大象传媒

Bad achub newydd gwerth 拢2.5m yn cyrraedd Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bad achub newydd Ceinewydd yn 'freuddwyd'

Mae bad achub pob tywydd newydd gwerth 拢2.5m wedi cyrraedd gorsaf yr RNLI yng Ngheinewydd, Ceredigion.

Mae'r bad achub Shannon newydd wedi cymryd lle'r un blaenorol fu'n gwasanaethu Bae Ceredigion ers dros 30 o flynyddoedd.

Yn 么l elusen Gwylwyr y Glannau, fe fydd bad achub newydd yn haneru'r amser ymateb.

Roedd y criw yn hynod falch o groesawu'r bad achub modern i Geinewydd ddydd Sul.

Dywedodd Roger Couch, rheolwr gweithrediadau Bad Achub RNLI Cei Newydd ei fod yn "brofiad unwaith mewn cenhedlaeth".

"Roedd y cwch blaenorol, bad achub dosbarth Mersey, wedi bod yma ers 1991," meddai.

"Roedd yn hen dechnoleg ac nid oedd yn ddigon cyflym. Ei gyflymder uchaf oedd 16 knot, tra bod cyflymder uchaf dosbarth Shannon yn 25 knot.

"Byddwn yn gallu ymateb i alwadau ym mhob math o dywydd a phellter a bydd yn haneru'r amser i gyrraedd yno."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l elusen Gwylwyr y Glannau, fe fydd bad achub newydd yn haneru'r amser ymateb.

Ychwanegodd: "Bydd yr effaith achub bywyd, fel rydyn ni'n ei alw, yn cael ei wella'n aruthrol a bydd y Shannon gyda ni am y 25 mlynedd nesaf."

Cyrhaeddodd bad achub dosbarth Shannon orsaf bad achub yr RNLI ddydd Sul ar 么l taith a barodd bron i wythnos.

Aeth pum aelod o griw'r RNLI i'w n么l o Ganolfan Gymorth Poole yn Dorset cyn teithio drwy Gernyw, Iwerddon, Pwllheli ac yn olaf, Harbwr Cei Newydd.

Dywedodd Daniel Potter, llywiwr cwch RNLI Cei Newydd ei fod "wrth ei fodd" o gael ei ddewis i ddod 芒'r Shannon adref, gan ddweud bod yr holl brofiad wedi bod yn "anrhydedd gwirioneddol".

'Breuddwyd'

Cafodd y Shannon ei chroesawu adref ddydd Sul gan y gymuned gyfan, a oedd yn dathlu mewn steil gyda pharti ar y pier.

Disgrifiwyd y foment hanesyddol hon gan yr elusen fel "breuddwyd", ar 么l i gynlluniau gael eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2017 i gael gwared ar fad achub Mersey a'i disodli 芒 bad achub llai.

Roedd ymgyrchwyr yn ofni y byddai'n gadael bwlch o 70 milltir ar draws Ceredigion ac y gallai beryglu bywydau.

Cei Newydd yw'r unig fad achub aml-dywydd yng Ngheredigion.

Croesawyd y penderfyniad felly ar draws y sir i uwchraddio'r bad achub yn hytrach na lleihau'r gwasanaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r bad achub yn un aml-dywydd gwerth 拢2.5m

Dywedodd Roger Couch fod y weledigaeth wedi troi'n realiti o'r diwedd.

"Mae'n gam ymlaen yn yr ystyr bod yr RNLI wedi penderfynu gwneud y buddsoddiad yma ym Mae Ceredigion," meddai.

"Rydym ar ben ein digon. Byddwn yn parhau i'w ddefnyddio ar gyfer y gwaith rydym yn ei wneud."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gymuned leol wedi bod yn brysur yn casglu arian

Mae'r gymuned leol wedi cefnogi'r gwasanaeth ers y dechrau, ac wedi bod yn gweithio'n galed i geisio codi dros 拢100,000 tuag at gostau cludiant a hyfforddiant ar gyfer y criw.

Mae gan y cwch newydd jet d诺r yn hytrach na'r hen gwch confensiynol gyda llafnau gwthio.

'Prysur yn hyfforddi'

Dywedodd Huw Williams, dirprwy lywiwr cwch RNLI Ceinewydd: "Mae holl lyw-wyr cychod a mecanyddion yr orsaf wedi gwneud wythnos i lawr yng ngholeg yr RNLI yn Poole i ddysgu sut i yrru a gweithredu'r cwch newydd ac i ddod yn gyfarwydd 芒'r dechnoleg newydd.

"Ar ben hynny, rydyn ni wedi gwneud llawer o hyfforddiant arall hefyd.

"Rydyn ni wedi cael bad achub dosbarth Shannon newydd i hyfforddi arno tra roedd ein un ni yn cael ei ddosbarthu felly rydyn ni wedi bod yn brysur ers wythnosau bellach yn hyfforddi."

Gyda'r diwrnod yn nodi dechrau cyfnod hyfforddi trwyadl yn unig, gall pobl ddisgwyl gweld bad achub pob tywydd Shannon ar waith ymhen ychydig fisoedd.

Pynciau cysylltiedig