大象传媒

Goroesi damwain car i gaiacio'n rhyngwladol

  • Cyhoeddwyd
Llinos OwenFfynhonnell y llun, A Edmonds

Mae Llinos Elin Owen, sy'n wreiddiol o Bwllheli, yn gerddor proffesiynol ac yn chwarae'r bas诺n i gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.

Ond mae hi hefyd yn caiacio'n gystadleuol yn rhyngwladol, yn dilyn damwain car ddifrifol, a'i gwnaeth yn gymwys i ddod yn aelod o'r t卯m Paralympaidd Prydeinig.

Gwrandewch ar Llinos yn sgwrsio ar raglen Bore Sul ar 大象传媒 Radio Cymru.

Yn dilyn damwain car bach ger Caergrawnt yn 2009, roedd Llinos yn sefyll wrth ei char, pan cafodd ei tharo gan gar arall ar gyflymder o 50mya, eglurodd:

"Dwi'n lwcus i fod yma o gwbl achos, fel arfer os da chi'n cael eich hitio dros 20 neu 30mya, 'da chi'n annhebygol o oroesi.

"Shattered pelvis oedd y prif anaf. 'Nes i dorri chwech asen, collarbone a punctured lung ond o'dd rheiny yn llai difrifol ac yn trwsio eu hunain.

"Ond efo'r shattered pelvis, 'nes i orfod aros yn yr ysbyty am rhyw chwech wythnos, wedyn yn gorfod gorwedd ar fy nghefn am 10 wythnos achos mod i ddim yn cael plygu yn y pelfis tra o'dd hwnnw'n setlo ar 么l y llawdriniaeth.

Ffynhonnell y llun, Llinos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

D么s boreuol o dabledi - roedd rhaid i Llinos gymryd tua 46 y dydd pan oedd hi'n yr ysbyty

"Fues i mewn cadair olwyn am ychydig fisoedd a dysgu'n ara' bach sut i gerdded eto. Adeg hir ac araf, a dwi'n meddwl mod i'n disgwyl, ar ddiwadd y ddwy flynedd o wella o'ddan nhw 'di ddeud, y byswn i'n well well. Do'n i ddim wedi ystyried y baswn i ddim fel o'n i o'r blaen."

Newid byd

A hithau wedi arfer cadw'n ffit a bywiog, cafodd Llinos drafferth dod i delerau 芒'r ffaith na fyddai'n medru rhedeg neu hyd yn oed mynd am dro neu sefyll yn hir eto.

"Mi gymrodd hi rhyw ddwy flynedd i'r anaf setlo, ac mae'n cymryd rhyw ddwy-dair blynedd i dderbyn yr hunaniaeth newydd. Dwi r诺an yn berson sydd ddim yn medru cerdded mynyddoedd neu mynd am dro - [roedd rhaid] trio ffeindio ffordd newydd o fyw.

"'Nes i drio can诺io fel rhywbeth o'n i'n medru ei wneud i fod yn actif a gweld natur, ond ar fy eistedd. Ar y dechrau, defnyddio un inflatible a mynd allan ar y m么r - wrth fy modd! Ond gneud am hwyl o'n i."

Ffynhonnell y llun, Llinos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn gweithio'n galed iawn ar y peiriant ymarfer ar y diwrnod cyntaf o brofion ym mis Mehefin 2018

Ond newidiodd hynny yn 2018, pan welodd hi neges ar Twitter a oedd yn gwahodd ceisiadau gan bobl anabl, sydd yn mwynhau gwneud chwaraeon.

"'Nes i yrru ffurflen gais, yn meddwl 'san nhw'n gwrthod gan mod i'n 36 oed ac yn gerddor! Ond yn digwydd bod, o'ddan nhw'n chwilio am ferched efo anabledd tebyg i'n un i i'r sgwad caiacio Paralympaidd.

"Fis Mehefin 2018, es i gael profion ffitrwydd, o'dd yn eitha' sg锚ri - roedd 'na fwced drws nesa' i bob peiriant rhag ofn i chi fod yn s芒l! O'ddan nhw'n gwthio ni'n rili caled.

