大象传媒

Peilota cylchgronau hanes a chwaraeon Cymraeg newydd

  • Cyhoeddwyd
cylchgronau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y Cyngor Llyfrau y byddai'r cylchgronau newydd yn "ychwanegu pynciau newydd i'r farchnad"

Bydd dau gylchgrawn Cymraeg newydd yn cael eu peilota eleni ar 么l i'r Cyngor Llyfrau roi grantiau o 拢30,000 yr un i'w cynhyrchu.

Bydd Gwasg Carreg Gwalch yn lansio cylchgrawn hanes newydd o'r enw Hanes Byw, tra bydd Golwg yn creu cylchgrawn digidol am chwaraeon.

Yn gynharach eleni mi ddaeth cylchgrawn Llafar Gwlad i ben - cylchgrawn chwarterol oedd wedi bodoli ers Eisteddfod Genedlaethol Llangefni yn 1983.

Rhybuddiodd cyn-weinidog diwylliant, Rhodri Glyn Thomas bod angen diogelu cylchgronau sy'n bodoli eisoes a dysgu gwersi o'r gorffennol.

Fe fydd y grantiau yn para am flwyddyn, meddai'r Cyngor Llyfrau, ar 么l sylwi "ar fwlch yn y ddarpariaeth".

Dywedodd Arwel Jones, pennaeth datblygu cyhoeddi y Cyngor Llyfrau: "Rydym ni'n falch iawn o gefnogi peilot ar gyfer y ddau gylchgrawn yma sy'n ychwanegu pynciau newydd i'r farchnad cylchgronau Cymraeg."

Yn trafod eu cynlluniau ar gyfer y cylchgrawn hanes newydd dywedodd Owain ap Myrddin, o Wasg Carreg Gwalch: "Yr hyn a anelir ato yw codi straeon o hanes ac archaeoleg, gwreiddiau geiriau a chwedlau, traddodiadau a chelfyddyd sy'n berthnasol o hyd i'n bywydau heddiw, yn taflu golau ar ambell broblem gyfoes.

"Bydd hefyd yn cynnwys elfennau stor茂ol, hanes llawr gwlad y byddai trwch y gymdeithas Gymraeg yn medru ymhyfrydu ynddo a theimlo'n gyfforddus i gyfrannu iddo."

Dywedodd Owain Schiavone, Prif Weithredwr Golwg: "Mae Golwg yn falch iawn o'r cyfle i arbrofi gyda chylchgrawn chwaraeon newydd ac mae'r cynlluniau sydd gennym yn rai cyffrous.

"Rydym yn awyddus i geisio datblygu gwasanaeth sy'n arloesol yn y Gymraeg ac sy'n cynnig sylwebaeth arbenigol ar nifer o gampau gwahanol - o'r rhai prif ffrwd a phoblogaidd i chwaraeon llai amlwg."

Bydd y ddau gylchgrawn yn derbyn cyllid gan y Cyngor Llyfrau diolch i arian grant gan Cymru Greadigol.

Bydd Hanes Byw yn cael ei lansio ar 28 Medi, gyda phedwar rhifyn y flwyddyn, tra bydd Golwg yn lansio eu cylchgrawn chwaraeon erbyn yr hydref.