Dros 500 i golli swyddi wrth gau safle offer meddygol

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cwmni'n bwriadu dod 芒 gwaith cynhyrchu i ben ym Mhen-y-bont, ond bydd canolfan ddosbarthu'r safle'n parhau ar agor

Mae disgwyl i 540 o bobl golli eu swyddi wrth i safle Zimmer Biomet ym Mhen-y-bont ar Ogwr gau.

Mae'r cwmni'n cynhyrchu dyfeisiau meddygol, gyda safle ar Stad Ddiwydiannol Waterton.

鈥疍ywed y cwmni bod rheolwyr lleol wedi cyfarfod cynrychiolwyr undeb a gweithwyr i'w cynghori ynghylch cynnig i ddod 芒 gwaith cynhyrchu yno i ben.

Ychwanegodd cyfarwyddwr y ffatri, Maria Silva y bydd y cwmni nawr yn "dechrau ymgynghoriad i bwyso a mesur camau amgen a sut mae cyfyngu a nifer y diswyddiadau".

Mewn datganiad a gafodd ei rhyddhau yn syth wedi i'r gweithwyr adael, fe ddywedodd y cwmni eu bod yn cyflogi 540 o weithwyr yn ardal gweithgynhyrchu'r safle ym Mhen-y-bont.

"Rydym yn cydnabod effaith cau ar aelodau'r t卯m a'r gymuned, ac rydym wedi ymrwymo i drin pobl gydag urddas a pharch, ac i fod mod agored 芒 phosib gydol yr ymgynghoriad.

"Ein ffocws yw cynnal cadwyn gyflenwi gadarn a danfoniadau dibynadwy i'n cwsmeriaid. Os bydd yna benderfyniad i symud ymlaen, rydym wedi cynllunio sut i drosglwyddo gwaith cynhyrchu yn ddiogel ac yn effeithiol i leoliadau eraill o fewn rhwydwaith byd-eang Zimmer Biomet."

Ychwanegodd y datganiad nad yw'r cyhoeddiad yn effeithio ar aelodau staff dosbarthu masnachol ym Mhen-y-bont, a bod y cwmni'n bwriadu parhau i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu yn y DU.

'Awyrgylch yn drwm' ym Mhen-y-bont

Gan David Grundy, gohebydd 大象传媒 Cymru ar y safle

Fe gyrhaeddodd llif cyson o aelodau staff o 10:30 ymlaen, gan fynd trwy'r gi芒t diogelwch i'r ffatri.

Roedd yr awyrgylch yn drwm a neb braidd yn dweud gair.

Disgrifiad o'r llun, Wedi cyfarfod byr fe adawodd aelodau staff y ffatri yn cludo amlenni gwyn

Dywedodd un dyn, nad oedd am i mi ei enwi, wrtha'i: "Dydyn ni ddim yn gwybod beth maen nhw am ddweud wrthon ni, ond dyw e ddim yn mynd i fod yn dda, nad yw?"

Cafodd staff eu gweld yn gadael yr adeilad yn fuan wedi hynny, yn cludo amlenni gwyn.

Dywedodd un dyn wrth y 大象传媒 wrth adael eu bod wedi cael rhybudd "nad ydyn ni'n cael dweud wrthoch chi" beth oedd neges y rheolwyr i'r staff.

Dywed yr undeb Unite eu bod yn bwriadu "brwydro dros swyddi a dyfodol cynaliadwy i'r safle" yn ystod "y cyfnod ymgynghori chwe mis".

Yn 么l Ysgrifennydd Rhanbarthol yr undeb yng Nghymru, Peter Hughes, fe fydd Unite "yn archwilio pob ffordd bosib i atal y cynnig presennol rhag mynd yn ei flaen".

Ychwanegodd: "Mae bron i 550 o swyddi sgiliau a th芒l uchel yn y fantol yn y fan hyn, a ni allai ardal Pen-y-bont ymdopi 芒'r effaith economaidd yn sgil cau'r safle."

Disgrifiad o'r llun, Dywed y cwmni eu bod yn gobeithio edrych ar ffyrdd o gyfyngu ar nifer y diswyddiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori

Mae'r cwmni'n un o'r cyflogwyr mwyaf yn ardal Pen-y-bont, ac yn y 100 uchaf o ran trosiant yng Nghymru.

Fe dderbyniodd y cwmni 拢700,000 gan Lywodraeth Cymru fel rhan o gynllun gwerth 拢2.5m i ehangu'r safle yn 2016, gan greu 40 o swyddi.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething bod y newyddion "yn siomedig eithriadol" ac "yn destun pryder dwfn i staff Zimmer Biomet a'r gymuned ehangach".

"Mae Llywodraeth Cymru nawr yn trafod gyda'r cwmni i ddeall rhesymeg y penderfyniad yma ac archwilio unrhyw opsiynau i warchod y swyddi yma.聽

"Ein blaenoriaeth nawr yw cefnogi'r staff sy'n cael eu heffeithio gan gyhoeddiad heddiw. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yr Adran Waith a Phensiynau ac undebau llafur y ffatri i sicrhau bod gweithwyr yn cael y gefnogaeth sydd angen arnyn nhw."

'Sioc lwyr'

Daw'r newyddion yn dilyn ergydion mawr eraill i'r ardal dros flynyddoedd diweddar, gyda Ford yn cau safle a cholli 1,700 o swyddi yn 2020, a Sony yn cau ffatri yn 2005 gyda cholled 900 swydd.

Dywed gr诺p o wleidyddion Llafur yn yr ardal - AS Pen-y-bont ar Ogwr, Sarah Murphy, AS Ogwr, Huw Irranca-Davies, Aelod Seneddol Ogwr, Chris Elmore ac arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David - eisoes wedi cysylltu gyda llywodraethau Cymru a'r DU "i gydweithio'n uniongyrchol ac ar frys gyda Zimmer Biomet i edrych ar bosibiliadau eraill yn hytrach na'r diswyddiadau yma".

"Mae'r newyddion wedi dod yn sioc lwyr i'r gweithlu medrus a ffyddlon, y mae llawer ohonyn nhw wedi gweithio yma am ddegawdau," medd datganiad ar eu rhan.

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae gweithwyr Zimmer Biomet yn 'wynebu haf tywyll', medd y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar y llywodraeth am weithredu ar frys mewn ymateb i gyhoeddiad "ysgytwol" ddydd Iau.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd yr ASau Ceidwadol yn rhanbarth Gorllewin De Cymru, Dr Altaf Hussain MS a Tom Giffard: "Dro ar 么l tro, mae Pen-y-bont a'r ardal leol yn cael eu taro gan ddiswyddiadau llethol gyda chyflogwyr mawr yn cefnu ar Gymru, gan adael bylchau mawr yn ein hardaloedd a rhoi loes i deuluoedd a'r gymuned."

Dywedodd yr ASau bod angen i'r llywodraeth Lafur "fynd ati i ddenu cwmn茂au i Ben-y-bont a'u cefnogi i ffynnu", gan ychwanegu: "Byddwn ni'n gweithio gyda'r rheiny sydd nawr yn wynebu haf tywyll, i roi iddyn nhw y gefnogaeth angenrheidiol ac i ddal Llywodraeth Cymru i gyfri' i sicrhau swyddi newydd ar gyfer ein rhanbarth."