"Wedyn ges i wahoddiad i wneud profion mwy penodol yngl欧n 芒 caiacio, wedyn tri training camp i weld os oedden ni'n gwella a dysgu. Ges i fy nerbyn ar y t卯m Paralympaidd yn 2019."

Ffynhonnell y llun, Llinos Owen

Amserlen lawn

Y dyddiau yma, mae dyddiau Llinos yn orlawn, wrth iddi geisio cadw ei holl ymrwymiadau; y caiacio a'r gerddoriaeth. Pan nad ydi hi'n ymarfer neu'n perfformio'i bas诺n, mae hi i'w gweld yn gwneud math gwahanol o ymarfer, a hynny ar yr afon yng Nghaerdydd.

"Dwi'n hyfforddi chwech diwrnod yr wythnos allan yn y Bae, i fyny'r afonydd El谩i a'r Taf. Mae gen i galendr yn dweud pryd dwi'n gweithio, pryd dwi'n gallu bod allan ar yr afon, pryd dwi'n y gym... ac yn bwysicach, pryd dwi'n gorffwys!"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynrychiolodd Llinos Brydain yng Nghwpan y Byd 2022 yng Ngwlad Pwyl

Ac mae lefel yr hyfforddi mae'n rhaid i Llinos ei wneud er mwyn aros ar frig ei champ yn sicr yn swnio'n anodd - felly beth sydd yn ei hannog i barhau?

"Dwi'n gystadleuol, a dwi'n mwynhau ennill, ac mae hynny'n fy ngwthio i drwy'r dyddiau caled pan dwi'n crio ar y d诺r neu pan dwi'n chwydu ar 么l trainio...

"Ond hefyd, dwi'n ymwybodol, fedra i mond controlio pa mor dda fedra i 'neud; os oes 'na bobl eraill yn ffastiach na fi, dyna fo, dwi'm gwaeth.

"Dwi eisiau gwneud y gorau fedra i ei wneud, a digwydd bod, ar y funud, mae hynny ddigon da i fod yn cystadlu'n rhyngwladol sydd yn wych, a dwi'n rili mwynhau mynd allan i wledydd gwahanol a chyfarfod pobl gwahanol a chystadlu."

Byw bywyd i'r eitha'

Yr her nesaf ar y gorwel i Llinos yw i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth Paracan诺io Ewrop draw ym Mhortiwgal ddiwedd Gorffennaf.

Fel rhywun, bymtheg mlynedd yn 么l, oedd heb unrhyw uchelgais o fod yn athletwraig lwyddiannus, mae'r ffaith ei bod yn gallu cystadlu mewn pencampwriaethau rhyngwladol dal yn syndod iddi, meddai, ond mae hi'n ceisio gwerthfawrogi pob cyfle.

"Mae 'na lot o athletwyr yn cael problemau efo iechyd meddwl pan 'da chi'n rhoi gymaint o pressure dros gael medal neu ddod yn gyntaf.

"Mae angen trio cadw pethau mewn persbectif, yn enwedig efo anabledd; mae'n gyfle gwych dwi wedi ei gael oherwydd yr anabledd - i fod yn hyfforddi ar y lefel uchel yma - faswn i ddim 'di gael cyn y ddamwain.

Ffynhonnell y llun, Llinos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn cystadlu mewn National Regatta yn Nottingham

"Dwi wirioneddol yn teimlo mai lwc ydi hyn - mae'n lwc medru c么pio efo hyn. Ella jyst lwc bod rhai pobl yn medru deud 'dwi ddim am adal i hyn fy niffinio fel person, dwi isho gneud y gora' medra i o mywyd o hyn allan'."

A dyna'n union beth mae Llinos am ei wneud, er ei fod dal yn anodd iddi ei gredu weithiau.

"Dwi dal ddim yn coelio ei fod o'n dod allan o ngenau i... "Sori, fedra i ddim dwad i'r cyngerdd yna achos dwi'n hyfforddi efo t卯m Paralympaidd caiacio..."! Dyna dwi wedi ffeindio'n hun yn ei 'neud 'wan!"

Ffynhonnell y llun, David Gange
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llinos yn ei helfen - mewn caiac, ynghanol y m么r!

Cafodd fersiwn o'r erthygl yma ei chyhoeddi yn Ionawr 2019

Hefyd o ddiddordeb: