a phriddoedd yn sychach na'r disgwyl.
Mae'r corff eisoes wedi cyhoeddi cyngor i bysgotwyr o ran yr effaith mae tymereddau uchel yn ei gael ar eog a sewin.
Ac mae Sefydliad Gwy ac Wysg wedi galw ar bobl i beidio 芒 physgota ar rannau o'r afonydd tan fod tymheredd y d诺r yn disgyn.
Dywedodd CNC bod eu swyddogion hefyd yn darparu cymorth i ddiffoddwyr t芒n wrth fynd i'r afael 芒 tanau gwair niferus sydd wedi gwaethygu gan y tywydd sych.
Gwaharddiad pibellau d诺r yn annhebygol
Ym mis Mai, fe dderbyniodd Cymru 41% o'i glawiad cyfartalog tymor hir, gan olygu mai dyma oedd y mis Mai sychaf ond un yn y 25 mlynedd diwethaf, gyda 2020 yn unig yn sychach.
Ond wedi gaeaf gwlyb, mae'r cwmn茂au d诺r sy'n gwasanaethu Cymru'n dweud nad ydyn nhw'n poeni yngl欧n 芒 chyflenwadau pobl ar hyn o bryd ac maent eisoes wedi dweud bod cyfyngiadau fel gwaharddiadau ar ddefnyddio pibellau d诺r yn annhebygol.
Ar 8 Mehefin dywedodd Dwr Cymru bod eu cronfeydd 92.21% yn llawn yn y gogledd ddwyrain, 84.5% yn llawn yn y gogledd orllewin, 80.74% yn llawn yn y de ddwyrain ac 87.9% yn llawn yn y de orllewin.
Llynedd fe brofodd Cymru sawl mis o statws tywydd sych estynedig cyn i ardaloedd ddechrau symud i mewn i sychder swyddogol o ganol Awst.
Cafodd y cyfnod ei ddisgrifio yn hwyrach fel y gwanwyn a'r haf sychaf yng Nghymru ers 150 o flynyddoedd.
Dywedodd CNC bod tywydd sych estynedig yn ddigwyddiad naturiol sydd wedi dod yn fwy tebygol wrth i newid hinsawdd waethygu.
Dywedodd Natalie Hall, rheolwr d诺r cynaliadwy CNC, bod y newid statws yn golygu "cynyddu ein camau gweithredu a'n monitro ar draws Cymru i helpu lliniaru'r effeithiau ar yr amgylchedd, y tir, defnyddwyr d诺r a phobl, ac ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol".
Ychwanegodd: "Er mwyn sicrhau y gellir parhau i ddarparu d诺r heb niweidio'r amgylchedd, anogir y cyhoedd a busnesau ar draws Cymru i ddefnyddio d诺r yn ddoeth a rheoli'r adnodd gwerthfawr hwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2023
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023